成人快手

Carcharu dyn am gam-drin dynes yn hiliol yng Nghaernarfon

Michael Owen WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Michael Owen Williams wedi ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu am gam-drin dynes yn hiliol yng Nghaernarfon.

Roedd Michael Owen Williams, o Bwllheli, wedi cyfaddef i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi'i gwaethygu gan hiliaeth.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth fod Williams wedi cam-drin dynes a鈥檌 phlant yn hiliol mewn gorsaf fysiau ar 9 Awst.

Dechreuodd weiddi arni i "fynd yn 么l o ble daethoch" a dweud wrthi "dydych chi ddim yn perthyn yma".

'Ymddygiad ffiaidd'

Clywodd y llys fod Williams wedi torri ei orchymyn atal troseddau rhyw a dderbyniodd yn 2008, a oedd yn ei wahardd rhag mynd at fenywod a鈥檜 haflonyddu.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis a chafodd orchymyn i beidio mynd yn agos at y ddynes am dair blynedd.

Dywedodd yr Arolygydd Ian Roberts o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hwn yn ymddygiad ffiaidd a gafodd ei dargedu at ddynes oherwydd ei hil.

"Ni fydd hyn yn cael ei oddef yng Ngwynedd, a byddwn yn delio'n gadarn ag unrhyw achosion o droseddau casineb."