C诺n defaid Cymru'n cystadlu am le yn y t卯m cenedlaethol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae treialon c诺n defaid wedi bod yn cael eu cynnal yng Nghymru ers 1873
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru

Bydd c诺n defaid gorau Cymru yn dangos eu sgiliau dros y tridiau nesaf ar fferm yng Ngheredigion.

Mae treialon C诺n Defaid Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar fferm Dolyrychain ger Pontrhydfendigaid.

Bydd y gystadleuaeth yn penderfynu pa g诺n a pha fugeiliaid fydd yn cynrychioli Cymru yn y treialon rhyngwladol yn Yr Alban ym mis Medi.

Mae鈥檙 digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Gymdeithas C诺n Defaid Ryngwladol (ISDS), a ffurfiwyd ym 1906 i gofrestru c诺n defaid mewn llyfryn blynyddol.

Mae dros 6,000 o g诺n bach yn cael eu cofrestru bob blwyddyn.

Mae c诺n o bob gwlad yn cael eu cynnwys yn y llyfr, sy'n caniat谩u i fridwyr nodi rhieni a manylion llinach c诺n cofrestredig, gan eu helpu i wneud penderfyniadau bridio.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd John Davies mai 15 o g诺n fydd yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru

Cadeirydd treialon Cymru yw John Davies.

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher dywedodd: "Mae c诺n gore Cymru'n dod yma am dridiau - 50 bob dydd - ac mae'r 15 gore dros y tridie'n cynrychioli Cymru yn Yr Alban ym mis Medi.

"Ci o Gymru sy'n dal record y byd am werthu ci defaid - 拢28,000 - ac mae llwyddo mewn treialon yn neud gwahaniaeth i werthu ci.

"Mae pobl ar draws y byd yn chwilio am linach dda sy'n mynd i roi ci da iddyn nhw."

Disgrifiad o'r llun, Mae treialon C诺n Defaid Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar fferm Dolyrychain ger Pontrhydfendigaid

Dros 150 o flynyddoedd yn 么l, cyn i鈥檙 ISDS gael ei ffurfio, cynhaliwyd treialon c诺n defaid cyntaf a gofnodwyd ym Mhrydain yng Nghymru.

Ym mis Hydref 1873, trefnwyd treialon yn Y Bala gan R J Price o Ystad Rhiwlas.

Roedd tua 300 o bobl yn gwylio鈥檙 treialon, ac er bod y rhan fwyaf o鈥檙 cystadleuwyr yn dod o Gymru, James Thompson a鈥檌 gi, Tweed, o鈥檙 Alban, enillodd y wobr gyntaf.

Mae Cymdeithas C诺n Defaid Y Bala yn credu bod hyn wedi arwain at y gystadleuaeth ryngwladol gyntaf, ar 么l i Mr Thompson frolio bod c诺n Yr Alban yn well.

Yn ymateb, dywedodd bugeiliaid Cymru eu bod yn barod i gwrdd ag unrhyw un arall i weld pwy oedd 芒'r c诺n gorau.

Ym 1876 cynhaliwyd digwyddiad rhyngwladol yn Llundain, ac yn 么l Cymdeithas C诺n Defaid Y Bala, "adferwyd balchder y bugeiliaid lleol" oherwydd "yn y dosbarth cyntaf, enillwyd y wobr gan John Thomas, Cwm yr Aethnen, Hirnant, gyda Modi, gast pedair oed".

Disgwyl cefnogwyr o dramor

Mae treialon c诺n defaid modern yn dilyn rheolau鈥檙 ISDS, sy鈥檔 anelu at fesur gallu鈥檙 c诺n i weithio gyda鈥檜 bugeiliaid.

Mae llwyddo yn gofyn am arddangosiad ymarferol o'r sgiliau y mae'r ci yn eu defnyddio wrth ei waith bob dydd.

Mae鈥檙 ISDS yn disgwyl gweld cefnogwyr o dramor yn nhreialon Cenedlaethol Cymru yr wythnos hon, gyda llawer o fugeiliaid Cymru鈥檔 cael eu dilyn gan gynulleidfaoedd brwd.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyn-bencampwr byd Aled Owen eisoes wedi cystadlu yn y treialon

Un sydd eisoes wedi cystadlu eleni yw'r cyn-bencampwr byd Aled Owen o Gorwen.

"O'n i'n rhedeg yn gyntaf bore 'ma ac mi 'naeth Jim [ei gi] yn reit dda d'eud y gwir," meddai.

"Mae'n gwrs digon anodd... mae o'n wastad ond mae ambell le 'di'r ci ddim cweit yn clywed achos ma' isho gyrru'r defaid 175 o lathenni i'r dde.

"Ond mi ges i'r gatiau i gyd so mi aeth yn o lew."

Bydd rhaid i Aled ddisgwyl tan ddiwedd y tridiau cyn gwybod a fydd yn llwyddo i gyrraedd t卯m Cymru.