成人快手

Plentyn wedi marw o anaf difrifol i'w wddf - cwest

Alexander ZurawskiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Alexander Zurawski yn chwech oed

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth bachgen chwech oed yn Abertawe wedi cael ei agor a'i ohirio.

Bu farw Alexander Zurawski mewn t欧 ar Glos Cwm Du yn ardal Gendros ar 29 Awst.

Mae ei fam, Karolina Zurawska wedi cael ei chyhuddo o'i lofruddio a'i chadw yn y ddalfa.

Nid oedd unrhyw aelodau o'r teulu yn bresennol yn agoriad y cwest yn Abertawe ddydd Mercher.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt o Heddlu De Cymru fod parafeddygon a swyddogion yr heddlu wedi eu galw i eiddo ar Glos Cwm Du ar 29 Awst yn dilyn pryderon gan bobl leol.

Ffynhonnell y llun, Athena picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Karolina Zurawska hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio ei thad ar yr un diwrnod

Daeth yr heddlu o hyd i "blentyn ifanc 芒 niwed difrifol i'w wddf ac wedi colli llawer o waed", meddai.

Dywedodd fod Karolina Zurawska wedi cael ei harestio yn yr eiddo ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd DA Butt fod archwiliad post mortem wedi ei gwblhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle canfuwyd mai achos y farwolaeth oedd "niwed difrifol i'r gwddf".

Dywedodd crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Aled Gruffudd, fod "tystiolaeth amlwg" fod Alexander wedi marw o ganlyniad i achosion annaturiol.

Cafodd y cwest ei ohirio nes i'r broses droseddol ddod i ben.

Wrth roi teyrnged i Alexander, dywedodd ei deulu ei fod yn "blentyn caredig iawn" a oedd wastad yn ymddwyn yn dda a "byth yn ddrwg".

Ychwanegon nhw ei fod yn "hynod o glyfar ac aeddfed am ei oed", gyda "dealltwriaeth wych o ffeithiau" ac roedd yn siarad Saesneg a Phwyleg.

Pynciau cysylltiedig