成人快手

Cymru v Fiji: Y pwysau yn cynyddu wedi blwyddyn heriol

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y neges gyson gan Warren Gatland yw bod angen meddwl am y darlun ehangach a pharatoi at y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Dwy flynedd yn 么l roedd Cymru wedi llithro i鈥檙 dyfnderoedd ar 么l colli yng Nghaerdydd yn erbyn Georgia.

Does dim dwywaith mai dyma oedd un, os nad y diwrnod gwaethaf yn hanes y t卯m cenedlaethol, ac yn y pendraw dyma oedd y foment wnaeth selio ffawd Wayne Pivac fel prif hyfforddwr.

Mi oedd nifer yn gyt没n ar y pryd fod y penderfyniad yn anorfod a Pivac wedi cyrraedd pen y daith.

Yn gwylio ar yr ymylon ar y pryd oedd Warren Gatland oedd yn gweithio fel un o鈥檙 gwybodusion i gwmni teledu, ac ymhen dim fyddai wedi鈥檌 benodi eto i geisio codi Cymru o鈥檙 sefyllfa yr oedd ynddi.

Doedd dim oedi gan Undeb Rygbi Cymru ar y pryd - Warren Gatland oedd yr unig un i drawsnewid y sefyllfa ac roedd Steve Phillips, prif weithredwr yr undeb yn bendant mai dyma oedd y penderfyniad cywir.

Dwy flynedd yn ddiweddarach ac mae鈥檔 deg gofyn a yw鈥檙 sefyllfa wedi gwella llawer?

Do fe lwyddodd y g诺r o Seland Newydd I gael rhywfaint o drefn ar y t卯m mewn cyfnod byr a sicrhau eu bod nhw鈥檔 cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd y llynedd ar 么l gorffen ar frig gr诺p oedd yn ymddangos yn heriol.

Ond ers hynny, dyw鈥檙 t卯m yn syml heb gamu ymlaen o gwbl, wrth golli pob un o gemau Pencampwriaeth y Chwe gwlad eleni a hynny am y tro cyntaf er 2003.

Mae Cymru bellach wedi colli naw o鈥檙 bron - fyddai colli eto yn dod a nhw yn gyfartal a鈥檙 rhediad gwaethaf erioed o dan Steve Hansen ar ddechrau鈥檙 ganrif.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai 10 colled yn olynol yn gyfartal 芒 rhediad gwaethaf Cymru erioed - a hynny dan arweiniad Steve Hansen

Yn gwbl amlwg felly, mae鈥檙 gyfres yma鈥檔 hynod bwysig i鈥檙 garfan ac i鈥檙 hyfforddwr a鈥檙 cyfan yn y fantol yn erbyn yr ynyswyr peryglus, Fiji yn y cyntaf o dair g锚m.

Pwy all anghofio鈥檙 tro diwethaf i鈥檙 ddau d卯m yma gwrdd yng ngwres tanbaid Bordeaux yng Nghwpan y Byd.

Mewn gem hynod gyffrous fe ddaeth Cymru i'r brig, ond pa mor wahanol fyddai wedi bod pe bai Semi Radradra wedi dal ymlaen yn yr eiliad olaf gyda鈥檙 llinell gais o fewn cyrraedd?

Mae doniau chwaraewyr Fiji yn amlwg i bawb - a ffrwyno hynny a rheoli鈥檙 g锚m fydd y nod i鈥檙 t卯m cartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Cymru o 32-26 mewn g锚m wych yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd 2023

Mae鈥檔 ddiwrnod mawr wrth gwrs i Blair Murray, gwr gafodd ei eni yn Seland Newydd ac sydd bellach yn chwarae dros y Scarlets.

Mae鈥檔 dda gweld Max Llewellyn yn cael cyfle arall ar 么l disgleirio dros Gaerloyw yn y gynghrair yn Lloegr, a diddorol fydd gweld y bartneriaeth rhyngddo a Ben Thomas - sydd nol yn safle'r canolwr wedi鈥檙 arbrawf o chwarae fel maswr yn Awstralia yn yr haf.

At ei gilydd mae 'na fwy o gydbwysedd yn y t卯m yma, ac mae'n edrych yn gryfach ac yn fwy profiadol o rif un i bymtheg.

Mae鈥檔 gwbl amlwg, ond fydd ennill y g锚m gyntaf yn ysgafnhau鈥檙 pwysau yn syth ac yn hwb wrth baratoi wedyn i gwrdd ag Awstralia a De Affrica.

Os llwyddo i ennill yn erbyn yr ynyswyr yn y g锚m gyntaf, does dim rheswm pan na all Cymru fynd ymlaen i guro鈥檙 Wallabies yn yr ail g锚m ar 么l dod yn agos yn hemisffer y de yn yr haf.

Fyddai ennill dwy o鈥檙 dair g锚m ar sail y record ddiweddar yn cael ei ystyried yn fwy na derbyniol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Blair Murray yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei fam

Y neges gyson gan Warren Gatland ers cydio yn yr awenau am yr eildro yw bod angen meddwl am y darlun ehangach, adeiladu at y tymor hir a chydnabod nad yw pethau yn mynd i drawsnewid dros nos.

Mae鈥檙 naratif yn sicr wedi prynu amser iddo, ond am ba hyd y gall barhau i ddefnyddio'r un rhethreg?

Heb os mae鈥檙 garfan ar hyn o bryd ar ryw groesffordd a'r trywydd yn aneglur.

Mae 'na dimau eraill ar draws y byd yn sylweddoli bod angen llawer mwy yn rygbi rhyngwladol bellach na dibynnu ar ennill y frwydr gorfforol - conglfaen athroniaeth Gatland.

Mae De Affrica yn enghraifft berffaith o d卯m sydd bellach yn mentro ac yn defnyddio doniau creadigol a dyfeisgarwch.

Amser a ddengys os y bydd Cymru yn barod i newid er gwell neu aros yn yr unfan.