Morlais M么n yn 'arwain y byd yn y maes ynni m么r'

Ffynhonnell y llun, Menter M么n Morlais

Disgrifiad o'r llun, Bydd y bwi amgylcheddol yn aros yn y m么r oddi ar arfordir Caergybi tan ddiwedd y flwyddyn
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae cynllun ynni llanw Morlais, oddi ar arfordir Ynys M么n, yn "arwain y byd" o ran ynni morol yn 么l y datblygwyr.

Daw'r sylw wrth iddyn nhw lansio bwi monitro amgylcheddol a allai hefyd ddylanwadu ar brosiectau tebyg yn rhyngwladol.

Mae grwpiau amgylcheddol wedi codi pryderon yn y gorffennol am effaith posib y datblygiad ar fywyd gwyllt morol yn yr ardal.

Fel rhan o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, bydd y bwi yn casglu data ymchwil amgylcheddol ac yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt y m么r wrth i dyrbinau ynni llanw gael eu defnyddio ym mharth Morlais ger Caergybi.

Bydd unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu yn helpu i benderfynu ar ddatblygiad y prosiect yn y dyfodol, a bydd yn cael ei rannu 芒 phrosiectau ynni llanw eraill ledled y byd.

Ffynhonnell y llun, Clare Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Bydd y bwi yn casglu data, gyda'r nod o ddiogelu bywyd gwyllt y m么r

Mae'r dechnoleg casglu data ar y bwi yn cynnwys camer芒u isgoch arwyneb a coch-gwyrdd-glas (RGB), yn ogystal 芒 chamer芒u RGB tanddwr a mesuriadau cyflymder gwynt.

Prif ffocws y gwaith ydy treialu dulliau casglu data gweledol yn ogystal 芒 dadansoddi'r data sy'n cael ei gasglu o gwmpas y tyrbinau fydd yn y d诺r.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu鈥檙 t卯m i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt morol yn yr ardal, gan gynnwys dolffiniaid, llamhidyddion a physgod.

'Cymryd hyn gam wrth gam'

Esboniodd Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter M么n: "Mae'n fwi 20 metr o hyd ac mae 'na sawl sensor arno fo.

"Mae ganddon ni gamer芒u sy'n tynnu lluniau uwchben y d诺r ac o dan y d诺r ac mae ganddoch chi sensors acwstig ac yn y blaen.

"Mae'n casglu data ar famaliaid m么r - ar bysgod a dolffiniaid ac yn y blaen - ac mae hwnnw wedyn yn cael ei ddehongli.

"Mae hynny wedyn yn rhoi syniad i ni o sut mae'r bywyd gwyllt yn byw yn y parth yma.

"Mae hynny wedyn yn ein caniat谩u ni i gymharu sut maen nhw'n byw ar hyn o bryd ac o bosib be' fyddai impact dyfeisiadau yn y m么r ar eu bywyd nhw."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dafydd Gruffydd y bydd y data yn ddefnyddiol i "ardaloedd eraill o gwmpas y byd"

Ychwanegodd bod y dechnoleg yn sicrhau bod cynllun Morlais yn "arwain y byd yn y maes ynni m么r" ac y bydd y data yn ddefnyddiol i "ardaloedd eraill o gwmpas y byd sy'n datblygu cynlluniau tebyg i hyn".

"'Da ni wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd fan hyn," meddai.

"Felly mae hwn yn arwain y ffordd o ran monitro y sefyllfa ar hyn o bryd, ac wedyn monitro effaith dyfeisiadau sy'n mynd i'r m么r."

"'Da ni'n cymryd hyn gam wrth gam, 'da ni'n gosod ychydig o ddyfeisiadau yn y m么r a gweld be' ydy'r impact.

"Os ydy'r impact yn negyddol, fydd y gwaith yn stopio'n fanna, ond pan 'da ni'n hyderus bod 'na ddim impact negyddol fyddwn ni'n ymestyn y cynllun."

'Helpu hyrwyddo鈥檙 sector'

Yn 么l Clare Llywelyn, rheolwr y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, maen nhw'n "eitha' hyderus na fydd unrhyw niwed i fywyd morol yr ardal".

Ychwanegodd: "Mae'n gyffrous iawn.

"Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr sy'n arwain y byd - mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd o fewn y diwydiant ynni llif llanw.

"Bydd canfyddiadau y prosiect ymchwil ar gael i brosiectau ynni llif llanw tebyg yng Nghymru ac yn fyd-eang i wir helpu hyrwyddo鈥檙 sector hwn.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd o fewn y diwydiant ynni llif llanw, medd Clare Llywelyn

Ym mis Mawrth 2022, sicrhaodd prosiect Morlais 拢31m o gyllid fel rhan o'r grant mawr olaf gan raglen gyllido ranbarthol yr UE ar gyfer y cynllun.

Mae'n cynnwys ardal 35km sgw芒r o wely鈥檙 m么r ger Ynys Cybi, Ynys M么n.

Mae ganddo'r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.

Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd cynllun Morlais yn gallu darparu p诺er gl芒n ar gyfer dros 180,000 o gartrefi.

'Rhoi Ynys M么n ar y map'

Yn 么l Gareth Roberts, arweinydd gweithrediadau Morlais sydd wedi bod yn cydweithio gyda'r contractwyr Jones Bros, mae'r gwaith paratoi wedi'i wneud er mwyn hwyluso pethau i ddatblygwyr yn y dyfodol.

"Fysa chi'n gallu edrych arno fo fath'a safle carafanau," esbonia Mr Roberts.

"'Da chi'n dod 芒'ch carafan, plygio fo mewn i'r system a wedyn 'da chi'n barod i fynd.

"'Da ni wedi mynd trwy'r broses o gael caniat芒d, cael connection i'r grid, 'da ni'n ganol gwneud yr adeilad r诺an a diwedd mis Hydref 'da ni'n gobeithio bydd bob dim yn ei le.

"Fedr datblygwyr ddod, gosod eu hoffer yn y m么r, rhedeg cebl yn 么l i'r adeilad ar y tir - sydd hefyd wedi'i rannu i naw rhan - lle fydd ganddyn nhw eu hoffer wedyn i allu troi eu trydan yna'n 么l i connection ni yn 么l i'r grid."

Disgrifiad o'r llun, "O ochr ryngwladol, mae pawb yn sb茂o ar hyn," medd Gareth Roberts

Mae Mr Roberts yn credu bod Morlais "yn sicr yn rhoi Ynys M么n ar y map".

Meddai: "Mae ganddon ni 240 megawat o consent - mae hynny'r un o'r mwya'n y byd.

"O ochr ryngwladol, mae pawb yn sb茂o ar hyn.

"'Da ni'n gweithio'n agos efo cwmni o Sbaen - Magallanes - nhw ydy un o'r datblygwyr sy'n mynd i ddod yma yn 2026.

"Ond 'da ni wedi bod yn trafod efo datblygwyr o gwmpas y byd.

"Fel hogyn lleol, i weld Sir F么n ar y map - ar y world stage fel maen nhw'n deud - mae o'n ffantastig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynllun yn cynnwys ardal 35km sgw芒r o wely鈥檙 m么r ger Ynys Cybi

Bydd y bwi amgylcheddol yn aros yn y m么r oddi ar arfordir Caergybi tan ddiwedd y flwyddyn.

Pan fydd y cam yma o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol wedi'i gwblhau, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar osod tyrbinau yn y m么r yn 2026, gyda'r gwaith monitro yn parhau trwy gydol y prosiect.