成人快手

Gallai ffermwyr dyfu bwyd mewn garej neu sgubor?

Stafell o basil o dan olau UVFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffermio fertigol yn defnyddio llawer o ynni gan fod angen goleuo a gwresogi'r adeiladau

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwyr Cymru'n fyd enwog am eu cig oen a'u cig eidion, ond tybed a allen nhw gael eu temtio i neilltuo sgubor neu garej hyd yn oed ar gyfer tyfu salad, mwyar neu fadarch?

Mae ymchwilwyr o dair prifysgol yn cydweithio i geisio sefydlu Canolfan Ragoriaeth Gymreig ar gyfer ffermio fertigol, sy'n golygu tyfu cnydau dan do mewn amgylchedd sy'n cael ei reoli.

Maen nhw'n dweud y gallai gynnig "ffordd bwysig o arallgyfeirio" i ffermwyr Cymru, tra'n hybu diogelwch bwyd y genedl.

Ar hyn o bryd, ychydig iawn o鈥檙 ffrwythau a鈥檙 llysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru sy'n cael eu cynhyrchu yma, gyda phobl yn dibynnu ar fewnforion o fannau eraill yn y DU neu o dramor.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae garej Chris a Donna Graves wedi ei droi yn fferm gwahanol iawn

I Chris a Donna Graves o Bentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf - dechreuodd y cyfan gydag un potyn o berlysiau ar silff ffenestr.

Nawr mae eu garej wedi'i thrawsnewid yn fferm drefol lawn, gan dyfu cnydau sy'n addurno prydau a choctels mewn bwytai drud.

"Be' sy'n dda ydi gallwn ni dyfu 365 diwrnod y flwyddyn", esboniodd Donna, gan ychwanegu bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi "cynnyrch premiwm".

"Mae'r ffaith hefyd eu bod nhw wedi'u tyfu yng Nghymru a ddim yn teithio milltiroedd o dros y ffin," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llysiau a pherlysau Microerwau Cymru

Dywedodd Chris fod costau ynni - ar gyfer goleuo a gwresogi - yn un her, yn enwedig yn y gaeaf, ond "yn ffodus rydym wedi dod o hyd i'r cwsmeriaid sy'n cadw ni i fynd".

Mae'r busnes yn y broses o ehangu i uned ddiwydiannol gyfagos, lle dywedodd y cwpl mai eu breuddwyd oedd gosod paneli solar neu wresogydd biomas.

鈥淥s allwn ni leihau鈥檙 costau hoffem weithio gyda'r sector cyhoeddus hefyd, drwy werthu i ysbytai ac ysgolion er enghraifft,鈥 meddai Donna.

Ychwanegodd bod angen grantiau gan Lywodraeth Cymru os ydi ffermydd trefol a fertigol yn mynd i dyfu a chyflawni eu potensial.

Ffermio madarch yn lle defaid

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Griffiths-Swain yn arddangos ei fadarch yn y pentref garddwriaeth

Ar fferm Tyn-yr-Onnen, ger Waunfawr yng nghanol parc cenedlaethol Eryri, mae hanes fferm fertigol arall wedi bod yn creu penawdau.

Enillodd Gareth Griffiths-Swain, 33 oed, gystadleuaeth deledu i gyflenwi'r madarch y mae'n eu tyfu mewn ysgubor ar fferm y teulu i Aldi.

"Mae wedi bod yn wych i ni ac rydym wedi gorfod tyfu'n sydyn iawn," meddai.

鈥淢ae madarch yn hynod effeithlon o ran y lle sydd ei angen, gallwch chi dyfu cymaint o fwyd mewn lle bach iawn, iawn - rydyn ni nawr yn tyfu ar gyfer manwerthwr mawr yn y DU ar ein fferm fach.

"Does dim ots am y tywydd y tu allan, rydyn ni'n creu'r amgylchedd lle mae madarch yn ffynnu fel y gallwch chi barhau i gynhyrchu trwy gydol y flwyddyn."

Roedd 'na botensial "yn bendant" i ffermwyr eraill ei ddilyn, meddai.

"Roedden ni ar fferm gyda 300 o ddefaid nad oedd wir yn gweithio i fy nhaid ac fe wnaethom nodi bod yr ysguboriau ar y fferm yn berffaith ar gyfer ffermio fertigol."

Dywedodd mai'r her oedd canolbwyntio ar gael y cynnyrch yn iawn. Roedd lleoliad anghysbell y fferm yn golygu na fyddai'n ymarferol i lori fawr gymryd cynnyrch ffres i ffwrdd bob dydd.

Yn lle hynny mae'n canolbwyntio ar fadarch sych a "nwyddau parod" eraill y gall eu paratoi ar leoliad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pentref garddwriaeth yn 么l am y tro cyntaf ers y pandemig

Mae ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth, Abertawe a phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dod at ei gilydd ar brosiect y maen nhw'n gobeithio fydd yn gweld mwy o fusnesau ffermio fertigol yn cychwyn yng Nghymru.

Y bwriad yw sefydlu Canolfan Ragoriaeth Gymreig ar gyfer amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig.

Dywedodd Dr William Stiles, gwyddonydd pridd o Brifysgol Aberystwyth ei fod yn gobeithio y gallai'r cysyniad ddod yn "opsiwn arallgyfeirio fferm o bwys".

Er bod nifer o fentrau fferm fertigol ar raddfa fawr ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau wedi methu yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd costau ynni uchel, dywedodd fod enghreifftiau o fentrau llai a oedd yn gwneud iddo weithio.

鈥淩ydyn ni鈥檔 gweld llawer o weithrediadau ffermio microwyrdd ledled y DU - maen nhw鈥檔 tueddu i werthu鈥檔 uniongyrchol i鈥檙 defnyddiwr mewn marchnadoedd ffermwyr neu fwytai drud, gan werthu cynhwysion arbenigol.

"Felly maen nhw'n cyflawni modelau busnes da ac yn gwneud swm penodol o arian, ond mae'n ddyddiau cynnar," ychwanegodd.

Y gobaith yw y gall y gr诺p ymchwil trawsddisgyblaethol newydd helpu i weithio ar yr "heriau sylweddol sy'n wynebu ffermio fertigol wrth iddo drosglwyddo o dechnoleg sydd dal i ddatblygu i gynhyrchu bwyd i bawb", ychwanegodd.

Mewn gweithdy yng Nghas-gwent, clywodd y gr诺p gan Henry Gordon-Smith, sy'n teithio'r byd yn cynghori unigolion a gwledydd ar sut i gyflwyno ffermio fertigol yn llwyddiannus.

Dywedodd fod y "cysondeb" y mae ffermydd amgylchedd rheoledig yn ei sicrhau yn "un o'r manteision gorau" - "mae'n amlwg yn gyfle i ffermwyr gael incwm mwy cyson a rhagweladwyedd o amgylch eu cnydau".

"I lawer o ffermwyr bach, yr hyn sy'n wych yw y gallwch chi mewn gwirionedd eu hadeiladu'n gymharol fach a gallwch chi eu gwneud yn fwy technoleg isel os ydych chi eisiau.

鈥淩ydych chi'n gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr ... ac rydych chi'n cael yr elw uchaf - mae hynny'n gyfle mawr i ffermwyr sydd fel arfer yn dibynnu ar brisiau nwyddau yn unig.鈥

Mae鈥檙 ddau fusnes yn arddangos eu gwaith yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd, lle mae ffocws arbennig eleni ar dyfu ffrwythau a llysiau gyda lansiad pentref garddwriaeth newydd.

Ry'n ni'n clywed yn aml fod pobl yn cael eu hargymell i fwyta pum ffrwyth neu lysieuyn y dydd, ond daeth astudiaeth ddiweddar i鈥檙 casgliad mai dim ond digon i ddarparu chwarter un darn y dydd sy'n cael ei dyfu yng Nghymru.

Yn 么l astudiaeth arall gan Synnwyr Bwyd Cymru, mae 94% o'r llysiau sy'n cael eu gweini yn ysgolion Cymru wedi'u mewnforio.

鈥淒yw Cymru ddim yn tyfu lot o'r ffrwythau a llysiau 'da ni'n eu bwyta", esboniodd Jonathan Tench, cyfarwyddwr economi llesiant ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol.

"Dim ond 0.1% o'r tir 'da ni'n ei ddefnyddio ar gyfer ffermio yng Nghymru sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau.

"A dyma'r bwyd sydd gyda supply chains rhyngwladol ac maen nhw'n risky oherwydd be' sy'n digwydd gyda newid hinsawdd a gwrthdaro rhyngwladol ac felly dylen ni edrych ar shwd ni'n gallu tyfu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru.

"Beth sydd angen yw bod y system cynllunio sydd gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn edrych ar shwt i ddenu cymunedau at ei gilydd i gael access at fwy o dir ac i ddefnyddio hwnnw ar gyfer tyfu mwy o ffrwythau a llysiau."