Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Movember 'mor bwysig' i ddyn a gollodd ei dad yn ifanc
- Awdur, Harriet Horgan
- Swydd, 成人快手 Cymru Fyw
Mae Clwb Rygbi Prifysgol Caerdydd yn anelu i dorri eu record codi arian ar gyfer yr elusen Movember am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Bu farw tad un o'r myfyrwyr drwy hunanladdiad a dywed bod yr elusen, sy'n cefnogi 1,320 o brosiectau iechyd meddwl ar draws y byd, yn bwysig iddo.
Cafodd 鈥楳ovember鈥 ei sefydlu gan ddau ffrind o Awstralia n么l yn 2003.
Mae鈥檙 chwaraewyr rygbi ar frig y tabl codi arian ar draws Prydain.
Cododd y clwb dros 拢33,000 y llynedd.
Pan oedd Alex Ray, o Abertawe, yn 13 oed, bu farw ei dad drwy hunanladdiad. Mae ymdrechion y clwb wedi bod yn gysur iddo, meddai.
Dywedodd ei fod yn benderfynol i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
"Mae iechyd meddwl dynion wastod wedi bod yn bwnc pwysig iawn i mi.
"Cyn i mi ddod i鈥檙 brifysgol, o鈥檔 i wastod yn barod i gymryd rhan.
"Mae鈥檔 bwysig bod ni鈥檔 gofyn sut allwn ni ddechrau siarad am bethau yn fwy.
"Mae pobl yn gyfarwydd 芒 chuddio teimladau, a mae鈥檔 hawdd i ddim sylwi bod pobl yn stryglo."
Mae Tomi Booth, 21 oed o Lantrisant yn ffrind ac yn gyd-chwaraewr i Alex.
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd y maswr bod yr ymgyrch bob tro yn gymorth i鈥檙 sawl sy鈥檔 cuddio eu teimladau.
"O'n i 'di sylweddoli bod mwy o bobl nag o鈥檔 i鈥檔 meddwl falle gyda problemau ac eisiau siarad am rywbeth.
"Ma' fe'n rhoi siawns i bawb ymddiried yn ei gilydd," meddai.
Mae鈥檙 t卯m wedi cynnal sawl her i godi arian gan gynnwys dringo Pen-y-fan a chynnal dawns fawreddog.
Stigma o fewn rygbi
Er bod sawl un o鈥檙 heriau yn rhai hwyliog dywed Tomi bod natur y codi arian yn annog pobl i gymryd rhan.
"Ma 'na fath o stigma lle mae iechyd meddwl bob amser yn negatif.
"Os ma bois yn 'neud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth mewn ffordd ddiddorol bydd hi'n haws wedyn i drafod y pwnc.鈥
Er i Tomi gyfaddef nad yw鈥檔 鈥渓ico siarad gyda phobl am be sy鈥檔 mynd 'mlan tu fewn", oddi ar y cae, dywedodd bod cael pobl yna i wrando yn "hollbwysig".
"Pryd chi鈥檔 gallu gweld pawb o gwmpas chi yn siarad amdano fe, mae鈥檔 neud i chi teimlo, fel chi鈥檔 gallu ymddiried ynddyn nhw," ychwanegodd.
Yn 么l George MacDonald, 21 o Lanelli, mae rygbi yn gamp llawn "stigma" lle nad yw chwaraewyr yn "siarad lan".
"Mae pawb yn meddwl bod rhaid cuddio gyda rygbi, ond ma llawer o鈥檙 bois i gyd yn yr un cwch."
Ers i'w hymgyrch ddechrau, mae'r mis diwethaf wedi annog rhai o'r bechgyn i siarad gyda'i gilydd, meddai George. .
鈥淢a鈥檙 sgwrs yn gwneud i bobl siarad lan,鈥 dywedodd.
Ar 么l gweld ei frawd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, mae Sam Sommers, ysgrifennydd elusen y clwb, o鈥檙 farn bod angen i bobl siarad am yr hyn sy'n eu poeni.
鈥淵 rheswm ma 'na stigma yw bod dynion yn meddwl bod rhaid iddyn nhw edrych ar 么l pawb arall, i fod yr un sy鈥檔 arwain.
鈥淒ydyn nhw ddim eisiau dangos unrhyw wendid fel sa fe yn beth gwael. Rwy鈥檔 credu bod e鈥檔 cymryd mwy o gryfder a gwytnwch i ddangos dy wendidau a ochr mwy emosiynol.
鈥淒yw鈥檙 byd ddim yn deall [iechyd meddwl] dynion, dyna pam ma鈥 hwn mor bwysig."
Mae t卯m rygbi'r brifysgol bellach yn gweithio tuag at sefydlu pwyllgor iechyd meddwl i gefnogi aelodau o鈥檙 clwb.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 成人快手.