成人快手

Unig feddygfa Tyddewi i gau, gan roi cleifion ar wasgar

Meddyfa Tyddewi, adeilad gwyn gyda car mewn maes parcio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cytundeb y feddygfa yn dod i ben ar 31 Hydref eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu y bydd cleifion unig feddygfa Tyddewi yn cael eu symud i feddygfeydd cyfagos pan fydd y safle'n cau ymhen ychydig fisoedd.

Yn gynharach eleni penderfynodd unig bartner y feddygfa, Dr Stephen Riley i ildio'r cytundeb i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu, gyda'r feddygfa i gau ar 31 Hydref.

Mae 2,728 o gleifion yn y feddygfa ar hyn o bryd.

Mewn cyfarfod yn Aberaeron ddydd Iau fe wnaeth aelodau'r bwrdd iechyd gefnogi argymhelliad i ddosbarthu cleifion presennol y feddygfa.

Bydd y mwyafrif yn symud i feddygfa Solfach - pellter o ryw 3.5 milltir - pan mae'r cytundeb presennol yn dod i ben.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynhaliwyd protest gan drigolion lleol, gan gynnwys plant ysgol, ym mis Mehefin

Does yna ddim partneriaid ym meddygfa Solfach ar hyn o bryd, ac mae'n cael ei rheoli gan y bwrdd iechyd.

Bydd cleifion sy'n byw yn nes at Abergwaun a Hwlffordd yn cael eu symud i feddygfeydd cyfagos.

Roedd aelod seneddol newydd Canolbarth a De Penfro, Henry Tufnell, wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd i alw am gyfuno meddygfeydd Solfach a Thyddewi.

Roedd yr adroddiad ar gyfer y cyfarfod yn nodi bod 32% o gleifion y feddygfa yn Nhyddewi dros 65 oed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i fwyafrif y cleifion symud i feddygfa Solfach

Mae'r feddygfa wedi cael ei rhedeg gan Dr Stephen Riley ers Mai 2023, pan wnaeth partner yn y feddygfa ymddeol.

Mae Dr Riley wedi ceisio ac wedi methu cyflogi partneriaid eraill, er mae meddygon cyflogedig wedi bod yn barod i weithio yno.

Roedd panel arbenigol wedi ystyried nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol y feddygfa, ond dosbarthu cleifion sydd yn cynnig y dull mwyaf "diogel a chynaliadwy" o ddarparu gofal a dyma'r unig opsiwn "hyfyw", yn 么l yr adroddiad.

Ar hyn o bryd, mae yna 2,146 o gleifion yn Solfach.

Mae disgwyl i 2,517 drosglwyddo o Dyddewi, fyddai'n gynnydd o 117%.

Mae disgwyl i 161 o gleifion symud i Abergwaun, gyda 52 yn mynd i ddwy feddygfa yn Hwlffordd.

Newid enw meddygfa Solfach

Dywedodd Jill Paterson o'r bwrdd iechyd wrth y cyfarfod y byddai hi yn ffafrio newid enw'r feddygfa yn Solfach er mwyn adlewyrchu bod cleifion newydd yno.

Cafodd y cynnig hwnnw ei gymeradwyo mewn egwyddor gan y bwrdd iechyd.

Ychwanegodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda Neil Wooding fod yn rhaid i ddyfodol gwasanaethau meddyg teulu Tyddewi fod yn "fforddiadwy a chynaliadwy", a bod symud y cleifion yn "ddiogel".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Paul Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ymyrryd i gefnogi鈥檙 gymuned leol"

Dywedodd yr aelod Ceidwadol o'r Senedd ar gyfer yr ardal, Paul Davies, fod y penderfyniad yn un "arswydus".

"Mae鈥檙 bwrdd iechyd yn gwbl ymwybodol o鈥檙 effaith y gallai hyn ei gael ar gleifion, yn enwedig y rheiny sy鈥檔 oedrannus, yn agored i niwed ac sydd heb ffordd o deithio i feddygfa ymhellach i ffwrdd."

Ychwanegodd ei fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac y byddai'n codi'r mater yn y Senedd.

鈥淢ae鈥檔 gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i gefnogi鈥檙 gymuned leol.

"Dylai pobl sy鈥檔 byw yn Nhyddewi gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn eu cymuned."

Symudiad at feddygfeydd mwy o faint ar hyd y DU

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwerthfawrogi'r gwaith mae meddygon teulu a staff meddygfeydd yn ei wneud pob dydd".

"Mae gan fyrddau iechyd brosesau er mwyn delio gyda chynigion i newid gwasanaethau lleol sy'n cyd-fynd a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

"Fel y duedd ar hyd y DU, mae yna symudiad at feddygfeydd mwy o faint, gyda chymysgedd mwy eang o weithwyr proffesiynol mewn un man, yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau.

"Er bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn sefydlog ar y cyfan, mae 'na gynnydd mawr wedi bod yn nifer yr aelodau staff eraill mewn meddygfeydd yn ddiweddar.

"Cafodd 199 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant eu recriwtio yn 2023 - mwy na'r targed blynyddol o 160. Ry'n ni hefyd yn cynnig mwy o opsiynau i bobl o ran llefydd i fynd i dderbyn cyngor a gofal, drwy gyflyno gwasanaeth 111 Cymru a chynyddu nifer y gwasanaethau mae fferyllwyr lleol yn eu cynnig."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Henry Tufnell wedi annog y bwrdd iechyd i gyfuno meddygfeydd Solfach a Thyddewi

Mewn llythyr at y bwrdd iechyd roedd yr AS Llafur Henry Tufnell yn dweud bod dosbarthu cleifion i feddygfeydd eraill "yn erbyn consensws y gymuned" ac y dylid gwrthod yr opsiwn.

Roedd wedi annog y bwrdd i gyfuno meddygfeydd Solfach a Thyddewi a'u rheoli nhw yn ganolog gydag "un weinyddiaeth ac un t卯m yn gweithredu fel practis i'r Penrhyn".

'Yn erbyn consensws y gymuned'

Cafodd protest ei chynnal聽gan drigolion Tyddewi ar 14 Mehefin, cyn i'r bwrdd iechyd gynnal digwyddiad i drafod opsiynau i'r cleifion.

Fe aeth 520 o gleifion i'r digwyddiad yn Neuadd y Ddinas.

Yn ystod y broses ymgynghori, roedd 63% o'r bobl a ymatebodd wedi codi pryderon am drafnidiaeth wrth symud i Solfach.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae perchnogion presennol meddygfa Tyddewi yn bwriadu gwerthu'r adeilad pan mae'n cau fel meddygfa.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y feddygfa yn Solfach yn "sylweddol yn fwy... gyda nifer o ystafelloedd sydd ddim yn cael eu defnyddio yn llawn".

Petai'r bwrdd iechyd wedi ysgwyddo'r baich o redeg y feddygfa yn Nhyddewi, fe fyddai'n debygol o ychwanegu 拢264,000 at y gost o ddarparu gwasanaeth meddygon teulu yn y ddinas, ar ben cost flynyddol o 拢586,000.

Fe wnaeth y bwrdd hefyd gymeradwyo gwaith pellach i ddarparu cangen o feddygfa Solfach yn Nhyddewi, gydag 20 awr yr wythnos o wasanaethau'n cael eu darparu gan nyrsys.

Pynciau cysylltiedig