Carcharu dyn o ogledd Cymru am dreisio merch 12 oed

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Ryan Russell ei garcharu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth

Mae dyn 25 oed o ogledd Cymru wedi cael ei garcharu am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ferch 12 oed.

Roedd Ryan Russell, sydd heb gartref parhaol, wedi pledio'n euog i 14 trosedd yn dyddio'n 么l i haf y llynedd.

Roedd y cyhuddiadau yn ei erbyn hefyd yn cynnwys annog gweithred rhyw gydag ail ferch yn ardal Sir y Fflint, creu delweddau anweddus a bod 芒 delweddau pornograffig eithafol yn ei feddiant.

Dywedodd y dioddefwr wrth yr heddlu ei bod wedi cwrdd 芒 Russell ar blatfform cymdeithasol Snapchat.

Yn 么l yr heddlu, roedd data o'i ffon yn dangos bod Russell wedi bod mewn cyswllt gyda nifer o ferched ifanc.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, cafodd Russell ddedfryd wyth mlynedd o garchar, a thair blynedd ychwanegol ar drwydded.

Yn dilyn y dedfrydu, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ben Franklin o Heddlu Gogledd Cymru: "Er na fydd dedfryd heddiw yn dileu'r niwed a'r gofid i'r dioddefwr a'i theulu, rydym yn gobeithio y bydd y ffaith ei fod yn methu achosi niwed i unrhyw un arall yn gysur."