成人快手

Actor o F么n yn gwireddu breuddwyd ar Doctor Who

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Gw茂on Morris Jones yn gyfarwydd i wylwyr S4C fel y rafin, Carbo, yn y gyfres ddrama Dal y Mellt.

Ers ymddangos yn y gyfres honno, a gafodd ei gwerthu i'r gwasanaeth ffrydio Netflix 鈥 y ddrama Gymraeg gyntaf i wneud hynny 鈥 mae'r actor ifanc wedi bod yn brysur eithriadol.

Ond nawr, mae'r hogyn o F么n yn mynd i weld ei freuddwyd yn dod yn wir pan fydd o'n ymddangos mewn pennod o Doctor Who.

Ffynhonnell y llun, Gw茂on Morris Jones

Wrth s么n am ymddangos yn y gyfres dywedodd Gw茂on wrth Cymru Fyw:

"Ers o鈥檔 i鈥檔 ifanc, o鈥檔 i鈥檔 mynd i鈥檙 Doctor Who Experience yng Nghaerdydd a鈥檙 hen le yn y Red Dragon Centre a dw i wedi sdicio efo鈥檙 gyfres ers hynny.

"O hynny ddes i鈥檔 obsessed efo gwaith Russell T Davies a bob dim mae o wedi鈥檌 greu.

"Oedd Queer as Folk yn uffar o ddylanwad arna i pan o鈥檔 i鈥檔 fengach, wedyn Cucumber a Banana ar 么l hynny. Dw i jyst wedi dilyn ei yrfa fo. Felly i gael cynnig dod i weithio ar un o鈥檌 sgriptiau fo wedyn...does gen i ddim geiriau."

Croeso i'r Whoniverse

Roedd yn brofiad rhyfedd iddo gamu ar y set meddai:

"Dw i鈥檔 meddwl nath o鈥檔 hitio fi pan nes i gamu mewn i 鈥檔hrelar ac oedd 鈥檔a gardyn bach yna gan y t卯m cynhyrchu. A鈥檙 unig oedd o oedd logo bach Doctor Who ar y ffrynt a dyma fi鈥檔 agor o wedyn i neges bach yn dweud 鈥Welcome to the Whoniverse鈥.

"Nath hynna jyst gneud fi feddwl 鈥榦ce waw dw i鈥檔 rhan o hyn r诺an鈥."

Ffynhonnell y llun, gw茂on morris jones

Dechrau actio

I fod wedi cyflawni breuddwyd ag yntau mor gynnar yn ei yrfa mae'n ddifyr clywed Gw茂on yn s么n am ble ddechreuodd ei gariad at berfformio.

"Dw i wedi bod yn hogyn 鈥檚teddfod erioed, a pan o鈥檔 i yn fy arddegau nes i ddechrau cael mwy o lwyddiant yn yr adran unawd sioe gerdd. Nes i ennill honna rhyw ddwy/dair gwaith yn y Genedlaethol, dw i鈥檔 meddwl.

"Dyna ro鈥檛h yr hwb i mi i feddwl bod hyn ddim yn rhywbeth dw i鈥檔 鈥檔eud am laff, mae o鈥檔 rhywbeth fedra鈥 i ddilyn fel gyrfa.

"Y flwyddyn honno o鈥檔 i鈥檔 gadael 鈥檙ysgol a nes i gymryd blwyddyn allan a penderfynu 鈥檔a i gael go ar actio, 鈥檔a i drio fo. Ond doedd gen i ddim syniad be鈥 o鈥檔 i鈥檔 鈥檔eud!"

Ffynhonnell y llun, Sally J Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gw茂on dal i ymwneud ag eisteddfodau lleol. Roedd yn arwain Eisteddfod Marianglas yn gynharach eleni.

Gyda'i flwyddyn allan fe wnaeth Gw茂on lawer o ymchwil, sawl clyweliad a nifer o geisiadau am le mewn ysgol ddrama. Cafodd ei dderbyn i'r Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain, a symudodd yno yn 2018.

"Pan ddaeth y llythyr cyntaf 鈥檔a i ddweud 鈥檓od i wedi cael i mewn, dyna oedd y foment lle nes i feddwl 'oc锚, dydi hyn ddim yn chwarae bach ddim mwy. Dw i 鈥檇i cael fewn. Dw i鈥檔 mynd.鈥

'Wedyn ddaeth yr holl rigmar么l o symud i Lundain a gweithio hynny allan. Lle fyswn i鈥檔 byw? Doedd gen i ddim syniad sut i fyw mewn dinas, hogyn y wlad o鈥檔 i 'de?!

"Nid yn unig o鈥檔 i鈥檔 cael y learning curve enfawr 鈥檔a efo hyfforddiant proffesiynol actio, oedd mor wahanol i unrhyw hyfforddiant eisteddfodol o鈥檔 i wedi鈥檌 gael cynt, ro鈥檔 i hefyd yn addasu i fyw mewn dinas ac roedd hynny鈥檔 dipyn o sioc i鈥檙 system hefyd."

Dwy iaith, dau ddiwydiant

"Be鈥 sy鈥檔 fendith mawr i 鈥檔gyrfa fi ydy bod gen i ddau ddiwydiant i chwarae ato fo. Mae鈥檙 ddau wedi bwydo鈥檌 gilydd. Dw i鈥檓 yn meddwl y baswn i wedi gallu gwneud be鈥 dw i wedi鈥檌 wneud yn Saesneg heb wneud Dal y Mellt.

Ffynhonnell y llun, S4C/VOX Pictures

"Dw i鈥檔 meddwl oedd Dal y Mellt, cyfres un, fel rhyw ail ysgol ddrama i mi. Yn y dair blynedd 鈥檔a yn coleg, pythefnos wnaethon ni ar actio sgrin.

"Mae Central yn ysgol draddodiadol, a鈥檙 farn gyffredinol ydi mai actio llwyfan ydi actio yn ei buraf ffurf a鈥檙 unig beth ti angen 鈥檔eud ar gyfer teledu ydi 鈥tone it down鈥 ond fysa hynny鈥檓 yn gallu bod dim pellach o鈥檙 gwir.

"Mae nyled i鈥檔 fawr i Rory Taylor, y Director of Photography ar Dal y Mellt, achos nath o jyst dysgu bob dim i mi o ran techneg camera 鈥 y dechneg benodol o 鈥榙yma lle mae鈥檙 focus yn fa鈥檓a, dyma lle ti angen hitio鈥. Pethau doedd gen i ddim syniad amdano fo.

"A dwi mor ddiolchgar am Dal y Mellt. Fyswn i ddim yr un actor heb Dal y Mellt."

'Blwyddyn anhygoel'

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Gw茂on wedi ymddangos mewn nifer o ddram芒u gan gynnwys cynhyrchiadau i Apple TV, ITV a'r 成人快手 a bu rhaid iddo ffitio ffilmio Doctor Who mewn i'w amserlen brysur.

"Oedd hi鈥檔 gyfnod prysur prysur iawn i mi pan o鈥檔 i鈥檔 ffilmio鈥檙 bennod Doctor Who. Mi oedd 2022 yn flwyddyn anhygoel. Mi wnes i gyfres gyntaf Dal y Mellt, nes i Wolf, nes i The Winter King, nes i Doctor Who ac Itopia yn Gymraeg.

"Felly nes i weithio ar bum cynhyrchiad teledu mewn blwyddyn ac o鈥檔 i mor lwcus!

"Pan o鈥檔 i鈥檔 mynd mewn i 鈥檔eud Doctor Who o鈥檔 i鈥檔 gorfod slotio fo mewn i鈥檙 dyddiau off oedd gen i o The Winter King. Felly oedd o鈥檔 brofiad ofnadwy o od i gamu rhwng dau gymeriad hollol wahanol, efo acenion gwahanol, osgo gwahanol a bob dim."

Cadw'r gyfrinach

Mae cyfrinachedd ar gynhyrchiad Doctor Who yn dynn, gyda'r actorion weithiau ddim ond yn cael gwybod yr hyn sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu r么l.

Ac yntau wedi ffilmio'r bennod ym mis Rhagfyr 2022 a'r cyhoeddiad ei fod o ynddi ddim yn cael ei wneud tan fis Mawrth 2024, roedd cadw'r gyfrinach oddi wrth un person yn dipyn o her i Gwion.

"Peidio dweud wrth Nain oedd y peth anoddaf, deud gwir! 鈥機hos dw i鈥檔 d'eud bob dim wrth Nain.

"Roedd hi wedi gweithio allan bod 鈥檔a un peth bach do鈥檔 i鈥檓 yn ei ddweud wrthi. Oedd hi鈥檔 rhyw brocio a rhyw holi a dw i鈥檔 meddwl ebryn diwedd 鈥檔ath hi rhyw fath o ddallt 鈥淒octor Who ydy o Gwion?!鈥 Ond eto, do鈥檔 i鈥檓 yn cael dweud wrthi nes y cyhoeddiad gan Doctor Who Magazine."

'Tend your dream'

Wrth ei holi am sut mae wir yn teimlo i fod ar y gyfres eiconig hon, mae Gw茂on yn dweud:

"Neshi dyfu fyny ar Doctor Who a mae 鈥檇i bod i raddau yng nghefn fy meddwl i mai dyna oedd y g么l efo fy ngyrfa i 鈥 dim ots be arall sy鈥檔 digwydd dw i isio bod ar Doctor Who. Bod hynny wedi digwydd blwyddyn ar 么l i mi raddio 鈥 dyna pryd ges i 鈥檔ghastio 鈥 chwalu pen!

"Ar y pryd, o鈥檔 i鈥檔 gwrando lot ar Merrilly We Roll Along gan Sondheim, mae鈥檔 s么n lot am freuddwydion, ac un o鈥檙 leins yn honna ydi 鈥榯end your dream鈥 ac oedd honna jyst yn ringian yn fy mhen i wrth i mi fynd i ffilmio."

Bydd y gyfres newydd o Doctor Who, gyda Ncuti Gatwa fel y Doctor, yn dechrau nos Sadwrn, Mai 11 ar 成人快手 One.

Pynciau cysylltiedig