Cerddwr wedi marw ar 么l cael ei daro gan lori

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Llaneurgain ym mhentref Mynydd-y-Fflint

Mae dyn wedi marw ar 么l cael ei daro gan lori tra'n cerdded yn Sir y Fflint brynhawn Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, eu galw toc wedi 13:00 i Ffordd Llaneurgain ym mhentref Mynydd-y-Fflint, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Melanie Hughes o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: 鈥淩ydym yn parhau i feddwl am deulu鈥檙 dyn ar yr amser hynod anodd hwn.

鈥淩ydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd Llaneurgain tua adeg y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd 芒 lluniau camera cerbyd neu deledu cylch cyfyng i gysylltu 芒 ni.鈥