Dileu cynllun rheilffordd digwyddiadau mawr
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynllun i adeiladu rheilffordd a fyddai wedi storio trenau i'w defnyddio pan fo cyngherddau a gemau mawr yng Nghaerdydd wedi ei ddileu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru a鈥檙 llywodraeth bod y lein gadw ar gyfer digwyddiadau mawr yn costio mwy na鈥檙 disgwyl, ac felly doedd y cynllun ddim yn werth da am arian.
Mae'r cwmni, sy鈥檔 eiddo i鈥檙 llywodraeth, wedi dweud hefyd nad oes modd iddyn nhw adennill y gost o 拢10m a mwy sydd wedi ei wario ar gynllunio鈥檙 trac ger y gwaith dur yng Nghasnewydd.
Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi beirniadu鈥檙 penderfyniad.
Dim effaith ar gynlluniau eraill
Roedd cynllun y lein gadw, 1.6km o hyd, yn addo rhagor o gapasiti ar y rheilffordd pan mae disgwyl torfeydd mawr.
Fe fyddai trenau yn cael eu cadw yno a鈥檜 defnyddio i gludo cefnogwyr i gyngherddau a gemau - gan gynnwys gemau rygbi鈥檙 Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality.
Ond yn eu hadroddiad blynyddol diweddaraf, mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod costau o 拢10.54m a wariwyd ar y prosiect ers 2018 鈥渘awr yn cael eu hystyried yn rhai na ellir eu hadennill鈥.
Dywed y cwmni nad yw'r penderfyniad yn effeithio ar y cynlluniau i agor gorsafoedd newydd o amgylch Casnewydd a Chaerdydd - gan gynnwys yn Llanwern.
'Seilwaith trafnidiaeth hynod fregus'
Mae digwyddiadau mawr yn rhan bwysig o economi Caerdydd, ond mae rhai pobl wedi cael anawsterau gyda thrafnidiaeth yn y gorffennol.
Methodd rhai a gweld Ed Sheeran pan ddaeth i berfformio yn Stadiwm y Principality yn 2022.
Mae mwy o berfformwyr enwog yn perfformio yno'r flwyddyn nesaf, gan gynnwys Taylor Swift a Bruce Springsteen.
Bydd rhai o gemau pencampwriaeth p锚l-droed Euro 2028 yn cael eu chwarae yn y brifddinas hefyd.
Y trenau yn llawn
Ddydd Sadwrn roedd hi'n ddiwrnod g锚m rygbi Cymru yn erbyn y Barbariaid.
Dywedodd Chris Medlicott, 45, o Aberd芒r ei fod e wedi dod 芒'i fab Owen i'w g锚m gyntaf yn Stadiwm Principality.
"Fe gawson ni sedd - ond dim ond just - roedd pawb arall yn sefyll," meddai.
"Roedd rhai pobl yn dadlau ar y tr锚n. Mae pobl yn mynd yn flin. Dwi ddim yn edrych ymlaen at fynd yn 么l.
"Roeddwn i wedi meddwl gyrru ond yna 'nes i feddwl y byddai'n anodd parcio - ond nawr fi'n credu y dylwn fod wedi gyrru.
"Gobeithio y bydd mwy o gerbydau wedi i'r lein gael ei thrydaneiddio."
Dywedodd Shelli Docherty, 44, bod y tr锚n o Bont-y-clun i Gaerdydd yn "orlawn" ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd bod hi, ei mab Marcus a'i g诺r Doc wedi gadael ddwyawr cyn dechrau'r g锚m ond eu bod o bosib wedi'i gadael hi'n rhy hwyr.
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023
Mae Sarah Hemsley-Cole yn rhedeg cwmni cynhyrchu digwyddiadau yng Nghaerdydd - cwmni sy'n helpu i drefnu cyngherddau mawr.
"Mae gennym ni seilwaith trafnidiaeth hynod fregus," meddai.
"Mae yna bwysau mawr ar gynaliadwyedd a dydw i ddim yn meddwl bod gennym ni鈥檙 atebion yma yng Nghymru mewn gwirionedd i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gadarn i gefnogi鈥檙 digwyddiadau sydd gennym."
'Dim gwerth am arian'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi penderfynu nad oedd y llinell yn werth am arian yn dilyn 鈥渁dolygiad trylwyr o鈥檙 achos busnes鈥 ar 么l y pandemig.
鈥淢ae Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno trenau newydd sbon i helpu i wella gwydnwch ac ateb y galw cynyddol ar draws y rhwydwaith ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr,鈥 meddai llefarydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru, sy鈥檔 adeiladu Metro De Cymru, yn dibynnu ar gymhorthdal cynyddol gan drethdalwyr.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd gweinidogion daliad ychwanegol o 拢125m ar gyfer y rhwydwaith.
Eleni daeth i'r amlwg fod cost y Metro wedi cynyddu 拢260m, i 拢1bn.
Dywedodd yr arbenigwr rheilffyrdd Andrew Potter, o Brifysgol Caerdydd, fod costau adeiladu ac ynni uwch wedi taro'r diwydiant.
"Mae cronfa sefydlog o arian ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y rheilffyrdd ac yn y pen draw, gyda chost y Metro yn mynd i fyny, mae鈥檔 rhaid ailwerthuso prosiectau eraill am werth am arian," meddai.
Colli 拢10m yn 'hollol anghyfrifol' a 'siomedig'
Mewn datganiad i 成人快手 Cymru, dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Yn dilyn gwaith datblygu manwl, gan gynnwys gwaith dichonoldeb, dylunio a galluogi, daeth yn amlwg y byddai鈥檙 costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 prosiect yn sylweddol uwch na鈥檙 amcangyfrifon cychwynnol.
"Gwnaed y penderfyniad i atal rhai rhannau o鈥檙 prosiect er mwyn osgoi mynd i gostau pellach, gan arwain at amhariad ar yr ased sy鈥檔 cael ei adeiladu yn ein datganiadau ariannol ar gyfer 2022/23."
Mae'r cwmni yn dweud y bydd "buddion eraill" o waith ehangach y prosiect rheilffordd.
Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Natasha Asghar, fod dileu mwy na 拢10m yn 鈥渉ollol anghyfrifol鈥.
鈥淩wy鈥檔 poeni y bydd y trenau "shambolic" yma yn embaras i Gymru ar lwyfan y byd pan fyddwn yn cynnal yr Euros yn 2028,鈥 meddai.
Dywedodd Delyth Jewell, llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, taw trafnidiaeth gyhoeddus ddylai fod y dewis cyntaf i bobl, ond bod hynny鈥檔 bell o fod yn wir.
鈥淢ae鈥檔 siomedig felly i weld y cynllun hwn i gynyddu capasiti wedi ei roi o鈥檙 neilltu gyda chymaint o arian wedi ei golli,鈥 dywedodd.