Cwmni eisiau creu pedair gorsaf micro-niwclear ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Last Energy UK wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu pedair gorsaf micro-niwclear ar hen safleoedd glofaol ym Mhen-y-bont.
Fe allai Prosiect Egni Glan Llynfi, sydd 芒 buddsoddiad economaidd gwerth 拢300m, greu hyd at 100 o swyddi newydd yn 么l y cwmni.
Byddai'r pedair uned yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gwasanaethu cwsmeriaid diwydiannol lleol.
Yn 么l y cwmni, byddai allbwn y safle cyfwerth 芒 phweru oddeutu 244,000 o gartrefi.
Mae'r cwmni yn gobeithio agor yr orsaf gyntaf erbyn 2027.
'Ar flaen y gad ym maes technoleg niwclear'
Dywedodd Michael Jenner, prif swyddog gweithredol Last Energy UK y bydd y prosiect yn creu cyfleoedd economaidd i gwmn茂au ledled de Cymru.
Yn 么l Gweinidog Diogelwch Ynni a Net Sero Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Hunt: "Gall prosiectau niwclear newydd adfywio cymunedau trwy ail-bwrpasu hen safleoedd diwydiannol a chwistrellu swyddi a buddsoddiad newydd.
鈥淢ae hyn ar flaen y gad ym maes technoleg niwclear a gallai helpu ddatgarboneiddio diwydiant trwy ddarparu gwres a ph诺er carbon isel."
Ychwanegodd Tom Greatrex, prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear bod angen prosiectau fel hyn i wneud datgarboneiddio yn "realiti yn hytrach na slogan".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Ionawr