成人快手

'Mwy o gartrefi gofal i gau heb ymyrraeth frys'

Bodawen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cartref Bodawen ym Mhorthmadog 97% yn llawn drwy gydol y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Bydd mwy o gartrefi gofal yng Nghymru yn cau heb ymyrraeth frys gan Lywodraeth Cymru, yn 么l Fforwm Gofal Cymru.

Mae'r fforwm wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod nifer y cartrefi gofal yng Nghymru sy鈥檔 cau oherwydd costau cynyddol yn achos o bryder sylweddol.

Mae Comisiynydd Pobl H欧n Cymru yn dweud fod y sefyllfa yn creu diwylliant 鈥渙 or-bryder ac ansicrwydd鈥.

Mae nifer y cartrefi gofal yng Nghymru ar eu hisaf ers 2015, gyda dros 500 o wl芒u yn llai nag wyth mlynedd yn 么l.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, cyfrifoldeb awdurdodau a byrddau iechyd lleol ydi gofal, ac maen nhw wedi buddsoddi 拢70m eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ceri Roberts yn rhagweld y bydd mwy o gartrefi gofal yn cau dros y misoedd a blynyddoedd nesaf

Yng nghartref gofal Bodawen ger Porthmadog mae yna le i 39 o breswylwyr.

Mae'r cartref yma - a safle Cwmni Cariad yng Nghriccieth - 97% yn llawn drwy gydol y flwyddyn.

Yn 么l y rheolwraig Ceri Roberts, dyna鈥檙 unig ffordd o gynnal gwasanaethau gyda chostau ar gynnydd.

鈥淢ae prisiau bwyd wedi mynd fyny dros 20%, incotenence products eto dros 20%, utilities wedi dyblu ac yswiriant hefyd wedi dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf," meddai.

鈥淵n anffodus does 'na鈥檓 cartrefi gofal yn cael eu hadeiladu felly fydd 'na fwy o gartrefi yn cau.鈥

Yn 么l Ms Roberts mae o leiaf pedwar cartref gofal wedi cau yng ngogledd Cymru dros y misoedd diwethaf, gan arwain at golli dros 160 o wl芒u.

Mae hi鈥檔 disgrifio鈥檙 sefyllfa fel un sydd angen ei datrys ar frys.

87 yn llai o gartrefi gofal

Mae ffigyrau Arolygiaeth Gofal Cymru yn dangos fod yna ostyngiad o 87 yn nifer y cartrefi gofal ym mis Mawrth 2023 o'i gymharu 芒鈥檙 un cyfnod yn 2015.

Mae鈥檙 ffigyrau hefyd yn dangos fod 鈥檔a ostyngiad o 520 yn nifer y gwl芒u ym mis Mawrth 2022 o'i gymharu 芒鈥檙 un cyfnod yn 2015.

Yn 么l adroddiad blynyddol y sefydliad, y prif reswm bod darparwyr yn gadael y sector yn barhaol oedd gan 鈥渘ad oedd posib cynnal y gwasanaeth yn ariannol鈥 neu fod darparwyr yn penderfynu 鈥渘ad oedden nhw eisiau bod yn gyfrifol am gartref o鈥檙 fath鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mary Wimbury fod sawl cymuned yng ngogledd Cymru yn ddibynnol ar un cartref gofal yn unig

Dywedodd prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury, fod y sefyllfa yn eithriadol o heriol.

鈥淵n anffodus dwi鈥檔 si诺r y gwelwn ni fwy o gartrefi gofal yn cau achos y pwysau a chostau.

鈥淐ostau bwyd, yswiriant a jest dim digon o arian yn dod mewn i鈥檙 sector.鈥

Ychwanegodd Ms Wimbury fod sawl cymuned yng ngogledd Cymru yn ddibynnol ar un cartref gofal yn unig, a bod graddfa鈥檙 cau yn achosi pryder sylweddol.

Dywedodd hefyd fod cartrefi yn cau yn rhoi mwy o straeon ar y cartrefi a staff gofal sy鈥檔 weddill yn y gymuned.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r sefyllfa yn "creu lot fawr o ansicrwydd a gor-bryder ymysg pobl h欧n", medd Helena Herklots

Yn 么l Helena Herklots, Comisiynydd Pobl H欧n Cymru, mae鈥檙 sefyllfa yn bryder sylweddol yng ngogledd Cymru, lle mae鈥檙 raddfa o gau yn gynt.

鈥'Da ni鈥檔 clywed am gartrefi gofal yn cau ac am bobl sy鈥檔 poeni hefyd a fydd cartref gofal eu hanwyliaid yn cau yn y dyfodol?鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 creu lot fawr o ansicrwydd a gor-bryder ymysg pobl h欧n a鈥檜 teuluoedd ac maen nhw鈥檔 delio efo sgil effeithiau'r cynnydd mewn costau byw hefyd."

Ychwanegodd Ms Herklots fod angen i staff gofal gael eu talu ar yr un raddfa a staff y Gwasanaeth Iechyd sy鈥檔 gwneud swyddi tebyg, gan ddweud fod angen datrysiad 鈥渁r frys ac ar gyfer y tymor hir鈥.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, 鈥渕ater i awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw darparu gwl芒u gofal preswyl a gofal nyrsio鈥.

鈥淩ydyn ni wedi creu fframwaith clir i bartneriaid allu gweithio鈥檔 rhanbarthol i asesu angen y boblogaeth," meddai llefarydd.

"Rydyn ni鈥檔 buddsoddi 拢70m eleni i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i gael tal sydd o leiaf yn cyfateb i鈥檙 Cyflog Byw Gwirioneddol.鈥