Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn yn cyfaddef ceisio llofruddio menyw feichiog
Mae dyn 29 oed wedi cyfaddef ceisio llofruddio menyw feichiog yn ne Cymru ym mis Rhagfyr.
Yn Llys y Goron Caerdydd, fe wnaeth Daniel Popescu bledio'n euog i geisio llofruddio Andreea Pintili yn Aberfan.
Cafodd Ms Pintili ei chludo i'r ysbyty ar 么l cael ei thrywanu ar Stryd Moy ar 5 Rhagfyr.
Fe wnaeth Popescu hefyd gyfaddef troseddau stelcian yn ymwneud 芒 dilyn Ms Pintilli, ceisio ei ffonio o rifau cudd a'i recordio a rhannu'r delweddau ar wefannau cymdeithasol.
Fe fydd Popescu yn cael ei ddedfrydu ym mis Mai, ac fe gafodd wybod y byddai'n cael ei garcharu.
Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke mai "dim ond dedfryd o garchar sy'n addas yn yr achos".
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.