Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod 2024: 'Dod 芒 miwsig Cymraeg i gynulleidfa newydd'
Mae cerddor o Bontypridd yn gobeithio bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol 芒鈥檌 ardal yn cyflwyno'r sin gerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa newydd.
Yn 么l Huw Griffiths, o fand Y Dail, fe fydd pobl ifanc sydd erioed wedi bod i鈥檙 Brifwyl o鈥檙 blaen yn si诺r o ymweld pan fydd ar eu stepen drws eleni - wnaiff agor y drws i brofiadau cerddorol newydd.
Ac mae鈥檔 credu y bydd nifer yn sylweddoli bod cymaint o fathau gwahanol o gerddoriaeth Cymraeg ac yn dod o hyd i grwpiau sy鈥檔 apelio.
Meddai: 鈥淏ydd nhw'n gallu gweld pa mor iach a faint mae鈥檙 sin Gymraeg yn ffynnu o weld y bands yn perfformio ym Mhontypridd.
鈥淏ydd dod ar draws yr ystod eang iawn o fandiau ac acts cerddorol sydd ar hyn o bryd yn canu yn y Gymraeg yn rhywbeth eithaf anhygoel rili i rywun falle fase ddim wedi dod ar draws hynny o鈥檙 blaen a dwi鈥檔 meddwl bod hynny yn beth gwych.鈥
Mae Huw yn gobeithio caiff rhai brofiad tebyg i'r un gafodd o pan oedd o yn ei arddegau yn dechrau gwrando ar fandiau Cymraeg roedd ei rieni yn eu hoffi, fel Gorky鈥檚 Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Catatonia.
Er ei fod yn rhan o ddiwylliant Cymraeg yr ardal ac yn mynd i weld gigs yng Nghlwb y Bont, tydi Huw ddim yn cofio bandiau Cymraeg yn y Cymoedd wrth dyfu fyny.
Cymraeg 'pync' y Gorky's
Clywed bandiau fel Gorky鈥檚 ddylanwadodd ar ei benderfyniad i sgwennu cerddoriaeth Gymraeg.
Meddai: 鈥淕an mai鈥檙 Gymraeg ydi鈥檔 iaith gynta鈥 i ac iaith gynta鈥榬 mavericks yma o鈥檙 1990au a 2000s o'n i鈥檔 meddwl 鈥榙yna fi鈥檔 mynd i ddefnyddio wrth sgwennu caneuon鈥.
鈥淩oedd canu yn y Gymraeg a dod o rywle ar bwys Pontypridd yn teimlo fel rhywbeth unigryw ac fel outsider i fod yn onest - a hynny mewn ffordd dda. Roedd yn teimlo bod gen i ryddid a bod e鈥檔 rhywbeth eitha鈥 gwahanol ac eitha鈥 unigryw.
鈥淥nd hefyd gydag Euros Childs (o Gorky鈥檚) yn enwedig, roedd ei ddefnydd o鈥檙 Gymraeg gyda chaneuon cynnar y Gorky鈥檚 yn ffresh ac yn wreiddiol iawn.
"Roedd ei ddefnydd e o fratiaith a thafodiaith y Gorllewin a鈥檌 ddefnydd o鈥檙 Gymraeg yn eitha鈥 pync a gwrth-ddiwylliannol ac roedd gweld hynny yn ddylanwad ac yn gwneud i fi feddwl 鈥榳ow, dyma be' alla i 'neud gyda sgwennu yn y Gymraeg hefyd鈥.鈥
Pan ddechreuodd Huw berfformio am y tro cyntaf, tra yn yr ysgol, roedd rhai o ganeuon y Gorky鈥檚 yn rhan o鈥檌 set.
Yn 2020 fe wnaeth Y Dail ryddhau eu sengl gyntaf, Teigr, cyn i'r cyfnod clo ac aelodau o'r band yn mynd i鈥檙 coleg amharu ar y cynlluniau.
Ond fe wnaeth Huw, sy鈥檔 20 erbyn hyn ac yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, barhau i sgwennu a recordio ar ei ben ei hun dros y blynyddoedd. Ffrwyth ei lafur ydi albwm gyntaf Y Dail a bydd Teigr yn cael ei ryddhau ar 5 Ebrill.
Ei obaith ydi bod y math o ysbrydoliaeth gafodd o yn ddigwydd i eraill o鈥檙 Cymoedd dros yr haf.
鈥淵n y Gymraeg nawr mae pob math o genres ac ystod eang mor amrywiol,鈥 meddai. 鈥淢ae 鈥榙a chi acts drum and bass, hip hop, trap, bandiau indie, bandiau mwy prif ffrwd, bandiau mwy underground; mae ganddo chi popeth yn y Gymraeg sy鈥檔 profi pa mor iach yw e a bod e鈥檔 tyfu a thyfu.
鈥淏endant bydd e鈥檔 ddiddorol gweld sut ma鈥檙 bandiau yma yn cael eu derbyn yn yr Eisteddfod.鈥