Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Gall mwy o gartrefi gofal gau yn sgil rheolau mewnfudo'
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Newyddion S4C
Fe allai mwy o gartrefi gofal yng Nghymru gau oherwydd newidiadau i reolau mewnfudo Llywodraeth y DU, meddai Fforwm Gofal Cymru.
Ers mis Mawrth eleni does dim modd i'r mwyafrif sy'n dod i Brydain i weithio yn y sector gofal ddod 芒'u teuluoedd hefo nhw, wrth i'r llywodraeth geisio gostwng niferoedd mewnfudo i'r wlad.
Yn 么l un cartref gofal yn Nyffryn Conwy mae diffyg diddordeb yn lleol yn eu gwneud yn ddibynnol ar weithwyr tramor.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i ostwng niferoedd "hanesyddol uchel" o fewnfudo gyda'r bwriad o "hyfforddi mwy o weithwyr" ym Mhrydain.
Mae ystadegau'n dangos bod y nifer sy'n gwneud cais am fisa i鈥檙 DU er mwyn gweithio yn y sector gofal wedi gostwng 80% yn chwarter cyntaf 2024.
Un cartref sy'n "ddibynnol" ar staff o dramor ydy Cartref Bryn yr Eglwys ym Mhentrefoelas.
Mae gofalwyr o 10 o wledydd gwahanol yn gweithio ochr yn ochr yna i ofalu am 30 o breswylwyr.
"'Dan ni 'di bod yn trio recriwtio'n lleol ers blynyddoedd ond does 'na neb yn ceisio am y gwaith," meddai Meryl Welsby, rheolwr y cartref.
"Does neb eisiau gweithio penwythnos, [a gyda'r] nos a dydi o ddim yn attractive."
Yn 么l Ms Welsby mae newidiadau'r Llywodraeth yn gwneud y sefyllfa'n fwy heriol.
"Ma'n iawn i'r llywodraeth ddweud 'O wel, 'dach chi'm yn cael recriwtio o dramor, i ddod ag ystadegau ni lawr', ond y peth ydi, lle 'dan ni'n mynd i recriwtio?
"Does 'na'm lle na'm byd arall inni neud."
Gyda nifer o staff o dramor, mae'r cartref gofal yn Nyffryn Conwy wedi bod yn gweithio i geisio dysgu ychydig o Gymraeg i'r gweithwyr.
Daw George Michael yn wreiddiol o dde India ac mae'n dweud bod dysgu ychydig o frawddegau yn cael effaith fawr ar breswylwyr.
"Dwi'n dweud 'bore da' pan dwi'n dod i mewn a 'ti'n iawn' neu 'sut yda chi'."
Mae yntau hefyd yn credu y gallai polisi mewnfudo'r llywodraeth gael effaith negyddol.
Mae'r uwch ofalwraig Elain Morris newydd dderbyn gwobr genedlaethol am ddarparu gofal drwy'r Gymraeg a hynny o safon.
Mae hithau'n dweud bod defnydd y Gymraeg yn y sector yn hanfodol.
"Mae鈥檔 helpu teuluoedd," meddai, "ac ar ddiwedd y dydd ma'n bwysig bod yr hen bobl yn cael y gofal ma' nhw'n ei haeddu."
'Problemau mawr'
Ddechrau'r flwyddyn fe ddaeth rheolau i rym sy'n golygu nad oes modd i weithwyr y sector iechyd a gofal, a myfyrwyr sy'n dod i Brydain, ddod 芒'u teulu yma - ymgais gan y llywodraeth i fynd i'r afael 芒 niferoedd mewnfudo.
Cyn hyn fe gafodd rheolau eu llacio yn 2021 wnaeth wneud hi'n haws i weithwyr iechyd a gofal o dramor ddod i Brydain wedi Brexit.
Tra bod angen rhediad parhaus o ddata i ddod i unrhyw ganlyniad cadarn, mae'r ystadegau cychwynnol yn awgrymu gostyngiad sylweddol yn y nifer sy'n gwneud cais o dramor i ddod i weithio o fewn y sector.
Dywed Fforwm Gofal Cymru eu bod yn poeni y gallai'r newidiadau i reolau arwain at broblemau mawr.
"Mae'n mynd i fod yn bryder mawr yn y blynyddoedd nesaf," meddai Kim Ombler, perchennog cartref gofal ar Ynys M么n a llefarydd ar ran Fforwm Gofal Cymru.
"Os na allwn gael gweithwyr o dramor a hefyd methu cael gweithwyr lleol i lenwi'r bwlch, mae 'na bryder mawr allai cartrefi gau oherwydd hyn."
Ychwanegodd bod prosesau noddi gweithwyr gofal a biwrocratiaeth hefyd yn gwneud y broses yn fwy heriol.
'Cynllun clir' i ostwng niferoedd
Yn 么l Llywodraeth y DU mae "cynllun clir er mwyn gostwng niferoedd uchel o fewnfudo cyfreithlon".
"Wrth gyfuno mewnfudo, y farchnad lafur a system sgiliau rydym yn sicrhau bod modd tyfu'r gweithlu" ym Mhrydain, ychwanegodd.
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae "recriwtio a chadw staff mewn gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn her sylweddol".
Dywedodd bod gan y llywodraeth bryderon am gyhoeddiad llywodraeth flaenorol y DU i gyfyngu ar ddibynyddion yn dod i Brydain.
Er hyn dywed, "nad oes digon o ddata eto i ddangos tystiolaeth" gadarn o'r tuedd a'u bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ymgysylltu'n well gyda llywodraethau datganoledig.