Agor cwest i 'farwolaethau trasig' cwpl ifanc

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Adam Muskett a Katie Worrell mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar 13 Mehefin
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i "farwolaethau trasig" cwpl ifanc o Sir Benfro mewn gwrthdrawiad.

Bu farw Adam Muskett, 27, a Katie Anne Worrell, 25, yn y digwyddiad ar yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch yn Sir Gaerfyrddin ar 13 Mehefin.

Dywedodd swyddog y crwner Hayley Rogers yn Llanelli bod car Jaguar du oedd yn teithio lawr y rhiw i gyfeiriad y gorllewin wedi bod mewn gwrthdrawiad 芒 char Ford Fiesta du oedd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain tuag at Sancl锚r.

Fe adawodd y Fiesta y ffordd yn sgil y gwrthdrawiad.

Cafodd parafeddygon eu galw ond fe benderfynwyd bod y gyrrwr Adam Muskett wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd y teithiwr Katie Worrell ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond fe gafodd ei chyhoeddi'n farw ychydig oriau'n ddiweddarach.

Mewn datganiad gan ei theulu, cafodd Katie Worrell ei disgrifio fel "merch, chwaer, wyres, nith a chyfnither oedd yn cael ei charu'n fawr".

"Mi wnaeth hi fyw bywyd i'r eithaf, yn mwynhau teithio ac wedi cyflawni cymaint mewn amser mor fyr."

Dywed teulu Adam ei fod yn "caru ei fywyd, ei ffrindiau, Dinbych-y-pysgod, p锚l-droed, ac roedd mewn cariad gyda Katie."

"Rydym wedi torri'n calonnau a byddwn yn falch ohono am byth".

Dywedodd Ms Rogers bod yr heddlu wedi lansio "ymchwiliad llawn i farwolaethau trasig cwpl ifanc".

Cafodd y cwest ei ohirio gan y Crwner Paul Bennett.