成人快手

Lluniau: Marathon Eryri 2024

  • Cyhoeddwyd

Ar ddydd Sadwrn, 26 Hydref, daeth pentref Llanberis a'r ardal i stop gan fod Marathon Eryri'n cael ei chynnal am 40fed tro.

Cynhaliwyd y marathon am y tro cyntaf yn 1982, ond doedd dim ras am ddwy flynedd oherwydd pandemig Covid-19.

Mae'r ras yn dechrau yn Llanberis gan ddilyn yr A4086 sy'n dringo i ben Pas Llanberis. Yna mae'r rhedwyr yn mynd lawr i gyffordd Penygwryd cyn ymuno 芒鈥檙 A498.

Aeth y rhedwyr drwy Feddgelert, Rhyd Ddu a Betws Garmon ac yna i Waunfawr a dringo鈥檔 serth i Fwlch y Groes, cyn mynd n么l lawr a gorffen yn Llanberis.

Roedd 2,800 o redwyr eleni, gan gynnwys dros 1,000 o ferched, y nifer fwyaf erioed.

Dyma rai o'r golygfeydd oedd i'w gweld ar hyd y daith ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Andrew Davies o'r Drenewydd yn arwain y ras

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y ddau yma, Andy Moxon a鈥檌 bartner Christine Pollard, yn codi arian ar gyfer elusen dementia. Mae Andy'n byw gyda'r cyflwr ac yn cael trafferth rhedeg, ond fe gwblhaodd y ras

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwenu wrth redeg fyny'r llwybrau serth

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y ddau yma, Adam Latcham ac Aled Jenkins, seiclo o Ben-y-bont ar Ogwr, rhedeg y ras ac wedyn seiclo yn 么l y diwrnod wedyn. Tipyn o gamp!

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gorffennodd Tom Roberts o Ddolgellau yn y 10fed safle gydag amser o 2:49:34

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna gefnogwyr bob ochr i'r ffordd mewn rhai mannau

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hugo Thomas o Ben Ll欧n a orffennodd y ras mewn amser o 4:27:58

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r gwirfoddolwyr a oedd yn helpu i drefnu a stiwardio'r diwrnod

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillydd ras y merched oedd Louise Flynn o glwb rhedeg Les Croupiers yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enilydd ras y dynion, Andrew Davies, yn croesi'r llinell derfyn

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gorffennodd Louise Flynn mewn amser o 2:59:27, un o'r ychydig o ferched sydd wedi cwblhau'r ras yma mewn llai na thair awr

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gorffennodd Andrew Davies gydag amser o 2:28:41, sy'n record newydd i鈥檙 cwrs presennol