Mam pedoffeil o heddwas yn cyfaddef ei helpu
- Cyhoeddwyd
Mae mam cyn-blismon a gafodd ei garcharu am oes am 160 cyhuddiad o gam-drin plant yn rhywiol, wedi pledio鈥檔 euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe wnaeth Lewis Edwards o Ben-y-bont ar Ogwr flacmelio a bygwth merched dan oed i anfon lluniau anweddus o'u hunain ato ar Snapchat.
Cafodd ei ganfod gyda 4,500 o ddelweddau anweddus o blant.
Roedd rhieni鈥檙 dyn 24 oed - Rebekah a Mark Edwards - wedi cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy guddio tri ff么n symudol dros gyfnod o chwe mis, rhwng Chwefror ac Awst 2023.
Fe gyfaddefodd Rebekah Edwards, 47, y cyhuddiad, tra bo Mark Edwards, 51, wedi pledio'n ddieuog, ac fe gafodd yr achos yn ei erbyn ei ollwng.
Cafodd ei rhyddhau ar fechn茂aeth tan ei gwrandawiad dedfrydu.
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
Fe ymddangosodd ei mab Lewis Edwards hefyd yn y llys ddydd Iau trwy gyswllt fideo o Garchar Parkhurst.
Roedd eisoes wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar ar 么l meithrin perthynas amhriodol 芒 dros 200 o ferched rhwng 10 ac 16 oed ar-lein.
Plediodd yn euog ddydd Iau i bedwar cyhuddiad pellach - gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio ffonau symudol a thri achos arall o fod 芒 delweddau anweddus yn ei feddiant.
Bydd Rebekah a Lewis Edwards yn cael eu dedfrydu ar 22 Tachwedd.