成人快手

Ymosodiad Southport: Arestio llanc sy'n hanu o Gaerdydd

Elsie, Alice a BebeFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Elsie Dot Stancombe yn saith oed, Alice Aguiar yn naw a Bebe King yn chwech

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi cadarnhau bod y llanc 17 oed sydd wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad yn Southport yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd.

Dywed yr heddlu bod tri phlentyn wedi marw wedi'r ymosodiad 芒 chyllell ac mae pum plentyn arall a dau oedolyn mewn cyflwr difrifol.

Mae swyddogion wedi cyhoeddi enwau'r merched fu farw - roedd Bebe King yn chwech oed, Elsie Dot Stancombe yn saith, ac Alice Aguiar yn naw.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn digwyddiad i blant ysgol gynradd - digwyddiad a oedd yn cynnwys ioga a dawns ar thema Taylor Swift.

Dydy'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad ac maen nhw wedi dweud nad yw'r ymosodiad yn gysylltiedig ag unrhyw achos o derfysgaeth.

Fe gafodd wyth claf oedd ag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu driniaeth gan y gwasanaeth ambiwlans.

Bu'n rhaid i rai gael eu cludo i Ysbyty Blant Alder Hey yn Lerpwl - a wnaeth ddatgan ei fod yn wynebu digwyddiad difrifol.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy: "Mae gwryw 17-oed o Banks yn Sir Gaerhirfryn, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, wedi cael ei arestio ac mae wedi cael ei gludo i orsaf heddlu ble bydd yn cael ei holi gan dditectifs."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dau blentyn wedi marw yn dilyn yr ymosodiad 芒 chyllell

Mae'r 成人快手 ar ddeall fod yr unigolyn sydd yn cael ei holi gan yr heddlu mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad wedi symud i ardal Southport yn 2013.

Mae ei rieni yn dod o Rwanda, ac mae ganddo frawd h欧n gafodd ei eni yng Nghaerdydd.

'Amhosib' disgrifio'r sefyllfa

Wrth siarad 芒'r 成人快手, dywedodd Margaret Quayle - sy'n byw ar Lannau Mersi - ei bod hi'n anodd disgrifio'r sefyllfa.

"Mae'n amhosib disgrifio sut mae'r teulu, rhieni (yn teimlo), beth sydd wedi digwydd, sut ddaru o ddigwydd," meddai.

Aeth ymlaen i ddisgrifio'r ardal fel lle "tawel" fel arfer, "mae'n gymuned mor sefydlog, tipyn bach yn hen efallai, fyswch chi ddim yn meddwl am y fath beth yn digwydd".

Dywedodd ei bod yn "gobeithio'n wir y bydd yr Eglwysi yn dod at ei gilydd i helpu" gan ychwanegu nad yw hi'n gwybod beth i'w ddweud.

Pynciau cysylltiedig