成人快手

Jamie Roberts: Dim arwydd o welliant o dan Warren Gatland

Disgrifiad,

Mae'r "pwysau'n cynyddu" ar d卯m rygbi Cymru, meddai Jamie Roberts

  • Cyhoeddwyd

Mae Jamie Roberts yn dweud ei fod yn sefyll yn unfrydol ar 么l beirniadu Warren Gatland yn gyhoeddus yn dilyn colled gyntaf Cymru yn erbyn Fiji yng Nghaerdydd.

Cafodd cyn-ganolwr Cymru a鈥檙 Llewod ei ethol yn aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru'r llynedd tra鈥檔 parhau i weithio yn y cyfryngau.

Roedd Roberts yn un o鈥檙 lleisiau mwyaf beirniadol wedi鈥檙 golled yn erbyn Fiji wrth ddweud yn blwmp ac yn blaen mai dyma oedd y cyfnod gwaethaf i鈥檙 t卯m cenedlaethol yn ystod yr oes broffesiynol.

鈥淒wi鈥檔 deall y spin mae Warren yn ceisio rhoi. Ond dwi wirioneddol o鈥檙 farn nad yw Cymru wedi symud ymlaen o gwbl," meddai.

Fe ymatebodd prif hyfforddwr Cymru i鈥檙 sylwadau drwy ddweud nad oedd yn poeni rhyw lawer, a bod gan bawb hawl i鈥檞 barn bersonol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Does dim gwelliant wedi bod 'na chynnydd o ran t卯m Cymru," meddai Jamie Roberts

Ond fe ychwanegodd Gatland fod yna sawl person wedi cysylltu 芒鈥檙 cyn-chwaraewr i ddweud nad oedd y sylwadau鈥檔 briodol na theg - rhywbeth sydd wedi鈥檌 wadu'n llwyr gan Roberts ei hun.

Dywedodd Jamie Roberts: 鈥淒wi鈥檔 aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru ond dwi hefyd ar adegau yn cael fy nghyflogi gan y cyfryngau ac mae disgwyl i mi roi barn onest.

"Mi wnes i roi barn o鈥檙 hyn weles i ar y penwythnos a sut oeddwn yn gweld y t卯m yn yr oes broffesiynol ac yn anffodus mae鈥檙 ffeithiau yn glir, does dim gwelliant wedi bod 'na chynnydd o ran t卯m Cymru ac mae hynny, mae gen i ofn, yn ffeithiol gywir."

Aeth y cyn-ganolwr ymlaen i ddweud nad oedd hyn yn bersonol o gwbl tuag at y prif hyfforddwr presennol.

鈥淒yw hi byth yn bersonol a dwi鈥檔 edmygu Warren Gatland yn fawr ac mae gen i barch mawr tuag ato, ond yr hyn dwi ddim yn barod i wneud yw ymddiheuro am sylwadau dwi 'di wneud sydd, dwi鈥檔 credu, yn onest ac yn rhan o鈥檙 hyn sy鈥檔 ddisgwyliedig wrth geisio dadansoddi."

'Canlyniadau heb wella'

Fe enillodd Jamie Roberts 94 o gapiau dros Gymru, ac roedd yn rhan allweddol o garfan y Llewod o dan hyfforddiant Gatland yn 2009 a 2013.

Roedd yn rhan ganolog o ddull chwarae Gatland - yn un fyddai 芒鈥檙 cryfder corfforol i sicrhau byddai Cymru ar y droed flaen ac yn croesi鈥檙 llinell fantais.

Er ei fod yn barod i feirniadu, mae dal yn barod i ganmol r么l y g诺r o Seland Newydd yn llwyddiant y t卯m cenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd Jamie Roberts dros Gymru 94 o weithiau

鈥淒oes gen i ond y parch mwyaf at Warren Gatland, mae e wedi bod yn hyfforddwr gwych dros y blynyddoedd.

"Mae 'na bwysau o hyd ac mi fydd e yn fwy na neb yn gobeithio am fuddugoliaeth yn druenus.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod o drawsnewid o ran y g锚m yng Nghymru a dwi鈥檔 derbyn hynny, mae 'na sawl chwaraewr ifanc yn gorfod bwrw鈥檌 swildod ar lefel rhanbarthol yn gynt na鈥檙 disgwyl.

"Dyw hi ddim yn rhwydd ac mae鈥檔 heriol, ond mae rhaid i Warren gyfaddef mai ei ben sydd ar y bloc o ran canlyniadau鈥檙 t卯m cenedlaethol - a dyw鈥檙 rheiny yn syml ddim wedi gwella.鈥

Er gwaetha' colli am y 10fed tro yn olynol a dod yn gyfartal 芒鈥檙 record waethaf erioed yn hanes rygbi Cymru, mae鈥檙 cyn-chwaraewr yn ffyddiog gall y t卯m daro'n 么l, ac yn grediniol gall Gymru brofi buddugoliaeth yn erbyn y Wallabies.

鈥淒wi鈥檔 deall mai Awstralia fydd y ffefrynnau ar 么l curo Lloegr ond dwi wir yn meddwl fod yna gyfle gwych i newid y sefyllfa yn llwyr.

"Yn seicolegol mi fydd yn anodd i Awstralia i greu perfformiad tebyg i鈥檙 un welon ni yn Twickenham, ar 么l cyrraedd yr uchelfannau yn emosiynol dim ond un lle sydd i fynd a dwi鈥檔 si诺r fydd Warren wedi crybwyll hynny yn ystod yr wythnos.

"Does dim dwywaith mae Cymru yn gallu ennill - bosib bod sawl un yn meddwl mod i鈥檔 hurt yn dweud hynny ond yn draddodiadol mae Cymru yn perfformio鈥檔 dda yn erbyn y Wallabies.

"Mae 'na sawl g锚m dros y 15 mlynedd ddiwethaf wedi bod o fewn sg么r, rhywffordd mae鈥檔 rhaid i Warren a鈥檙 garfan feddwl hynny ac o bosib fydd ennill yr un g锚m yna yn gwneud byd o wahaniaeth."