Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Claf canser, 14, i weld Taylor Swift wedi siom fawr
Mae selogion Taylor Swift wedi dod i'r adwy ar 么l clywed am siom claf canser ifanc o Sir Conwy oedd methu aros i weld y gantores yn perfformio, cyn i'w thocynnau elusennol gael eu tynnu'n 么l.
Mae Mali, sy'n 14 oed ac o Hen Golwyn, yn cael triniaeth ar gyfer tiwmor yr ymennydd ers cael diagnosis medwlablastoma fis Tachwedd y llynedd, gan gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi a therapi proton.
Roedd wrth ei bodd gan gafodd ei henwebu gan staff Ysbyty Christie, Manceinion i dderbyn tocynnau gan elusen ar gyfer y cyngerdd nos Wener yn Lerpwl,
Ond yna, gyda llai nag wythnos i fynd, fe gafodd y tocynnau elusennol eu tynnu'n 么l gan drefnwyr y digwyddiad, er mawr siom i Mali a'i theulu.
Ond yn dilyn ap锚l ar y cyfryngau cymdeithasol mae dau berson wedi cynnig eu tocynnau nhw fel bod Mali'n cael mynd wedi'r cyfan.
Dywedodd tad Mali, Andrew Edge, ei bod "wedi cyffroi'n lan" pan gytunodd ei meddyg ymgynghorol i oedi ei thriniaeth cemotherapi nesaf ddigon hir iddi allu bod yn ddigon da i fynd i'r cyngerdd.
Roedd wedi ei "dryllio" a'i "siomi'n llwyr" pan gan gafodd y tocynnau eu tynnu'n 么l.
Apeliodd Mr Edge a modryb Mali ar-lein i weld a oedd unrhyw un mewn sefyllfa i helpu, ac fe gysylltodd dynes o Lerpwl yn cynnig ei thocynnau ei hun i Mali a'i mam, Catrin.
"Roeddan ni'n fodlon talu," dywedodd Mr Edge. "Roeddan ni'n chwilio am docynnau resale a doedd dim byd ar gael.
"O fewn awr, roedd y ddynes ryfeddol 'ma, Ella, wedi rhoi ei thocynnau ei hun."
Wedi hynny, fe gysylltodd dyn arall gan roi tocynnau ar gyfer y lolfa VIP yn Stadiwm Anfield.
"Mae Mali wedi gwirioni," dywedodd Mr Edge. "Alla' i ddim fod yn fwy diolchgar."
Mae "haelioni syfrdanol" y rhoddwyr, meddai, wedi codi calon ei ferch wedi saith mis caled.
"Mae hi wedi cyrraedd yr oedran pan dylai fod yn prifio, yn mynd allan gyda'i ffrindiau - dydy hi ddim yn gallu gwneud hynna."
Gan ddisgrifio Mali fel merch "addfwyn, serchus a phenderfynol dywedodd ei thad mai'r "peth pwysica' ydy bod hi'n mynd yna [i'r cyngerdd] ac yn cael amser gora' ei bywyd."
Bydd Mali yn mynd yn syth i Ysbyty Plant Alder Hey wedi cyngerdd nos Wener ac yn dechrau ar drydedd rownd gemotherapi o wyth y diwrnod canlynol.
Mae Mr Edge yn canmol yr holl staff sydd wedi gofalu am Mali hyd yn hyn, gan ddweud bod yr holl arwyddion o ran ei chyflwr "yn bositif".