成人快手

Syndrom Down: 'Fy mab wedi ei atal rhag naid elusennol'

Lloyd a CeriFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lloyd (chwith) wedi wynebu sawl rhwystr ar hyd y blynyddoedd yn 么l ei fam, Ceri (dde)

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i ddyn ifanc oedd ar fin gwneud naid elusennol yn dweud iddi gael gwybod na allai neidio gan fod ganddo Syndrom Down.

Roedd Lloyd Martin, 19, sydd 芒 theulu yng Nghaerdydd, wedi codi 拢2,500 i鈥檞 glwb gymnasteg wrth gynllunio i wneud y naid yn Wiltshire.

Mae'r dyn ifanc yn dal Record Byd Guinness am fod y person ieuengaf 芒'i anabledd penodol i gwblhau marathon unrhyw le yn y byd ar 么l gwneud marathon Llundain fis Ebrill.

Roedd Lloyd wedi bod yn edrych ymlaen at y naid ar safle GoSkydive ger Caersallog (Salisbury) ddydd Iau.

Dywedodd ei fam, Ceri Hooper, fod y prif hyfforddwr wedi canslo ei naid oherwydd ei fod yn poeni sut y byddai'n ymateb.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod am ddod i adnabod Lloyd yn well cyn mynd i awyrblymio.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Lloyd yn codi arian ar gyfer ei glwb gymnasteg yn ardal Camberley yn ne-ddwyrain Lloegr

鈥淩y'n ni wedi arfer 芒 chael llawer o ddrysau'n cau'n glep yn ein hwynebau yn y gorffennol, ond mae hyn yn dod 芒 phopeth yn 么l,鈥 meddai Ms Hooper.

鈥淔e wnaethon ni gyrraedd, cael sesiwn briffio, roedd popeth yn iawn.

"Ond wedyn fe ddaeth [yr hyfforddwr] draw. Dywedodd 'dydyn ni ddim yn gwybod sut mae rhywun 芒 Syndrom Down yn mynd i ymateb pan fyddan nhw'n neidio allan o awyren'.

鈥淲el, dy'ch chi ddim yn gwybod sut y bydd unrhyw un yn ymateb pan fyddan nhw'n neidio allan o awyren,鈥 ychwanegodd Ms Hooper.

"Fe gafon ni i gyd sioc. Wnaethon nhw ddim dod i siarad 芒 Lloyd."

Dywedodd Ms Hooper fod archwiliadau meddygol gan ei feddyg teulu yn cadarnhau ei fod yn 鈥渇fit i neidio鈥 a dywedodd fod y cwmni鈥檔 gwybod am anabledd Lloyd pan wnaethon nhw drefnu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lloyd yn mwynhau pob math o chwaraeon ac roedd yn edrych ymlaen at y naid elusennol

鈥淎lla' i ddim credu eu bod wedi gadael i ni archebu lle,鈥 ychwanegodd Ms Hooper.

鈥淩y'n ni wedi codi鈥檙 holl arian yma ar gyfer y gampfa, ry'n ni i gyd wedi cael diwrnodau i ffwrdd o鈥檙 gwaith, ry'n ni wedi cyrraedd, a 鈥榥a鈥 yw'r ateb.鈥

Fe deithiodd mam-gu a thad-cu Lloyd o Gaerdydd i'w gefnogi.

Dywedodd Ms Hooper fod Lloyd yn siomedig iawn.

'Cymaint o rwystrau'

"Penderfynodd gweddill y t卯m beidio 芒 neidio gan nad oedd Lloyd yn gallu, ac roedd Lloyd yn siomedig am hynny," meddai.

鈥淩ydyn ni wedi cael cymaint o rwystrau, cymaint o ddrysau wedi cau yn ein hwynebau yn y gorffennol.

鈥淩o'n ni'n teimlo ein bod ni'n cyrraedd rhywle o ran cynwysoldeb, ac wedyn mae hyn yn digwydd.鈥

Mae'r corff llywodraethu cenedlaethol, British Skydiving, yn dweud y dylai unrhyw un ag anabledd siarad 芒 phrif hyfforddwr yr ysgol blymio awyr cyn ymrwymo i neidio.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GoSkydive, Gordon Blamire, ei fod yn cefnogi penderfyniad ei d卯m i "ddod i adnabod Lloyd yn well cyn mynd ag ef i awyrblymio".

鈥淒oes dim amheuaeth y gallem fod wedi cyfathrebu鈥檔 well yr angen i Lloyd gael ei asesu cyn ei ymweliad 芒 GoSkydive, ac am hyn rydym yn ymddiheuro'n fawr," dywedodd.

鈥淩ydym yn parhau i ddysgu a gwella ein rhyngweithio ac mae鈥檙 enghraifft yma yn ysgogi newid uniongyrchol yn ein polis茂au.

"Er ein bod yn deall rhwystredigaethau teulu Lloyd, ein blaenoriaeth yw lles Lloyd. Rydyn ni eisiau'r cyfle i ddod i adnabod Lloyd, ei gyflwr a'r hyn sydd ei angen arnon ni cyn i ni allu mynd ag ef i awyrblymio."

Pynciau cysylltiedig