Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Agos at golli Eisteddfod Llangollen yn gyfan gwbl'
- Awdur, Lorna Prichard
- Swydd, Gohebydd Diwylliant 成人快手 Cymru
Mae partneru gyda chwmni digwyddiadau byw allanol wedi helpu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i droi'r gornel wedi trafferthion ariannol, medd y trefnwyr.
Cyngerdd gan un o gantorion amlycaf Cymru, Syr Tom Jones, sy'n cloi diwrnod agoriadol yr Eisteddfod eleni - y tro cyntaf erioed iddo gymryd rhan yn yr 诺yl.
Wythnosau'n unig ar 么l Eisteddfod y llynedd, fe gyhoeddodd y bwrdd rheoli bod y sefyllfa ariannol a'i dyfodol yn "heriol" a'u bod wedi diswyddo prif swyddog yr 诺yl.
Yn 么l cyfarwyddwr artistig presennol yr 诺yl Dave Danford, mae'r sefyllfa wedi sefydlogi erbyn hyn.
Ac yn 么l un o wirfoddolwyr niferus yr Eisteddfod, dyw pobl heb sylweddoli "pa mor agos oedden ni i golli yr eisteddfod yn gyfan gwbl".
Dydd Mawrth yw diwrnod cyntaf chwe diwrnod o gystadlaethau, gweithgareddau a chyngherddau.
Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ers 1947 ond roedd ei dyfodol yn edrych yn bryderus y llynedd.
Er iddi fod yn bosib i gynnal Eisteddfod lawn am y tro cyntaf ers cyn Covid, fe wnaeth golled o chwarter miliwn o bunnoedd.
Yn 么l Dave Danford, a gafodd ei benodi i'w swydd ym mis Rhagfyr, doedd niferoedd ymwelwyr heb ddychwelyd i'w lefel flaenorol ac roedd costau cynnal gwyliau "wedi codi'n sylweddol".
'Wedi ailsefydlu ein hunain'
"Doedd parhau gyda'r hen fodel ddim yn ymarferol," meddai, gan esbonio pam y penderfynodd y bwrdd rheoli i gydweithio gyda chwmni Cuffe & Taylor i drefnu cyngherddau y tu hwnt i rai wythnos yr Eisteddfod ei hun.
Mae Bryan Adams, Simple Minds, Manic Street Preachers, Suede a Kaiser Chiefs eisoes wedi denu torfeydd i'r pafiliwn yn yr wythnosau diwethaf.
Fe fydd Gregory Porter a Katherine Jenkins yn perfformio cyn diwedd wythnos yr Eisteddfod ac fe fydd Nile Rodgers, Jess Glynne a Madness yno yr wythnos ganlynol.
Dywed Mr Danford fod denu cyfres o enwau cyfarwydd "wedi cyflwyno'r 诺yl i gynulleidfa newydd, yn ogystal 芒 denu pobl yn 么l o'r ardal leol".
"Rwy'n teimlo ein bod wedi ailsefydlu ein hunain fel un o brif wyliau cerddorol y DU," meddai.
"Wedi trafferthion ariannol ddigon cyhoeddus ar 么l Covid, dyma'r flwyddyn 'dan ni o'r diwedd yn mynd i fod yn sefydlog unwaith yn rhagor, a 'dan ni'n teimlo'n optimistaidd am y dyfodol."
Mae'r trefnwyr yn dweud eu bod ar fin croesawu mwy o ymwelwyr rhyngwladol i'r dref nag ers cyn y pandemig.
Maen nhw hefyd wedi denu mwy o wirfoddolwyr, gyda dros 600 yn gweithio yr wythnos hon.
Un ohonyn nhw yw Elen Roberts, sy'n mynd i鈥檙 eisteddfod ers yn ferch ac wedi gwirfoddoli am dros 25 o flynyddoedd.
Mae hi'n dweud bod yr "awyrgylch wedi newid yn gyfan gwbl" eleni.
"Dwi'm yn meddwl oedd pobl yn ymwybodol pa mor agos oedden ni i golli yr eisteddfod yn gyfan gwbl, ond roedden ni wir yn," dywedodd.
"Roedd petha' wedi mynd yn reit drist - neb yn gwybod be' oedd yn digwydd."
Erbyn hyn, medd Ms Roberts: "Mae 'na fwrlwm go iawn yn y dre' - mae mor neis gweld petha' mor bositif."
Bydd plant lleol yn perfformio neges heddwch flynyddol yr Eisteddfod, a gafodd ei llunio eleni gan Elen Roberts ei hun, ddwy waith ar lwyfan y pafiliwn ddydd Mawrth cyn i'r paratoadau ddechrau ar gyfer cyngerdd Syr Tom Jones gyda'r nos.