Difrod bwriadol i gloc tref Llanbed yn 'siom enbyd'

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Llanbed

Disgrifiad o'r llun, Mae'r difrod "gwerth miloedd o bunnoedd", meddai'r cyngor tref

Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn dweud fod cloc Neuadd y Dref wedi cael ei ddifrodi'n fwriadol, a hynny yn dilyn cyfnod o'i adfer.

Dywed y cyngor tref ei fod "wedi ei siomi'n enbyd", yn enwedig ar 么l i'r gymuned sicrhau grant i adfer y cloc yn ddiweddar.

Yn 么l y cyngor fe wnaeth unigolyn, neu gr诺p o unigolion, ddringo'r sgaffaldiau sy'n amgylchynu'r cloc gan dorri i mewn i'r t诺r, torri'r gwydr hynafol a thorri bysedd y cloc.

Mae'r unigolion wedi achosi difrod "gwerth miloedd o bunnoedd", meddai'r cyngor tref.

Maen nhw'n annog unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth bellach am y drosedd i gysylltu 芒 heddlu'r ardal.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth y cyngor sicrhau grant yn ddiweddar i adfer y cloc

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Maer y dref, y Cynghorydd Gabrielle Davies fod gweithwyr "newydd orffen paentio'r cloc" pan wnaethon nhw sylw ar y difrod.

Ychwanegodd y bydd rhaid i'r cyngor adfer y cloc unwaith eto.

"Allwn ni byth a gadael e fel hyn," meddai.

"Mae wedi bod ar agenda'r cyngor tref ers sawl blwyddyn fod angen 'neud rhywbeth am y cloc, mae mor eiconig yng nghanol y dref."

Ychwanegodd fod nifer o bobl "y tu 么l i ni i gael y gwaith wedi ei wneud - bydd rhaid iddo gael ei roi yn 么l fel yr oedd".