成人快手

Protestio yn erbyn sgwrs AS ym Mhrifysgol Caerdydd

Natasha AsgharFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Natasha Asghar AS yn cynnal sgwrs ym Mhrifysgol Caerdydd pan gychwynnodd protestiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Natasha Asghar wedi disgrifio gweithredoedd protestwyr fel "annerbyniol", wedi iddi gynnal sgwrs i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd Ms Asghar ei gwahodd i siarad am ei dyletswyddau fel Aelod o'r Senedd gan Gymdeithas Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Roedd hi'n siarad yn adeilad John Percival y brifysgol pan geisiodd protestwyr darfu ar y digwyddiad i wrthwynebu safbwynt Ms Asghar am y sefyllfa yn Gaza.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn sicrhau'r rhyddid i lefaru ar draws y campws.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Natasha Asghar AS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Natasha Asghar yn annerch Cymdeithas Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd

Yng nghanol yr hyn a gafodd ei hysbysebu fel sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Ms Asghar, fe wnaeth gr诺p o brotestwyr ddangos eu hanfodlonrwydd am y ffordd y pleidleisiodd yr AS mewn dadl seneddol am Gaza.

Roedd Ms Asghar yn un o'r aelodau a bleidleisiodd yn erbyn galw am gadoediad ar unwaith yn y Dwyrain Canol.

Mewn fideo sydd wedi ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol, mae Ms Asghar i'w gweld yn ceisio parhau gyda'i sgwrs, tra bod protestiadau i'w clywed tu allan i'r ystafell.

Mae fideo arall yn dangos myfyrwyr yn y sgwrs yn dadlau gyda Ms Asghar yngl欧n 芒'i phenderfyniad.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Asghar: "Er sawl ymgais i esbonio fy safbwynt i yn dilyn pleidlais yr wythnos ddiwethaf, roedd llawer o brotestwyr yn gwrthod gwrando na ymgysylltu, ac mae hynny'n siomedig iawn.

"Dwi ddim yn barod i gael fy mwlio na fy mygwth rhag mynychu cyfarfodydd pwysig fel hyn."

Aeth Ms Asghar ymlaen i ddiolch i'r heddlu a th卯m diogelwch y brifysgol am eu gwaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae'n bwysig pwysleisio bod prifysgolion yn lleoliadau ble mae amryw o syniadau yn gallu cael eu hystyried, archwilio a'u dadansoddi o fewn rhaglen y brifysgol a bywyd prifysgol ehangach.

"Fel canlyniad byddwn yn parhau i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhyddid i lefaru, o fewn y gyfraith, yn cael ei warchod."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Brifysgol Caerdydd eu bod yn adolygu'r digwyddiad a'r brotest i weld a oes angen cymryd unrhyw "gamau ffurfiol".