Trawsnewid hen bencadlys Cyngor Conwy yn ganolfan fusnes
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Gaerdydd wedi sicrhau prydles hen bencadlys Cyngor Sir Conwy.
Bydd y cwmni newydd, Ideas Forums, yn trawsnewid hen swyddfeydd Bodlondeb yng Nghonwy i fod yn ganolfan fusnes ac arloesi.
Mae'r cwmni yn gobeithio creu "cannoedd o swyddi newydd" a dod 芒 "degau o filiynau o bunnoedd i鈥檙 economi leol dros y pum mlynedd nesaf".
Mae'r brydles ar gyfer yr adeilad hanesyddol yn unig - adeilad a fydd yn cael ei ailwampio fel rhan o'r cynlluniau.
Nid yw鈥檙 coetir, y gofeb rhyfel, y lawnt, y maes criced, y cyrtiau tennis na鈥檙 maes chwarae i blant wedi鈥檜 cynnwys yn y cynnig, a byddant yn parhau i fod ar gael i鈥檙 cyhoedd eu defnyddio, meddai'r cyngor.
Mae'r cyngor yn cael gwared ar swyddfeydd Bodlondeb wedi iddyn nhw benderfynu defnyddio Coed Pella ym Mae Colwyn fel y brif swyddfa.
Ar 么l i aelodau鈥檙 Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau a鈥檙 Cabinet gefnogi dyfarnu鈥檙 brydles i Ideas Forums Ltd, dywedodd arweinydd y cyngor Charlie McCoubrey fod y cwmni'n "cynnig dyfodol cynaliadwy a chyffrous i鈥檙 adeilad, ac yn darparu cyfleoedd datblygu economaidd i dref Conwy a鈥檙 ardal ehangach".
Mae Ideas Forums yn cael ei redeg gan Nick Pritchard, Francesca James, a'r Athro Dylan Jones-Evans.
Dywed y cwmni y byddan nhw'n cefnogi entrepreneuriaid drwy gynnal digwyddiadau fel Gwobrau Mawreddog Entrepreneuriaid Prydain, Mynegai Fast Growth 50 y DU, Gwobrau Busnesau Newydd y DU a鈥檙 糯yl Syniadau.
'Cyfleoedd i bobl ifanc'
Dywedodd Nick Pritchard: 鈥淔el g诺r angerddol o ogledd Cymru sydd eisoes wedi creu llawer o swyddi i weithwyr Cymraeg trwy fy musnesau eraill, hoffwn ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd 芒 syniadau gwych i aros a ffynnu yn yr ardal.
"O ganlyniad, byddwn yn cynnig lle a chymorth am ddim i鈥檙 rheiny sy鈥檔 dymuno bod yn entrepreneuriaid a chreu busnesau newydd cyffrous a fydd yn tyfu ac yn cael effaith ar eu sectorau.
"Trwy drawsnewid Bodlondeb yn ganolfan entrepreneuriaeth o safon fyd-eang, ein nod yw creu cannoedd o swyddi newydd a degau o filiynau o bunnau i鈥檙 economi leol dros y pum mlynedd nesaf."
Dywedodd yr Athro Jones-Evans: 鈥淩wy'n falch iawn o allu dod yn 么l i ogledd Cymru i wneud Bodlondeb yn ffynhonnell o fentergarwch ac arloesedd yng nghanol Conwy ac yn lleoliad ar gyfer syniadau arloesol a mentrau trawsnewidiol.
"Trwy feithrin ecosystem ddeinamig o arloesedd a buddsoddiad mewn lleoliad pensaern茂ol syfrdanol, ein nod yw llywio datblygiad economaidd, creu swyddi gwerth uchel, a gwneud Conwy鈥檔 ganolbwynt byd-eang ar gyfer entrepreneuriaeth 芒 photensial uchel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd16 Medi 2018