Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Buddugoliaeth Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Llanuwchllyn yn 'chwerw felys'
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Gohebydd ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru
Roedd buddugoliaeth Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Llanuwchllyn yn erbyn Y Drenewydd yng Nghwpan Cymru yn chwerw felys, ar ôl i lywydd y clwb farw'n annisgwyl.
Roedd curo'r Drenewydd ar giciau o'r smotyn ddydd Sadwrn yn golygu mai hon oedd y gêm fwyaf a'r canlyniad mwyaf yn hanes clwb Llanuwchllyn.
Ond mae 'na dristwch wedi marwolaeth llywydd y clwb, John Manzini, ddiwrnod cyn y gêm.
Dywedodd ei gyfnither, Haf Llewelyn y "basa fo wedi bod wrth ei fodd efo’r canlyniad".
Roedd John Manzini, 82, yn chwaraewr pêl-droed poblogaidd.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei gyfnither, Haf Llewelyn: "Dwi’n meddwl base pawb yn Llan yn cydnabod bod John yn un o fil."
"Unrhyw gymwynas mi fase John yna i’w gwneud hi ac wedyn mi'r oedd clwb pêl-droed Llanuwchllyn yn ganolbwynt i’w fywyd o... roedd o’n ffyddlon iawn ac yn driw iawn.
"Mi wnaeth y clwb wrth gwrs roi teyrnged hyfryd iddo a fase fo wedi bod yn dathlu!
"Felly mi roedd hi’n fuddugoliaeth chwerw... melys a chwerw mewn ffordd - dyna sut oeddan ni’n cwmpasu dydd Sadwrn."
Dywed Iwan Arthur Jones, sy'n aelod o bwyllgor rheoli Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Llanuwchllyn bod y newyddion am farwolaeth John wedi ysgwyd y gymuned gyfan.
"Ddydd Gwener gawsom ni’r newyddion bod John Manzini wedi ein gadael ni yn frawychus o sydyn.
"Roedd pawb yn gegrwth... a ddim yn poeni llawer am ganlyniad y gêm ddydd Sadwrn ond mae fath â bod rhai pethe i fod weithiau ac yn bendant doedd 'na ddim teyrnged well i’r hen John annwyl na bod ni wedi ennill."
Gyda chic o’r smotyn, Gwydion Ifan a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Lanuwchllyn gan achosi cynnwrf mawr ar gae’r Llan.
Gyda'r Drenewydd ddwy gynghrair yn uwch na Llanuwchllyn yn Uwch Gynghair Cymru, dywedodd Iwan Arthur Jones: "Heb os y gêm fwyaf yn hanes y clwb a’r canlyniad mwyaf yn eu hanes.
"Roedd yn ddiwrnod i’w gofio… diwrnod arbennig a dwi’n meddwl, fwy neu lai, mai Llan oedd y tim gore. Roedd yna ddau gerdyn coch i’r Drenewydd."
Bydd Llanuwchllyn yn cael gwybod ddydd Mercher pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf.