Codi arian i geisio troi tafarn Llanfrothen yn un gymunedol

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae tafarn y Brondanw Arms yn cael ei hadnabod fel 'Y Ring' yn lleol

Mae pobl ardal Llanfrothen yn ceisio codi hyd at 拢200,000 o fewn wythnos i brynu les un o dafarndai mwyaf adnabyddus Gwynedd.

Yn rhan ganolog o鈥檙 gymuned ers y 17eg ganrif, mae les tafarn y Brondanw Arms, sy鈥檔 cael ei adnabod fel 'Y Ring' yn lleol, nawr ar werth.

Caeodd y drysau nos Sul diwethaf, ac mae pobl leol yn gobeithio prynu鈥檙 les a throi鈥檙 dafarn yn un gymunedol.

Fe ddaeth aelodau鈥檙 gymuned ynghyd nos Lun mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod eu hymgyrch, a ffurfio corff o'r enw Menter y Ring.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Daeth pobl at ei gilydd i drafod dyfodol y dafarn nos Lun

Yn 么l Gwennan Mair, sy鈥檔 aelod o bwyllgor y fenter ynghyd 芒 15 o bobl eraill, dyma "gyfle arbennig" i鈥檙 gymuned.

Ond mae hefyd yn "fater o frys", meddai.

鈥淒a ni鈥檔 chwilio yn y gymuned glos yn Llanfrothen a鈥檙 ardal i鈥檔 helpu ni achub y Ring," meddai ar raglen Post Prynhawn 成人快手 Radio Cymru.

"Mae鈥檔 gyfle arbennig gan fod les y Ring wedi dod ar werth, ac fel cymuned fe wnaethon ni gyfarfod dydd Llun a phenderfynu mentro troi鈥檙 Ring yn dafarn gymunedol.

"Newydd glywed ydan ni fod y dafarn wedi dod ar werth, ac felly 'da ni ddim efo llawer o amser o gwbl.

"鈥橠a ni鈥檔 galw ar y gymuned am gefnogaeth achos ei bod o鈥檔 fater o frys.鈥

'Cymaint o atgofion'

Dywedodd Gwennan bod y pwyllgor yn chwilio am "fenthyciadau dros dro" er mwyn sicrhau'r les, gyda bwriad wedyn i feddwl am "ffyrdd newydd o hel arian" i鈥檞 throi yn dafarn gymunedol.

Y gobaith yw y bydd modd gwerthu cyfranddaliadau yn y fenter, fel sydd wedi digwydd gyda thafarndai cymunedol eraill ledled Cymru.

Y llynedd, fe wnaeth y dafarn ailagor wedi pryderon dros ei dyfodol.

Fe wnaeth un o gyn-denantiaid y dafarn gytuno i ailgydio yn yr awenau am chwe mis wrth i'r chwilio parhau am denant hirdymor.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach mae bragdy Robinsons nawr yn gwerthu鈥檙 les.

Mae鈥檙 cwmni wedi cael cais am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl leol yn anelu i godi hyd at 拢200,000 er mwyn prynu les y dafarn

Dywedodd Gwennan bod y dafarn yn lleoliad pwysig iawn i鈥檙 gymuned, gyda "chymaint o atgofion".

"Ma鈥檙 Ring wedi tynnu pobl i mewn dros y blynyddoedd o gymaint o wahanol lefydd a chefndiroedd.

"Mae o鈥檔 galon i鈥檙 gymuned, ac yn le sy鈥檔 dod 芒 phobl at ei gilydd, yn cefnogi pobl, lle mae pobl yn gallu teimlo鈥檔 saff a chael cyfarfod pobl newydd.

"Mae o'n bendant yn le andros, andros o bwysig i鈥檙 gymuned yma."