成人快手

Dyn wedi marw o alergedd difrifol i fwyd heb ei adnabod

Bu farw Robin Wynne Williams yn Chwefror 2023 yn dilyn alergedd difrifolFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Robin Wynne Williams yn Chwefror 2023 yn dilyn alergedd difrifol

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dyn 45 oed ei ddarganfod yn farw yn dilyn alergedd difrifol i fwyd sydd heb ei adnabod, clywodd cwest.

Dywedodd patholegydd bod Robin Wynne Williams wedi dioddef sioc anaffylactig, ond nad oedd yn gallu cadarnhau pa fwyd achosodd yr ymateb.

Roedd Mr Williams, o Langollen yn Sir Ddinbych, wedi bod ar noson allan gyda chyd-weithwyr cyn ei farwolaeth ar 2 Chwefror.

Cofnododd yr uwch grwner gasgliad naratif yn yr achos, gan ddweud bod amodau'r farwolaeth yn "anarferol iawn".

Noson allan yn dathlu

Y noson cyn iddo gael ei ddarganfod, roedd Mr Williams wedi bod yn dathlu cwblhau gwaith atgyweirio ar Bont y Borth gyda diodydd, phitsa a sglodion mewn tafarn.

Ar 么l dychwelyd i'r cartref modur ble'r oedd yn aros, siaradodd Mr Williams ar y ff么n gyda'i bartner, Karen Maurice, gan ddweud bod brech wedi ymddangos ar ei goes a bod ei wefus yn cosi.

Roedd rhywbeth tebyg wedi digwydd yn y gorffennol ar 么l bwyta amryw o fwydydd.

Awgrymodd Ms Maurice iddo yfed d诺r a mynd i gysgu.

Ar 么l methu 芒 chael gafael arno'r diwrnod wedyn, fe deithiodd Ms Maurice i'r cartref modur ble wnaeth hi ddarganfod corff Mr Williams.

Clywodd y cwest ddatganiad gan feddyg Mr Williams, yn nodi ei fod wedi'i gynghori i "osgoi pupurau jalapeno yn rhesymol" ar 么l i brawf alergedd yn 2018 ddangos ymateb.

Ond dywedodd Ms Maurice wrth y gwrandawiad ei fod wedi cael rhybudd cyffredinol yn unig yn erbyn bwyta chilli.

Yn 么l Ms Maurice, roedd y cyngor yna'n "rwtsh" gan fod Mr Williams yn bwyta chilli bron bob dydd heb unrhyw ymateb.

Dywedodd: "Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi cael cyngor i beidio bwyta jalapenos yn benodol.

"Doedd o ddim yn gwybod bod hynny'n broblem iddo fo."

Mesurau rheoli alergedd

Dywedodd Dr Huyam Abdalsalam, y patholegydd oedd yn gyfrifol am y post-mortem, bod Mr Williams wedi marw o sioc anaffylactig oherwydd alergedd bwyd.

"Dydyn ni ddim yn gwybod pa fwyd oedd yr achos," ychwanegodd.

Yn cyrraedd ei chasgliad, dywedodd uwch grwner gogledd orllewin Cymru, Kate Roberts: "Yn fwy tebygol na ddim, roedd sioc anaffylactig wedi bod i rywbeth oedd wedi ei fwyta, ond nid oedd hynny'n gallu cael ei adnabod."

Dywedodd y crwner y byddai hefyd yn ysgrifennu at feddyg teulu Mr Williams ac i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ofyn am fesurau rheoli alergedd yng ngogledd Cymru.