Achos llys gweithiwr iechyd dan hyfforddiant wedi dymchwel
- Cyhoeddwyd
Mae achos llys gweithiwr iechyd dan hyfforddiant oedd wedi鈥檌 gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddau glaf yn yr ysbyty wedi dymchwel.
Roedd Ieuan Crump, 26, wedi鈥檌 gyhuddo o gyffwrdd 芒 dwy ddynes yn amhriodol tra鈥檔 cynnal sganiau ar y bledren yn Ysbyty鈥檙 Faenor, Cwmbr芒n ym mis Awst 2021.
Fe wadodd Mr Crump y naw cyhuddiad yn ei erbyn 鈥 chwech o ymosodiad rhyw, a thri o ymosod drwy dreiddiad.
Roedd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd wedi para dros bythefnos, ond yn dilyn ail ddiwrnod o ystyried eu dyfarniad, cafodd y rheithgor eu rhyddhau gan y barnwr Vanessa Francis.
Yn dilyn achos wnaeth bara pythefnos, roedd y rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad ddydd Iau.
Ond ddydd Llun, ar eu hail ddiwrnod o ystyried, fe wnaeth y Barnwr Francis eu rhyddhau a dod 芒鈥檙 achos i ben.
Yn ei sylwadau i鈥檙 rheithgor, dywedodd nad oedd modd iddi 鈥渇ynd i fanylion鈥 ynghylch pam roedden nhw鈥檔 cael eu rhyddhau, oherwydd y gallai hynny effeithio ar unrhyw achos allai gael ei glywed eto yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref
- Cyhoeddwyd28 Hydref
- Cyhoeddwyd18 Hydref