成人快手

'Angen camau radical i warchod y Gymraeg' - comisiwn

Protest argyfwng tai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu i edrych ar feysydd fel tai, twristiaeth, yr economi, amaeth ac addysg

  • Cyhoeddwyd

Mae angen "camau radical" i warchod yr iaith Gymraeg yn y dyfodol, yn 么l comisiwn sydd wedi ymchwilio i'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg.

Mae adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gafodd ei sefydlu yn 2022, yn rhestru bron i 60 o argymhellion.

Nod y comisiwn oedd ymateb i鈥檙 lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith, neu ble bu hynny'n wir tan yn gymharol ddiweddar.

Dywed yr adroddiad bod dynodi "ardaloedd o arwyddoc芒d ieithyddol dwysedd uwch" yn ganolog i warchod a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Prif neges yr adroddiad yw bod angen atebion penodol ar gyfer cymunedau Cymraeg mewn meysydd sy'n effeithio ar yr iaith bob dydd, fel tai, gwaith a chynllunio gwlad a thref.

Er mwyn gwneud hynny, mae'n dweud fod angen dynodi ardaloedd o arwyddoc芒d ieithyddol dwysedd uwch lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Yn ogystal ag argymhellion newydd i'r dyfodol, mae'r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2021.

Dywedodd cadeirydd y comisiwn, Dr Simon Brooks: "Er mwyn bod yn iaith genedlaethol sy'n perthyn i ni i gyd, mae'n rhaid gofalu am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol hefyd.

"Mae argymhellion y comisiwn yn anelu at wneud hynny.

"Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni sicrhau dyfodol bywiog a llewyrchus i gymunedau Cymraeg ledled y wlad."

Disgrifiad,

Dr Simon Brooks yw Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Mater i'r llywodraeth nawr fydd penderfynu ar bolisi iaith.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Byddwn ni nawr yn ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion yn ofalus cyn ymateb i'r adroddiad."

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ail gam y comisiwn ddydd Iau, sef edrych ar sefyllfa鈥檙 Gymraeg o fewn cymunedau eraill Cymru a thu hwnt.

Y disgwyl yw y bydd yr adroddiad yna yn cael ei gyhoeddi yn 2026.

Ychwanegodd Ms Morgan: "Y Gymraeg yw ein hiaith genedlaethol ac mae'n perthyn i ni i gyd.

"Rwyf wedi gofyn i鈥檙 comisiwn edrych ar y defnydd o鈥檙 Gymraeg yn holl ardaloedd Cymru a thu hwnt.

"Rydyn ni eisiau i fwy o bobl ddefnyddio mwy ar y Gymraeg bob dydd ac i wneud hynny mae angen mwy o gyfleoedd i'w defnyddio hi mewn bywyd bob dydd ac yn gymdeithasol."

'Sylfaen gadarn at gadw鈥檔 hiaith yn hyfyw'

Mae corff ymgyrchu Hawl i Fyw Adra wedi croesawu'r adroddiad a'r argymhellion.

"Mae'n hen bryd ac yn dyngedfennol bwysig i roi pwyslais polisi ar y Gymraeg mewn ardaloedd ymhle mae hi鈥檔 iaith bob dydd, yn iaith y stryd," meddai llefarydd.

"Heb wneud hynny fe wneir cam mawr a鈥檔 hiaith a bydd ei dyfodol fel iaith fyw yn gwbl ansicr.

"Heb amheuaeth, byddai dynodi ardaloedd o arwyddoc芒d ieithyddol dwysedd uwch trwy ddeddf yn rhoi sylfaen gadarn at gadw鈥檔 hiaith yn hyfyw yn ein cymunedau.

"Bydd y dynodiad yn galluogi ymyraethau pellgyrhaeddol mewn sawl maes ac yn grymuso鈥檙 Gymraeg.

"Bydd y dynodiadau yn gam arwyddocaol at sicrhau bod pobl leol yn gallu byw adra a byw鈥檔 Gymraeg."