Achos Neil Foden: Y rheithgor yn dechrau trafod
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos pennaeth ysgol yng Ngwynedd sydd wedi'i gyhuddo o gam-drin pum merch yn rhywiol.
Roedd Neil Foden, sy'n 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud 芒 phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
Dechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad am tua 14:30 brynhawn ddydd Mawrth.
Ar ddiwedd yr achos - tair wythnos a hanner o hyd - yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd y barnwr Rhys Rowlands wrth y saith dynes a'r pum dyn ar y rheithgor, mai "eu dyletswydd nhw oedd penderfynu a oedd y cyhuddiadau yn erbyn Neil Foden wedi cael eu profi ai peidio".
"Mae'n rhaid i chi benderfynu pwy sy'n dweud celwydd, a phwy sy'n dweud y gwir," meddai.
Yn ystod yr areithiau cloi ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr John Philpotts ar ran yr erlyniad fod Mr Foden "wedi cymryd mantais", a'i fod yn gweld ei hun fel unigolyn "na ellir ei gyffwrdd".
Dywedodd y bargyfreithiwr Duncan Bould ar ran yr amddiffyn, nad oedd yn gwneud synnwyr y byddai athro sydd wedi gweithio yn y maes ers 40 mlynedd yn newid ei ymddygiad yn sydyn ac yn dechrau cam-drin pobl yn rhywiol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd8 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai