Targed miliwn o siaradwyr Cymraeg 'ddim yn realistig'
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dweud nad yw targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realistig.
Yn 么l Gwilym Morgan, 18, does dim digon yn cael ei wneud i gyrraedd y nod, gyda "gormod o ffocws" ar siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud eu bod yn gwneud hi鈥檔 "haws nag erioed" i bobl ddysgu Cymraeg.
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Flwyddyn union ers ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri, mae Gwilym Morgan o Gaerdydd wedi disgrifio鈥檌 siwrnai fel un "anhygoel鈥"
鈥淓s i o fod yn fachgen eitha鈥 swil pan ymunais i 芒鈥檙 ysgol, i fod ar y teledu, ac ar y radio,鈥 meddai.
鈥'Dw i wedi cael gymaint o brofiadau gyda llawer o bobl ardderchog a 'dw i wedi cael siawns i gynrychioli pobl arall sydd wedi dysgu yr iaith.鈥
'Llawer' o ddisgyblion 'ddim yn hoffi'r Gymraeg'
Yn astudio lefel A yn Ysgol Esgob Llandaf ar hyn o bryd, ei obaith yw mynd ymlaen i astudio Cymraeg yn y Brifysgol cyn dod yn athro Cymraeg, gan ysbrydoli dysgwyr y dyfodol.
Serch hynny, mae鈥檔 dweud bod angen newid yn y system addysg.
鈥淢补别 ysgolion yn dysgu Cymraeg i ddisgyblion ers roedden nhw yn yr ysgol gynradd i TGAU,鈥 meddai.
鈥'Dw i鈥檔 meddwl achos mae鈥檔 rhaid i ddisgyblion ddysgu Cymraeg, dydy llawer o ddisgyblion ddim yn hoffi鈥檙 Gymraeg. 'Dw i鈥檔 meddwl mae鈥檔 rhaid i ni newid hwn.鈥
- Cyhoeddwyd4 Mai
Wrth gyfeirio at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dywedodd nad yw'n credu y byddai鈥檙 nod yn cael ei gyrraedd.
鈥'Dw i jyst ddim yn meddwl ein bod ni鈥檔 gwneud digon ar hyn o bryd,鈥 meddai.
鈥淢补别 push mawr gyda dysgu Cymraeg i oedolion, sy鈥檔 wych, ond 'dw i鈥檔 meddwl mae dal gormod o ffocws ar bobl sy鈥檔 siarad Cymraeg fel iaith gyntaf i ddefnyddio鈥檙 iaith.
"Ydy, mae鈥檔 rili bwysig i ddefnyddio鈥檙 iaith, ond 'dw i鈥檔 meddwl mai dysgwyr yw鈥檙 ffordd i gael ein nod.
"Os dy鈥檔 ni ddim yn rhoi digon o ffocws arnyn nhw, does dim ffordd ymlaen.鈥
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, cymysg oedd y farn o ran nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siarad Cymraeg.
Dywedodd Heledd James o Landysul: 鈥淔i鈥檔 credu galle fe fod yn realistig os yw e鈥檔 rywbeth mae pawb yn gallu gweithredu arno fe, yn hytrach na disgwyl i garfannau bach o bobl i weithredu fan hyn a fan co.鈥
Cytuno mae Dylan Jones o Ynys M么n.
鈥淢补别鈥檔 bosib,鈥 meddai.
鈥淢补别 'na lot o bobl yn siarad Cymraeg. Trio cael cymunedau Cymraeg ydi鈥檙 peth pwysica鈥."
Ond i Eleri Dufty o Hermon ger Cynwyl Elfed mae鈥檙 targed yn "uchelgeisiol iawn鈥"
鈥淔el athrawes sy鈥檔 gweitho mewn ysgol wledig, ni鈥檔 cael toriadau drwy鈥檙 amser o ran y gyllideb," dywedodd.
"Ni鈥檔 gorfod gwneud toriadau o ran y cymorth ni鈥檔 rhoi i ddysgwyr, felly mae鈥檔 anodd iawn i gefnogi鈥檙 dysgwyr hynny sy鈥檔 dod o gartrefi di-Gymraeg.鈥
'Cofleidio a chefnogi pob dysgwr'
Ar raglen Dros Frecwast 成人快手 Radio Cymru, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffydd Jones, bod angen cefnogi pawb sydd am siarad yr iaith.
"Ni'n gwybod bod dysgwyr yn gallu bod yn hynod o frwd, ac yn defnyddio'u Cymraeg ar bob un achlysur posibl ac yn gallu bod yn ysbrydoliaeth i ni siaradwyr Cymraeg sydd ddim bob tro yn defnyddio pob un gwasanaeth sydd ar gael i ni yn y Gymraeg.
"Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn gofyn i ni wneud dau beth er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg, sef cynyddu'r nifer sy'n siarad y Gymraeg a chynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg gan bobl."
"Yn sicr ry' ni'n cofleidio pob dysgwr ac yn eu cefnogi nhw'n llawn, ond ar yr un pryd dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n hwyluso ac yn rhoi'r cyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu Cymraeg nhw," ychwanegodd.
"Does dim hyder gan bob siaradwr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith ym mhob amgylchiad ac ar bob achlysur, felly dwi'n credu bod 'na le i ni godi hyder siaradwyr Cymraeg ond hefyd lle i ni groesawu a chefnogi dysgwyr a siaradwyr newydd gymaint ag y gallen ni.
"Dyw e ddim yn gwestiwn o un neu'r llall, mae angen y ddau beth yn bendant."
'Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩oedd hi鈥檔 wych gweld Gwilym yn dod yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd ac yn siarad ag angerdd am fod eisiau ysbrydoli eraill i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
鈥淢补别鈥檙 Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dyna pam rydyn ni wedi ei gwneud hi鈥檔 haws nag erioed i bobl ddysgu Cymraeg, drwy gyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a鈥檙 gweithlu addysg, a thrwy gefnogi gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
鈥淢补别 angen cynnig profiadau positif i ddenu pobl ifanc at y Gymraeg fel eu bod yn ei gweld a鈥檌 phrofi fel iaith ddeniadol, fywiog a chymdeithasol.
"Rydyn ni鈥檔 ariannu sefydliadau fel yr Urdd, y Mentrau Iaith a鈥檙 Clybiau Ffermwyr Ifanc sy鈥檔 creu cyfleoedd i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg ar lawr gwlad, ac yn cynnig grantiau i brosiectau cydweithredol cymunedol er mwyn gwarchod y Gymraeg a鈥檌 helpu i ffynnu.鈥
Gyda鈥檌 fam yn ysbrydoliaeth fawr iddo, wedi i hithau ddysgu'r iaith ei hun yn 2015, mae Gwilym yn sicr bod modd gwneud mwy i ddenu rhagor o ddysgwyr.
鈥淩ydyn ni ar y ffordd, dwi鈥檔 meddwl, ond 'dw i ddim yn meddwl bod 2050 yn realistig.鈥