Eisteddfod 2024: Cyhoeddi rhestr fer Brwydr y Bandiau
- Cyhoeddwyd
Mae rhestr fer yr artistiaid fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi ei chyhoeddi.
Y pedwar sydd wedi cyrraedd y brig yw Ifan Rhys, Dim Gwastraff, Tesni Hughes, a Seren.
Maes B a ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru ar y cyd sy'n cynnal y gystadleuaeth yn flynyddol.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes am 15:30 ddydd Mercher, 7 Awst.
Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, sesiwn recordio gyda ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru a chyfle i berfformio ym Maes B ar nos Sadwrn olaf y Brifwyl.
Mae'r pedwar artist eisoes wedi recordio can ar gyfer Radio Cymru, ac mae'r perfformiadau hynny i'w gweld yma.
Ifan Rhys
Mae Ifan Rhys yn hen law ar berfformio ag yntau wedi bod yn aelod o fand Elis Derby ac Orinj.
Ond dyma fydd y tro cyntaf i'r cerddor o Fynydd Landegai fentro ar y llwyfan ar ei ben ei hun.
Dywedodd fod bandiau fel The Super Furry Animals a Mac DeMarco wedi dylanwadu ar ei gerddoriaeth, tra bod aelodau o'r teulu hefyd wedi bod yn rhan o fandiau fel Y Niwl, a Topper.
Fe wnaeth y cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford ryddhau ei sengl gyntaf, 'Hadau', ym mis Gorffennaf, ac mae modd gwrando arni yma.
Tesni Hughes
Bydd Tesni Hughes yn cystadlu gyda band llawn eleni, a hynny wedi iddi gystadlu ar ei phen ei hun nôl yn 2021.
Yn ôl Tesni, mae hi'n teimlo bod y gerddoriaeth a hi ei hun "yn sicr wedi aeddfedu" ers y tro diwethaf iddi gystadlu - pan oedd hi'n 16 oed.
Mae'r band newydd yn cynnwys aelodau o fandiau fel Maes Parcio, rhywbeth sydd wedi rhoi "hyder newydd" iddi, meddai.
Gallwch wrando ar eu sengl 'Trefn' yma.
Dim Gwastraff
Dim ond ym mis Ionawr gafodd Dim Gwastraff ei ffurfio - a hynny pan ddaeth Liv Williams (llais), Toby King (gitâr), Sam Veale (bâs) ac Evan Davies (drymiau) at ei gilydd.
Maen nhw eisoes wedi chwarae llond llaw o gigs lleol yn y cymoedd, ac wedi perfformio yn FfiliFfest, Green Rooms a The Moon.
Mae aelodau'r band yn hoff iawn o gerddoriaeth Paramore, ac mae Dim Gwastraff yn diffinio eu hunain fel band 'pop pync'.
Mae modd gwrando ar eu sengl, 'Breuddwydion Machlud'Â ymaÌý.
Seren
Bydd y band 'Seren' yn perfformio am y tro cyntaf erioed yn yr Eisteddfod eleni.
Daw'r prif leisydd, Elan Fflur Hughes o Landrillo yn wreiddiol, ond mae hi'n "mwynhau rhannu ei hamser rhwng tawelwch y wlad a phrysurdeb y ddinas".
Wedi ffurfio ym Mhrifysgol Lerpwl, daeth y band 'indie pop' at ei gilydd "trwy gyfres o gyd-ddigwyddiadau hapus," yn ôl Elan.
Ryddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Ffydd’, ym mis Gorffennaf, gyda'r band yn dweud fod Bwncath a Fleetwood Mac ymhlith yr artistiaid sydd wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf