Cyfansoddi yn iachusol wedi salwch difrifol

O Gasnewydd y daw鈥檙 gantores-gyfansoddwraig Jenna Kearns, ac ers ei phlentyndod mae hi wedi dioddef gyda chrydcymalau gwynegol (rheumatoid arthritis).

Erbyn hyn mae鈥檔 gorfod defnyddio cadair olwyn er mwyn mynd o le i le, ond er ei bod mewn poen cyson, mae鈥檔 dweud bod cerddoriaeth yn ei chadw i fynd ac mai yn y geiriau mae hi鈥檔 eu hysgrifennu y mae鈥檔 teimlo鈥檔 fwyaf diogel.

Ffynhonnell y llun, Jenna Kearns

Derbyniodd Jenna nawdd gan Gronfa Lansio cynllun Gorwelion 成人快手 Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ym mis Chwefror 2023 i鈥檞 helpu gyda recordio a rhyddhau ei cherddoriaeth. Mae wedi rhyddhau鈥檙 sengl gyntaf Better ac yn bwriadu rhyddhau EP yn 2024.

Yn lled-ddiweddar fe fuodd Jenna鈥檔 s芒l iawn. Treuliodd bythefnos mewn uned gofal dwys ac am gyfnod roedd hi鈥檔 bosib iawn na fyddai鈥檔 goroesi. Mewn ffilm fer gan Gorwelion fe rannodd Jenna ei stori.

鈥淟lynedd fe ddechreuais gyfansoddi cerddoriaeth yn ymwneud 芒 fy iechyd meddwl. Dyma鈥檙 mwyaf amrwd dw i wedi鈥檌 fod erioed.

鈥淏u rhaid i mi fynd i鈥檙 ysbyty llynedd. Dywedodd y doctoriaid wrth fy mam bod y posibilrwydd o ddod drwyddi yn llai na 30%. Roedd gen i sepsis. Cefais sgan a fe ddywedon nhw fod gen i dwll yn fy mhibell fwyd felly roedd unrhyw fwyd neu diod oeddwn i鈥檔 ei fwyta yn mynd yn syth i fy ysgyfaint."

Dim ond 30% o siawns o oroesi

鈥淒ywedon nhw wrtha鈥 i bod rhaid i mi fynd i鈥檙 uned gofal dwys er mwyn cael ocsigen a dyna pryd nes i feddwl, 'dyna ni dw i鈥檔 mynd i鈥檙 uned gofal dwys a dw i ddim yn dod yn fy 么l'.

"Dw i鈥檔 cofio diolch i鈥檙 nyrsus am edrych ar fy 么l a dechreuais gynllunio fy angladd yn fy mhen. Dechreuais feddwl am fy holl eiddo a phwy oedd am gael beth. Roedd e鈥檔 frawychus, yn gyfnod brawychus iawn."

鈥淔e gafodd fy iechyd meddwl ergyd yn y cyfnod cyn mynd i鈥檙 ysbyty achos doedd neb yn fy nghredu i, a nes i ddechrau meddwl ei fod e鈥檌 gyd yn fy mhen i ac efallai mai fi oedd yn bod yn ddramatig.

"Ond roedd y symptomau ro鈥檔 i鈥檔 eu profi yn real iawn. Dywedodd doctor wrtha鈥 i mai teimlo鈥檔 isel oeddwn i. Ro鈥檔 i鈥檔 pesychu gwaed a roeddwn i鈥檔 teimlo fel nad oedd unrhyw un yn malio dim.

Ergyd i fy iechyd meddwl

鈥淔e es i at feddyg teulu arall a ro鈥檔 i鈥檔 hysterical. Dywedais wrtho fy mod i wedi blino ac wedi cael digon ar frwydro 鈥 yn erbyn pobl ac am fy iechyd. Dyna pryd 'nes i gyrraedd y gwaelod isaf. Ro鈥檔 i yn fy ngwely bob dydd yn cysgu. Doedd dim chwant bwyd arna i. Doeddwn i ddim eisiau yfed. Do鈥檔 i ddim eisiau gwneud unrhyw beth.

鈥淒yna pryd wnaeth fy nheulu ac ychydig o ffrindiau agos ddweud wrtha鈥 i bod yn rhaid i mi fynd i siarad 芒 meddyg. Doeddwn i methu ag ymdopi yn gorfforol nac yn emosiynol ddim mwy, a dyna pryd gefais i feddyginiaeth gwrth-iselder."

Disgrifiad o'r llun, Byw bywyd i'r eithaf

鈥淢ae hi wedi bod yn daith hir ac araf ond dw i鈥檔 bendant wedi dod mas ar yr ochr arall. Ers yr holl brofiad dw i wedi ymroi fy hun i bopeth dw i eisiau ei wneud 芒 fy mywyd, pethau fel cerddoriaeth. Mae gen i swydd, rwy鈥檔 mynd i weld ffrindiau ac yn mynd i gigs.

"Dw i鈥檔 gwneud y mwyaf o bethau. Mi allai鈥檙 anhwylder ddod yn 么l a dydw i ddim eisiau dweud, ymhen ychydig flynyddoedd, na wnes i unrhyw beth. Dw i ddim am fyw fy mywyd yn gwybod nad ydw i wedi gwneud unrhyw beth.

鈥淒w i鈥檔 cadw dyddiadur nawr ac ynddo mae 鈥榥a restr o 101 o bethau hoffwn ei wneud eleni, a dw i鈥檔 falch o ddweud fy mod i wedi croesi hanner da ohonyn nhw! Dw i鈥檔 gwneud i鈥檙 pethau yna ddigwydd. Dyna lle dw i arni ar hyn o bryd."

鈥淔y nghyngor i i unrhyw un sy鈥檔 mynd drwy rhywbeth tebyg ar hyn o bryd yw i gredu ynoch chi eich hun, yn enwedig os nad yw pobl yn gwrando arnoch chi.

"Ni sydd yn adnabod ein cyrff. Dydyn nhw ddim yn gallu teimlo ein poen ni. Nid ganddyn nhw mae鈥檙 symptomau. Chi sy鈥檔 gwybod os oes rhywbeth o鈥檌 le.

鈥淢ae鈥檙 caneuon sydd ar yr EP yn gasgliad o emosiynau rydw i wedi鈥檜 teimlo, yr emosiynau rydw dal y neu teimlo am y broses o wella wedi trawma mawr.

"Mae鈥檙 sengl Better am berthnasau wnaeth fy nhorri i. Dim ots beth oeddwn i鈥檔 trio ei wneud, do鈥檔 i ddim yn teimlo fy ngwerth. Ro鈥檔 i鈥檔 teimlo fel na fyddwn i byth yn byw i wneud fy hun yn hapus 鈥 dim ond plesio pobl eraill. I mi, mae鈥檙 g芒n yn cynrychioli emosiwn sy鈥檔 fy herio i bob dydd."

Ffynhonnell y llun, Jenna Kearns

Disgrifiad o'r llun, Sengl ddiweddaraf Jenna yw Cards I've Been Dealt

鈥淒w i鈥檔 cofio ysgrifennu Better. Fe wnes i lefain drwy gydol y broses oherwydd fy mod i mewn lle tywyll ac unig iawn. Doedd hynny erioed wedi digwydd i mi wrth ysgrifennu o鈥檙 blaen felly dw i鈥檔 gwybod ei bod hi鈥檔 g芒n sy鈥檔 driw i mi fy hun. Fy ngobaith i yw ei bod hi鈥檔 helpu rhywun sy鈥檔 teimlo鈥檙 un fath.鈥

Gallwch wylio鈥檙 ffilm fer gyda Jenna Kearns yn fan hyn.

Mae Cronfa Lansio Gorwelion ar gyfer 2024 yn agored am geisiadau nawr ac yn cau dydd Llun, 23 Hydref 2023.

Hefyd o ddiddordeb