成人快手

Clwb ieuenctid yn poeni am y dyfodol heb fwy o gyllid

Plant clwb ieuenctid yn chwarae.
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 250 o blant wedi cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Maerdy

  • Cyhoeddwyd

Mae clybiau ieuenctid yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd yr argyfwng costau byw.

Mae un clwb ieuenctid yn Nyffryn Aman wedi dweud na fydd dewis ond cau oni bai eu bod nhw鈥檔 dod o hyd i gyllid yn y misoedd nesaf.

Daw wrth i ffigurau diweddar ddangos fod rhieni yn ei chael hi鈥檔 anodd danfon eu plant i glybiau allgyrsiol.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae 鈥渕ynd i鈥檙 afael 芒 thlodi plant yn flaenoriaeth鈥.

'Mewn trwbl' heb gyllid erbyn Chwefror

Ers 2015 mae Clwb Ieuenctid Maerdy wedi bod yn croesawu plant yr ardal, ac erbyn hyn mae dros 250 wedi cofrestru.

鈥淢a鈥檙 ffaith bo' nhw鈥檔 dod fan hyn yn golygu bo' 'da nhw rywun i siarad 芒, a rhywle le ma' nhw鈥檔 saff, yn gallu bod eu hunain heb gael ei barnu, a fi yn becso tasen ni ddim yma, lle bydden nhw,鈥 meddai Heledd Owen, rheolwr y clwb.

鈥淥s nag y'n ni鈥檔 dod o hyd i ryw gyllid erbyn mis Chwefror fyddwn ni mewn trwbl - fydd 'na bosibilrwydd wedyn fyddwn ni yn cau.

鈥淢'鈥 angen cyllid arnom ni, yn enwedig ar glybiau ieuenctid bach gwledig, achos does dim byd arall yma.

"Heb ni fi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i rai o'r plant, fi wir ddim.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Heledd Owen yn poeni beth fyddai'n digwydd i'r plant sy'n mynychu pe bai'r clwb yn cau

Mae鈥檙 ganolfan yn rhan bwysig o fywydau plant a phobl ifanc yr ardal.

鈥淢a' nhw fel teulu i fi. Fi 'di bod yma ers hir a ni鈥檔 cael ein clywed yma,鈥 meddai Aimee, sy鈥檔 13.

鈥淗wn yw鈥檙 unig glwb ieuenctid yn GCS (Gwauncaegurwen) a pryd ni鈥檔 cael discos ma' pawb yn mynd,鈥 meddai Lea, sy鈥檔 11.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aimee a Lea yn teimlo bod y clwb yn un hynod werthfawr

Yn 么l arolwg diweddar gan Sefydliad Bevan mae nifer o rieni yn ei chael hi鈥檔 anodd fforddio gweithgareddau allgyrsiol i鈥檞 plant.

Gydag un ymhob pump yn dweud nad oedd modd i鈥檞 plant gymryd rhan mewn clybiau chwaraeon, ac un ym mhob saith ddim yn gallu mynychu gwersi cerddoriaeth, dawnsio neu ddrama.

鈥淢a' tlodi yn broblem enfawr yng Nghymru. Ma' un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi,鈥 meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.

鈥淢a鈥檙 galw am wasanaethau sydd am ddim yn cynyddu, ond wrth gwrs heb arian cyhoeddus yn eu cefnogi, mae鈥檔 gylch ofnadwy sy鈥檔 golygu bod y cymorth ddim ar gael i鈥檙 plant a phobl ifanc sydd ei angen e fwyaf.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un o bob tri o blant Cymru'n byw mewn tlodi, yn 么l Dr Steffan Evans

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael 芒 thlodi plant fel blaenoriaeth.

鈥淢ae'r ystadegau ar gyfer tlodi plant yn dangos maint yr her yma yng Nghymru, a rhaid i'n hymdrechion ar y cyd barhau i ganolbwyntio ar fuddiannau plant a phobl ifanc heddiw a'r dyfodol.

"Mae ein Strategaeth Tlodi Plant newydd yn nodi ein huchelgeisiau tymor hir.

鈥淢ae hyn yn cynnwys ehangu mynediad i chwarae yn y gymuned, chwaraeon, gweithgareddau ieuenctid, a mynediad at y celfyddydau a diwylliant.鈥

Pynciau cysylltiedig