Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A48
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham am 11:55 fore Mawrth.
Bu farw gyrrwr un cerbyd yn y fan a鈥檙 lle.
Mae teulu鈥檙 dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd menyw oedd yn gyrru cerbyd arall ei chludo i鈥檙 ysbyty lle mae hi鈥檔 parhau mewn cyflwr sefydlog.
Mae鈥檙 heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.