成人快手

Ffrae 20mya: Ceryddu AS am dorri cod ymddygiad

Natasha AshgharFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Natasha Asghar wedi bod yn Aelod o鈥檙 Senedd dros Ddwyrain De Cymru ers 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae'r AS Ceidwadol Natasha Asghar wedi cael ei cheryddu yn ffurfiol am dorri cod ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

Cafodd yr argymhelliad o gerydd yn adroddiad y pwyllgor safonau ymddygiad ei gymeradwyo brynhawn Mercher yn ddiwrthwynebiad, ac felly heb bleidlais.

Dywedodd Natasha Asghar ei fod yn "hurt" i "ddweud fy mod wedi dwyn anfri ar y Senedd".

Dywedodd Llywydd y Senedd Elin Jones nad yw'n dderbyniol i ddefnyddio'r gair "blanced", hynny yw, cyffredinol, i ddisgrifio'r polisi 20mya yn Siambr y Senedd.

'Anghywir'

Roedd y gwleidydd Tor茂aidd Cymreig wedi cytuno ar adroddiad am ymddygiad ei harweinydd er gwaetha'r ffaith iddi fod yn destun dau g诺yn am yr un mater.

Methodd Natasha Asghar 芒 chamu o鈥檙 neilltu oherwydd gwrthdaro buddiannau o bwyllgor safonau鈥檙 Senedd ym mis Ionawr pan benderfynodd y pwyllgor glirio Andrew RT Davies am ddweud bod y polisi 20mya yn gyfyngiad cyflymder "blanced", hynny yw, cyffredinol.

Parhaodd i ddefnyddio鈥檙 term ei hun, er gwaethaf cytuno ar adroddiad y pwyllgor a oedd yn gofyn i aelodau o鈥檙 Senedd beidio 芒 gwneud sylwadau 鈥渁nghywir鈥 o鈥檙 fath.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, fod Asghar wedi dwyn anfri ar y Senedd, ond dywedodd Asghar ei bod yn destun "helfa wrachod" a mynnodd ei fod yn derfyn "blanced".

Cafwyd yr ymchwiliad ar 么l cwyn gan yr AS Llafur a鈥檙 cyn-Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters.

Ym mis Hydref 2023 roedd Mr Bain yn archwilio cwyn am Asghar ynghylch ei disgrifiad o'r terfyn fel un "blanced".

Dywedwyd wrthi bryd hynny fod ystyriaeth Mr Bain o鈥檙 g诺yn wedi鈥檌 gohirio tra鈥檌 fod yn ystyried 鈥渃wyn debyg iawn鈥 am gyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar X, a wnaed gan aelod o鈥檙 Senedd, sydd heb ei enwi ond deellir mai arweinydd y Tor茂aid yn y Senedd, Andrew RT Davies, ydyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu鈥檙 disgrifiad ers tro, gan ei alw鈥檔 ffug oherwydd bod cynghorau鈥檔 gallu gosod gwaharddiadau ar rai ffyrdd.

Yn yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr canfu Mr Bain nad oedd y term "blanced", er yn anghywir, yn gelwyddog a bod gan Mr Davies amddiffyniad o dan gyfraith hawliau dynol.

Cytunodd adroddiad y pwyllgor ar y mater i beidio 芒 gosod sancsiwn, ond dywedodd y dylai gwleidyddion 鈥渙falu i beidio 芒 gwneud datganiadau anfanwl ac anghywir yn fwriadol鈥.

Roedd Asghar yn aelod o鈥檙 pwyllgor ar y pryd ac roedd yn bresennol ar gyfer ei holl drafodaethau ar y pwnc.

Ond ar 么l i adroddiad mis Ionawr gael ei gyhoeddi, cyfeiriodd Asghar at 20mya fel terfyn cyflymder 鈥渂lanced鈥 ar gyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth hynny eto mewn fideo.

Cwynodd Waters ar 18 Ebrill fod Asghar wedi defnyddio'r term mewn trafodaeth yn y Senedd - lle dywedodd y dylai'r gweinidog "oddef" ei disgrifiad oherwydd canfyddiadau'r pwyllgor safonau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd yr ymchwiliad ar 么l i Lee Waters gwyno

Yn ei gasgliadau, dywedodd Mr Bain ei fod wedi cael ei dderbyn gan Asghar ei bod yn ymwybodol bod y pwyllgor safonau wedi gofyn i aelodau鈥檙 Senedd 鈥渇od yn ofalus i beidio 芒 gwneud datganiadau sy鈥檔 anfanwl ac yn anghywir yn fwriadol鈥.

Yn ei adroddiad, ychwanegodd y comisiynydd fod "yr aelod i bob pwrpas yn dweud un peth ac yn gwneud y gwrthwyneb".