Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd mewn g锚m deyrnged i reolwr CPD Y Felinheli
Daeth dros 300 o bobl ynghyd i roi teyrnged i reolwr t卯m cyntaf Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Y Felinheli cyn eu g锚m yn erbyn Nantlle Vale nos Fercher.
Bu farw Euron Wyn Davies yn 46 oed dros y penwythnos.
Fel arwydd o barch fe gafodd g锚m y clwb, sy'n chwarae yn nhrydedd haen p锚l-droed Cymru, yn erbyn Mynydd y Fflint ddydd Sadwrn ei gohirio.
Penderfynodd y clwb y byddai'r holl arian sy'n cael ei godi yn y g锚m ar Gae Seilo nos Fercher yn cael ei roi tuag at Gronfa Goffa Euron Davies.
Fe gafodd torch o flodau ei chario i'r maes, ac fe gynhaliwyd munud o gymeradwyaeth cyn y gic gyntaf.
Yn 么l Ifan Emyr, is-gapten Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Y Felinheli, mae'r effaith a gafodd Euron Davies ar y clwb yn "anhygoel".
"O'dd o'n sioc fawr, oedda' ni'n gwybod ynghynt ei fod o 'di daro'n wael ond doeddan ni'm yn disgwyl hyn," meddai.
"'Da ni'n griw reit agos beth bynnag, ond ma' hyn wedi dod 芒 ni'n agosach at ein gilydd.
"Ma'r trawsnewidiad yn y degawd diwethaf wedi bod yn anhygoel - mae'r gwahaniaeth ar ac oddi ar y cae yn anhygoel.
"Gena ni dair gem ar 么l r诺an, a 'sa'n neis 'neud o i Euron... ennill y gemau yma, ac aros yn y gynghrair."
Ychwanegodd fod y cyfan wedi rhoi p锚l-droed mewn persbectif.
"'Neud o am yr hwyl 'da ni, a ma'n meddyliau ni'n mynd allan i'r teulu - nhw sy'n bwysig."
Dywedodd Gwilym John, dirprwy ysgrifennydd ac aelod o bwyllgor y clwb, fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn "emosiynol iawn".
"'Da ni 'di penderfynu gwneud hon yn g锚m deyrnged iddo fo," meddai.
"O'dd pawb yn ei 'nabod o, dim jest Y Felinheli. O'dd o'n reit enwog drwy p锚l-droed gogledd Cymru i gyd.
"Bydd bob dimau fydd yn dod o'r pris mynediad a phopeth yn mynd i gronfa goffa Euron, a fyny i'r teulu wedyn i wneud be fynnon nhw efo'r pres."
Ychwanegodd fod Euron wedi addo yn wreiddiol y byddai'n rheoli'r clwb am dair blynedd, ond ei fod wedi aros am 14 yn y pendraw.
"Oeddan ni yn [cynghrair] y Caernarfon District bryd hynny, ac yn stryglo," meddai Gwilym.
"Mae o 'di tynnu'r clwb o'r gwaelodion, a rywsut neu'i gilydd 'da ni 'di landio yn nhrydedd haen y pyramid Cymraeg.
"'Di ddim wedi bod yn hawdd, ond 'da ni 'di aros yma a 'di dangos ein gwerth, ac mae hynny i gyd diolch i Euron."