Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y cerddor o Buenos Aires a'i albwm o ganeuon Gruff Rhys... yn Sbaeneg
Mae 鈥榥a elfen o鈥檙 egsentric a dilyn ei fympwy creadigol wedi bod yn rhan o yrfa Gruff Rhys erioed. Does ryfedd felly ei fod wedi rhoi s锚l bendith i albwm o鈥檌 ganeuon mewn Sbaeneg gan Archentwr sy鈥檔 astudio鈥檙 corn naturiol yn Yr H芒g.
Cerddor o Buenos Aires ydi Pablo Traine sydd wedi bod yn ffan o gerddoriaeth Gruff Rhys ers darllen adolygiad am un o albymau y Super Furry Animals yn yr Ariannin 20 mlynedd yn 么l.
Roedd yn 16 ar y pryd ac fe wnaeth arwain at ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Cymraeg a Chymru.
Meddai Pablo, sy鈥檔 36 erbyn hyn: 鈥淵 tro cyntaf i fi wrando ar y Super Furries oedd ar 么l darllen adolygiad o鈥檜 record Phantom Power mewn cylchgrawn tua 2003. Ro鈥檔 i鈥檔 hoffi鈥檙 disgrifiad ac yn meddwl bod o鈥檙 math o beth fyddwn i鈥檔 hoffi - ac roedd o.鈥
Fe ddechreuodd wrando ar fwy o gerddoriaeth SFA a bandiau Cymraeg eraill fel Gorky鈥檚 Zygotic Mynci, gan roi cynnig ar ddysgu ychydig o Gymraeg.
鈥淒wi鈥檔 caru鈥檙 caneuon yn y Gymraeg yn enwedig,鈥 meddai. 鈥淣eshi ddysgu dipyn o鈥檙 lyrics, fel y darnau Cymraeg o Patio Song (gan Y Gorky鈥檚) a鈥檙 Teimlad gan Datblygu - ond mae鈥檔 well gen i fersiwn Super Furries fy hun.
"Neshi ddysgu nhw a be鈥 maen nhw鈥檔 golygu a chael diddordeb mawr yng Nghymru.鈥
'Geiriau doniol iawn'
Doedd y Super Furries na鈥檙 grwpiau Cymraeg eraill ddim yn adnabyddus o gwbl yn yr Ariannin a doedd cael gafael ar recordiau ddim yn hawdd. Felly roedd rhaid disgwyl am fisoedd cyn gallu cael un wedi ei fewnforio - cyn i bethau ddod yn haws gyda cherddoriaeth ddigidol.
Meddai Pablo: 鈥淢ae Gruff yn gymeriad diddorol iawn. Dwi wrth fy modd efo鈥檙 ffordd mae o鈥檔 rhoi caneuon at ei gilydd, dwi鈥檔 caru ei gerddoriaeth, mae ei eiriau yn ddoniol iawn - o鈥檙 un gynta鈥 gan y Furries i鈥檞 record ddiweddara fel artist unigol.
鈥淎 dwi鈥檔 hoffi鈥檙 albymau cerddorfaol - efo haen ar ben haen. Bob tro mae rhywun yn gwrando mae rhywun yn dod ar draws rhywbeth newydd.鈥
Mae o wedi gweld y Super Furry Animals a Gruff Rhys droeon - gan gynnwys yng Nghaerdydd, yr Iseldiroedd ac yn Buenos Aires - lle wnaeth o gyfarfod ei arwr.
Erbyn hyn mae Pablo, sy鈥檔 dod o deulu o gerddorion, yn astudio鈥檙 corn naturiol - rhagflaenydd y corn Ffrengig - a鈥檙 trwmped Bar贸c yn Yr H芒g, yn yr Iseldiroedd.
Ac yn ei amser sb芒r mae o wedi cyfieithu caneuon Gruff Rhys ar gyfer albwm newydd. Mae Mi laburo fue solo una ilusi贸n yn cynnwys 11 o draciau, gan gynnwys Pwdin 糯y, Bad Friend, Loan your Loneliness a Ni yw y Byd.
Pablo sydd wedi cyfieithu鈥檙 caneuon i Sbaeneg - ond fersiwn gyda thafodiaith Ariannin Buenos Aires. Fo hefyd sy鈥檔 canu, chwarae鈥檙 git芒r, allweddau, offerynnau pres ac mae o wedi gwneud y gwaith recordio a chymysgu.
Fe gysylltodd gyda Gruff Rhys i ofyn caniat芒d i鈥檞 ryddhau - gan egluro mai dim ond llond llaw o recordiau roedd am eu gwerthu a doedd o ddim yn bwriadu cadw unrhyw elw.
鈥淩oedd o鈥檔 ei hoffi - neu o leia鈥 roedd o鈥檔 gefnogol iawn yn ei neges yn 么l,鈥 meddai.
鈥淒wi鈥檔 cael hwyl yn cyfieithu鈥檙 lyrics a dwi wrth fy modd yn recordio a chware鈥檙 offerynnau a鈥檜 gosod mewn haenau.
鈥淒wi wedi trio eu cael i safon uchel. Dwn im os ydi o鈥檔 ddigon i fod fel record iawn mewn stiwdio ddrud, ond dwi wedi gwneud fy ngorau efo be' sgen i.鈥
Er nad oedd gan Pablo unrhyw gysylltiad gyda Chymru cyn dechrau gwrando ar gerddoriaeth yr SFA - a dim cysylltiad gyda鈥檙 Wladfa - mae wedi meithrin cysylltiadau dros y blynyddoedd.
Mae eisoes wedi ymweld 芒 Chymru am 10 diwrnod ac wedi cymryd rhan mewn fideo gan Band Pres Llareggub yn ystod y cyfnod clo.
Mae o hefyd mewn band yn yr Ariannin - a chlawr eu halbwm cyntaf ydi llun o stryd ym Mhwllheli.
Ac yntau newydd ddod yn dad am y tro cyntaf, does dim cynlluniau cadarn i鈥檙 dyfodol - ond mae eisiau dychwelyd i Gymru, recordio mwy a pherfformio yn fyw unwaith eto.
Ac mae un uchelgais yn un amlwg. 鈥淔y mhrif freuddwyd fyddai bod ym mand Gruff,鈥 meddai. 鈥淥nd dwi鈥檔 meddwl bod hynny ychydig bach yn annhebygol a finnau鈥檔 byw mewn gwlad arall!鈥