成人快手

Cymru 'ar ei cholled' oherwydd diffyg buddsoddiad yn y rheilffyrdd

Teithwyr ar blatfform gorsaf drenau Bangor
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru ar ei cholled oherwydd diffyg buddsoddiad yn y rheilffyrdd, yn 么l arbenigwr blaenllaw.

Dywed yr Athro Mark Barry y dylai Cymru fod yn cael llawer mwy o arian, ond oherwydd bod gwariant yn cael ei reoli o Whitehall, mae Lloegr yn fwy o flaenoriaeth.

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gael mwy o arian ar gyfer ein rheilffyrdd.

Mae'r llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn dweud bod buddsoddi yn allweddol i'w blaenoriaethau.

'Symiau bach iawn'

Yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am fuddsoddiad y rheilffyrdd.

Ond yn 么l yr Athro Barry, o Brifysgol Caerdydd, mae hynny'n golygu bod Cymru ymhell i lawr y ciw am bres.

Dywedodd bod Cymru yn derbyn tua 1% i 2% o鈥檙 cyllid sydd ar gael ond y dylen ni gael llawer mwy.

鈥淢ewn byd delfrydol byddech chi鈥檔 edrych ar 5%, 6% o gyfanswm buddsoddiad y DU mewn gwella rheilffyrdd,鈥 meddai.

鈥淥nd os na wnewch chi fuddsoddi mewn seilwaith economaidd hanfodol, yn benodol mewn ynni, trafnidiaeth a thai, yna allwch chi ddim disgwyl i鈥檆h economi droi cornel.鈥

Aeth ymlaen i esbonio bod y symiau y mae Cymru'n gofyn amdanynt yn fach iawn o'u cymharu 芒'r hyn sydd eisoes wedi'i neilltuo i reilffyrdd Lloegr.

Dywedodd: 鈥淢ae Uwchraddio鈥檙 Reilffordd Traws-Pennine yn rhaglen gyfalaf gwerth 拢10 biliwn dros 15 mlynedd.

鈥淵ng Nghymru dros y bum mlynedd diwethaf, ry鈥檔 ni wedi creu achosion busnes o ryw 拢2 i 拢3 biliwn ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd, a鈥檙 her yw sut mae hynny'n mynd i gael ei ariannu?"

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rheilffordd cyflym HS2 yn cysylltu Llundain 芒 Birmingham

Mae鈥檙 ddadl fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod ynghylch cyllid ychwanegol i Gymru o鈥檙 prosiect HS2.

Cyn ennill yr etholiad, dywedodd Llafur y dylai HS2 fod yn gynllun i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael arian o ganlyniad.

Mae Eluned Morgan hefyd yn dweud ei bod wedi siarad 芒鈥檙 Canghellor am fuddion i Gymru ar hyn.

Mae'r gwrthbleidiau am weld Cymru'n pwyso am yr arian, sy鈥檔 cael ei amcangyfrif i fod ryw 拢4 i 拢5 biliwn.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS: "Dylai Cymru fod yn cael ei chyfran deg o gyllid HS2.

"Mae angen inni wneud yn si诺r bod hynny鈥檔 digwydd fel y gallwn ei wario ar seilwaith a gwelliant i鈥檔 system trafnidiaeth yma yng Nghymru."

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Sadwrn dywedodd y newyddiadurwr trafnidiaeth Rhodri Clark bod yna fwy o gydweithio i weld rhwng llywodraethau Llafur Cymru a'r DU "ond hyd yn hyn 'dan ni ddim wedi gweld unrhyw bres newydd sylweddol ar gyfer isadeiledd" rheilffyrdd Cymru.

Ychwanegodd: "Roedd 'na gyhoeddiad tua mis yn 么l bod 'na bres i adeiladu rhai pontydd troed newydd ar linell gogledd Cymru o ganlyniad i'r berthynas well yma ond... oedd y llywodraeth [Geidwadol] ddwytha wedi bwriadu rhoi pres i hwnna hefyd."

Cafodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, ei holi am y mater yn y Senedd yn gynharach yn y mis.

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts wrth D欧鈥檙 Cyffredin: "Y gwir yw bod y rheilffyrdd wedi torri, ac mae cynllun Llafur yn methu 芒 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 tanariannu cronig sy鈥檔 ei achosi, yn enwedig yng Nghymru.

"Yn 2022, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol - Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid ar y pryd - ei bod yn 'hollol afresymegol' dynodi HS2 yn brosiect i Gymru a Lloegr, a galwodd ar y Ceidwadwyr i 'besychu' y biliynau sy鈥檔 ddyledus i Gymru. A fydd hi'n pesychu nawr?"

Mewn ymateb, dywedodd Jo Stevens: "Ni allwn fynd yn 么l mewn amser a newid y ffordd y cafodd y prosiect hwnnw ei gomisiynu, ei reoli a鈥檌 ddosbarthu gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.

"Mae angen iddynt dderbyn cyfrifoldeb am yr anhrefn, yr oedi a'r gwastraff.

"Yr hyn y gallwn ei wneud, fodd bynnag, yw gweithio鈥檔 agos gyda鈥檔 cydweithwyr yn y Senedd ac awdurdodau lleol i ddatblygu a buddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth sy鈥檔 gwella gwasanaethau i deithwyr ledled Cymru."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jo Stevens ei phenodi'n Ysgrifennydd Cymru wedi'r etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf

Mewn datganiad, cadarnhaodd Swyddfa Cymru yr hyn a ddywedodd Jo Stevens yn Nh欧鈥檙 Cyffredin ac ychwanegodd: "Yn dilyn blynyddoedd o esgeulustod, mae鈥檙 Llywodraeth newydd hon yn y DU yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

"Mae Ysgrifennydd Cymru eisoes wedi cyfarfod 芒鈥檙 Ysgrifennydd Trafnidiaeth i drafod buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru.

"Mae鈥檔 gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i nodi ystod o welliannau, ac yn ddiweddar aeth gyda Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a Gogledd Cymru i gyhoeddi gwaith uwchraddio a fydd yn cynyddu capasiti ar brif reilffordd Gogledd Cymru.

"Ochr yn ochr 芒 hyn mae鈥檙 Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o ymrwymiadau trafnidiaeth y llywodraeth flaenorol, a fydd yn sicrhau bod ein portffolio seilwaith trafnidiaeth yn sbarduno twf economaidd ac yn rhoi gwerth am arian i drethdalwyr."