成人快手

Beiciwr modur 20 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad

Y lon rhwng Llangurig a Phant-mawr Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A44 rhwng Pant-mawr a Llangurig

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys dros y penwythnos.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A44 rhwng Pant-mawr a Llangurig tua 20:00 nos Sadwrn.

Roedd beic modur Honda du yn teithio i'r gorllewin i gyfeiriad Llangurig pan aeth oddi ar y l么n.

Bu farw gyrrwr y beic modur o'i anafiadau.

Mae teulu'r dyn ifanc wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am unrhyw un 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig