'Cychwyn proses' ar derfynu aelodaeth Huw Edwards
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Gorsedd Cymru wedi cadarnhau bod proses o derfynu aelodaeth wedi dechrau yn dilyn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i drafod diarddel y cyn-ddarlledwr Huw Edwards.
Yr wythnos ddiwethaf fe blediodd cyn-brif gyflwynydd newyddion y 成人快手 yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Yn dilyn y cyfarfod caeedig, fe gafodd datganiad ei ryddhau i'r wasg gan yr Eisteddfod ar ran y Cofiadur, Christine James, dan y teitl 'Terfynu aelodaeth o'r Orsedd'.
Dywed y datganiad un llinell: "Mae proses wedi cychwyn ac nid yw鈥檔 briodol i Orsedd Cymru wneud unrhyw sylw pellach tan i鈥檙 broses ddod i derfyn."
Bydd gofyn i unrhyw benderfyniad gael ei gytuno arno yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd, sy'n cael ei gynnal ddydd Iau.
Cafodd Edwards, 62, ei dderbyn i'r Orsedd ddwy flynedd yn 么l, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron.
Fe gafodd Edwards ei arestio fis Tachwedd y llynedd a'i gyhuddo'n ffurfiol gan Heddlu'r Met ar 26 Mehefin.
Wrth gadarnhau y byddai'n ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, fe ddywedodd yr heddlu bod y cyhuddiadau'n ymwneud 芒 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.
O'r rheiny, roedd saith delwedd yn rhai categori A - y categori mwyaf difrifol. Roedd 12 yn luniau categori B ac 19 yng nghategori C.
Clywodd y gwrandawiad, ble y plediodd yn euog i'r tri chyhuddiad, bod mwyafrif y delweddau categori A yn cynnwys plant rhwng 13 a 15 oed.
Roedd dau fideo'n cynnwys plentyn rhwng tua saith a naw oed, yn 么l Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Bydd adroddiad prawf yn cael ei baratoi ar gyfer ei ymddangosiad llys nesaf ar 16 Medi.
Daeth cadarnhad ym mis Ebrill fod Edwards yn gadael y 成人快手 ar sail meddygol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst
- Cyhoeddwyd3 Awst
- Cyhoeddwyd2 Awst