Llwydni a llygod mawr er gwaethaf prisiau rhent uchel

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r olygfa yn un o'r ystafelloedd yn nh欧 Elin Griffiths
  • Awdur, Annell Dyfri
  • Swydd, 成人快手 Cymru Fyw

Mae rhai o fyfyrwyr Caerdydd wedi gorfod delio 芒 llwydni, tamprwydd, llau gwely a llygod mawr yn eu tai, er gwaetha'r ffaith eu bod yn talu rhent uchel yn fisol.

Mae ymgyrchwyr yn galw am reoli prisiau rhentu yng Nghymru er mwyn sicrhau fod tenantiaid yn cael "gwerth am arian" gan landlordiaid.

Yn 么l ystadegau newydd gan y Swyddfa Ystadegau (ONS), mae pris rhent wedi codi 13% ar gyfartaledd yng Nghaerdydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ystyried deddf newydd yn ymwneud 芒 phrisiau rhent gan ddweud bod angen "gwell data ar rent a fforddiadwyedd".

Disgrifiad o'r llun, Mae Elin Griffiths o'r farn nad yw'r pris y maen nhw'n ei dalu yn adlewyrchu cyflwr y t欧

I Elin Griffiths, sy'n fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio meddygaeth, mae'r sefyllfa yn un "rhwystredig iawn".

Dywedodd fod sawl problem wedi codi yn ystod ei chyfnod yn y t欧 gan gynnwys "cadeiriau y tu fas, d诺r yn disgyn trwy'r to... ni wedi cael dau leak gwahanol yn y gegin".

"Ma' 鈥榙a ni mould ar y walydd, mae'r walydd mor wlyb mae'r dyn peintio ddaeth draw wedi dweud nad oes modd peintio drostyn nhw gan eu bod nhw mor wlyb," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae sawl myfyriwr wedi dweud wrth Cymru Fyw fod llwydni yn broblem yn eu tai

Aeth ymlaen i ddweud nad yw'r pris yn "adlewyrchu safon y t欧 o gwbl".

Fe symudodd hi a鈥檌 ffrindiau i'r eiddo ddwy flynedd yn 么l ac er i'w gyflwr waethygu yn y cyfamser, mae'r esgid yn gwasgu.

"I fod yn onest mae'r t欧 wedi mynd yn waeth ers i ni symud mewn a ni'n talu mwy o arian nawr na o' ni'n 'neud pan wnaethom ni symud mewn yn wreiddiol," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Elin nad oedd modd peintio'r waliau gan eu bod yn rhy wlyb

Eglurodd Elin eu bod yn symud o'r t欧 ymhen rhai misoedd, ond y byddai cael t欧 o ansawdd gwell yn golygu talu mwy.

"Ar y foment ma' prisiau rhent, yn enwedig yn Cathays wedi mynd lan loads," dywedodd, gan ychwanegu ei bod yn anodd "ffeindio lle am lai na 拢400" yr un bob mis.

Mewn datganiad, dywedodd CPS, yr asiantaeth dai sy'n gyfrifol am d欧 Elin, eu bod yn cydnabod bod y t欧 wedi cael "sawl problem ac nid yw'r landlordiaid ynghyd 芒'u gweithwyr, wedi bod yn ddigon cyflym nac effeithiol".

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn ceisio datrys y problemau nawr.

Llygoden fawr wedi marw yn y wal

Mae Megan Davies, sy hefyd yn fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn, yn dweud ei bod hi a鈥檌 ffrindiau wedi profi llwyth o broblemau yn y t欧 eleni.

Dywedodd eu bod wedi cael "bed bugs, lot o lwydni a lleithder a nawr wythnos hyn ni wedi ffeindio mas bod gyda ni lygod, sydd ddim yn ideal o gwbl".

Aeth ymlaen i ddweud "ma' gynom ni lygoden fawr yn sownd yn y wal ac mae'n drewi... mae'n rili rili awful, mae'n rank."

Dywedodd bod cyflwr y t欧 yn sicr "wedi effeithio ar ein blwyddyn ni, ac wedi rhoi cwmwl dros y flwyddyn".

Disgrifiad o'r llun, Mae Megan Haf yn "fwy na hapus" i dalu mwy y flwyddyn nesaf am d欧 sydd mewn cyflwr gwell

鈥淣i鈥檔 talu 拢370 [yr un bob mis] ar hyn o bryd ar gyfer y t欧 a fi ddim yn meddwl bod y cyflwr yn adlewyrchu hynny o gwbl.

"Blwyddyn nesa', ma' costau wedi mynd lan fel ma' nhw wastad yn ei wneud. Ni鈥檔 talu 拢60 mwy bob mis yr un felly, sydd yn naid, ond fi鈥檔 ddigon hapus i dalu hwnna os yw e鈥檔 golygu bod cyflwr y t欧 yn well."

Dywedodd fod y criw wedi dod o hyd i d欧 newydd bron i flwyddyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod y t欧 o ansawdd gwell.

Mae 成人快手 Cymru Fyw wedi gwneud cais am sylw i'r asiantaeth dai sy'n gyfrifol am d欧 Megan.

Pris rhent yn codi i dros 拢1,000 am y tro cyntaf

Er bod prisiau tai wedi aros yn eithaf cyson ar gyfartaledd y llynedd, mae prisiau rhent wedi codi.

Yn 么l ffigyrau diweddar gan yr ONS, mae pris rhent yng Nghaerdydd wedi codi 13% ar gyfartaledd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Bellach mae pris rhent misol yn y brifddinas wedi codi i dros 拢1,000 am y tro cyntaf.

Disgrifiad o'r llun, "Mae'r costau yn mynd yn uwch bob blwyddyn a di'r safonau yn dilyn hynny", meddai Deio Owen

Dywedodd Deio Owen, Is-lywydd Iaith a Diwylliant Cymru, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, nad yw problemau yn ymwneud 芒 thai myfyrwyr yn rhywbeth newydd.

Dywedodd fod y "costau yn mynd yn uwch bob blwyddyn a 'di'r safonau ddim yn dilyn hynny o gwbl... ti'n talu prisiau enfawr am rywbeth gwael iawn".

Wrth s么n am yr argyfwng costau byw, fe ategodd nad yw'n "sefyllfa dda iawn i fod yn fyfyriwr" ar hyn o bryd.

Galw am reoli prisiau rhent yng Nghymru

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio deddf yn 2016 oedd yn gosod safonau ar gyfer landlordiaid sy'n rhentu eu heiddo ac maen nhw bellach yn y broses o ystyried deddf newydd yn ymwneud 芒 phrisiau rent.

Mae Undeb Acorn Caerdydd yn un o'r sefydliadau wnaeth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y testun yma y llynedd, ac sydd eisiau gweld y maes yn cael ei reoli.

Dywedodd Holly Firmin o'r undeb nad yw pobl yn cael "gwerth eu harian gan eu bod yn talu'r pris mwyaf erioed ar gyfer y tai yma sydd ddim yn addas i fyw ynddyn nhw, neu sydd 芒 phroblemau mawr ac angen gwaith adnewyddu".

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw "fesurau mewn grym yng Nghymru sy'n cyfyngu codi rhent i unwaith bob 12 mis, gan roi deufis o rybudd" a bod yn rhaid i landlordiaid gydymffurfio "芒 holl ofynion deddf rhentu tai Cymru."