Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llechan L芒n o'r diwedd i Gwilym ar 么l Covid
Er eu llwyddiant, mae鈥檙 band Gwilym wedi cael eu si芒r o anlwc - ond wrth baratoi i deithio Cymru i hyrwyddo eu halbwm newydd mae 'na gyfnod cyffrous o'u blaenau.
Fe wnaeth caneuon bachog, egn茂ol eu halbwm cyntaf Sugno Gola ddal sylw yn 2018, gan arwain at 2019 prysur iawn gyda dros 50 o gigs, pum gwobr Selar a chael cynnig cloi nos Wener Maes B yn Llanrwst... tan i storm roi stop ar hynny a gorfodi canslo鈥檙 ddwy noson olaf.
'Roedd o'n horrible'
Ar ddechrau 2020, roedden nhw yn dal ar frig y don gyda mwy o wobrau Selar ac yn edrych ymlaen at chwarae Gig y Pafiliwn yn yr haf a chloi noson olaf Maes B yn Nhregaron... tan i bandemig roi stop ar bopeth.
鈥淩oedd o鈥檔 horrible,鈥 meddai prif leisydd y band Ifan Pritchard. 鈥淎r 么l y gwobrau Selar roeddan ni鈥檔 meddwl 鈥榙a ni yn y sin r诺an ac mae pobl yn cefnogi ni鈥.
"Wnaethon ni gymaint o gigs - bob penwythnos roeddan ni鈥檔 gwneud rhywbeth a roeddan ni鈥檔 meddwl fasa鈥檙 haf yna yn haf da i ni. Wedyn wnaeth Covid hitio.
"Roeddan ni鈥檔 meddwl fasa dau fis yn gwneud daioni achos roeddan ni wedi blino ac angen br锚c. Ond wnaeth dau fis droi yn ddwy flynedd.鈥
Fel nifer o artistiaid eraill, fe geisiodd y band bydru 鈥榤laen orau allen nhw er gwaetha鈥檙 pandemig 鈥 er enghraifft rhyddhau'r sengl 50au yn ystod un o鈥檙 cyfnodau clo a gwneud Gigs T欧 Nain pan laciwyd rhywfaint ar y cyfyngiadau.
Ond roedd yn rhaid disgwyl tan Awst 2022, a chloi noson agoriadol Maes B a pherfformio yn Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Tregaron i deimlo eu bod nhw鈥檔 gallu symud ymlaen go iawn.
Meddai: 鈥淲naethon ni weithio mor galed am bum mlynedd ac wedyn roedd bod yn Gig y Pafiliwn o flaen ein teuluoedd a ffrindiau yn gwneud rhywbeth oeddan ni wedi gweld ein harwyr yn wneud 鈥 bandiau fel S诺nami, Candelas, Yr Eira 鈥 roedd o fel ein bod ni wedi dod full circle ac yn cloi鈥檙 bennod ar yr hen ganeuon ac yn galluogi ni wedyn i ryddhau caneuon newydd.鈥
Sain newydd
Ac mae鈥檙 rheiny i鈥檞 clywed ar Ti Ar Dy Ora鈥 Pan Ti鈥檔 Canu 鈥 albym sy鈥檔 cyflwyno Gwilym efo sain a chaneuon mwy aeddfed na鈥檙 band cyn-Covid.
鈥淒an ni鈥檔 well fel cerddorion, dyna鈥檙 prif beth i ni," meddai Ifan. "Pan wnaethon ni sgwennu rhai o鈥檙 caneuon ar yr albym gynta鈥 roeddan ni鈥檔 16 ac 17.
鈥淩oeddan ni鈥檔 trafod pynciau sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 oedran yna ac mae llais fi yn fwy squeaky pan ti鈥檔 gwrando n么l ar ganeuon y cyfnod yna, fel Cw卯n. Nid bod ni鈥檔 tynnu dim o鈥檙 cyfnod yna 鈥 dyna鈥檙 oedran oeddan ni a鈥檙 caneuon yna wnaeth wneud ni鈥檔 boblogaidd.
鈥淎deg hynny doedd 'na ddim pwysa arna ni 鈥 roedd rhan fwya鈥 wedi eu recordio cyn rhyddhau Cw卯n a Catalunya fel senglau - felly roeddan ni鈥檔 hollol relaxed a ddim rili鈥檔 poeni achos doeddan ni ddim yn gwybod os fyddai pobl yn gwrando arnyn nhw neu ddim.
鈥淥nd yn mynd fewn i'r albym yma yn gwybod bod pobl yn gwrando arna ni roedd pwysa i'w gael o yn iawn. Roeddan ni eisiau herio鈥檙 gynulleidfa hefyd a gwneud iddyn nhw ddweud bod hwn yn Gwilym gwahanol 鈥 dal i licio fo, ond bod o ddim yn Cw卯n 2.0 neu Llechan L芒n 2.0 鈥 mae o鈥檔 wahanol. Mae鈥檙 geiriau yn wahanol, sonically mae o鈥檔 wahanol 鈥 ac mae angen diolch i Rich Roberts (y cynhyrchydd) am hynny.鈥
Fe fydd y band yn mynd ar daith wythnos ar draws Cymru rhwng 22-29 Medi i hyrwyddo鈥檙 albym, gan .
Y Cledrau fydd yn eu cefnogi nhw a bydd eu gitarydd nhw, Ifan Prys, hefyd yn chwarae'r git芒r i Gwilym, gan fod Ifan Pritchard wedi anafu ei fraich.
鈥淒a ni鈥檔 rili edrych ymlaen at y daith 鈥 y tro cynta鈥 i ni wneud pedwar noson ar y trot,鈥 meddai Ifan Pritchard.
鈥淎 dwi鈥檔 rili edrych ymlaen at chwarae mewn llefydd 鈥榙a ni ddim yn chwarae yn aml. 鈥楧a ni mond wedi chwarae ddwywaith erioed yn Wrecsam er enghraifft.鈥
Cynlluniau'r dyfodol
Gyda鈥檙 aelodau i gyd mewn swyddi erbyn hyn mae鈥檔 anoddach cael amser i sgwennu, recordio a theithio. Ond gydag Ifan yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yn Llundain mae o鈥檔 gobeithio y bydd y gr诺p yn elwa o鈥檙 hyn mae o鈥檔 ei ddysgu yn ei waith bod dydd.
Tra bod bandiau fel Gwilym yn lwcus o gael marchnad o Gymry Cymraeg sydd eisiau gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg, dywed Ifan fod lle i ddatblygu gan fod cymaint yn gwrando ar gerddoriaeth o bob math o ddiwylliannau ac ieithoedd ar declynnau digidol ar draws y byd y dyddiau yma.
鈥淩hywbeth 鈥榙a ni angen meddwl amdano ydi sut ydan ni鈥檔 cael cynulleidfa ehangach 鈥 sut ydan ni鈥檔 mynd ar 6 Music, neu sut ydan ni鈥檔 cael erthygl mewn cylchgronau.
鈥淢ae ganddo ni i gyd gerddoriaeth o bob iaith ar draws y byd ar flaena鈥檔 bysedd 鈥 ar ein ff么ns ac ati. Mae o yna a mor hawdd i鈥檞 ffeindio. Roedd o yna o鈥檙 blaen ond mae o fwy r诺an, ac yn haws, ac mae pobl wedi arfer efo fo felly mae pobl yn fwy parod i wrando ar fiwsig mewn ieithoedd tydyn nhw ddim yn ddeall."