成人快手

O leiaf degawd arall nes y bydd ysbyty newydd yn y gorllewin

Ysbyty Glangwili Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryderon wedi eu codi ynghylch st芒d Ysbyty Glangwili

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyfaddef bod ysbyty newydd i orllewin Cymru o bosib ddim am gael ei adeiladu am o leiaf 10 mlynedd ac "o bosib yn hirach".

Roedd ysbyty newydd i fod wedi cael ei adeiladu erbyn 2029, gyda dau safle posib eisoes wedi cael eu clustnodi - un yn Sancl锚r ac un yn yr Hendy-gwyn ar Daf.

Mae pryderon wedi eu codi ynghylch st芒d Ysbyty Glangwili, lle mae gofal brys yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd i gleifion yng ngorllewin Cymru.

Roedd strategaeth wreiddiol y bwrdd iechyd yn amlinellu y byddai鈥檙 holl waith wedi鈥檌 gwblhau erbyn diwedd 2029, gan gynnwys datblygu hybiau cymunedol, adnewyddu Ysbyty鈥檙 Tywysog Phillip ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais, ail-bwrpasu Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ac adeiladu鈥檙 ysbyty newydd.

Fe ofynnodd y bwrdd iechyd i Lywodraeth Cymru am 拢1.3bn o fuddsoddiad i weithredu'r newidiadau.

Angen adolygu lleoliad ysbyty newydd

Roedd y prif weithredwr Phil Kloer yn siarad ddydd Iau mewn cyfarfod lle wnaeth aelodau'r bwrdd iechyd benderfynu "adnewyddu" y strategaeth sy'n amlinellu strwythur gwasanaethau鈥檙 dyfodol.

Dywedodd yr Athro Kloer y byddai'n "anghywir i fwrw ymlaen 芒'r un meddylfryd" yng ngoleuni effaith Covid, technoleg fel AI, newidiadau mewn demograffeg, gordewdra, newid yn yr hinsawdd a datblygiadau mewn genomeg.

Mae papur a gyflwynwyd gan Lee Davies, cyfarwyddwr gweithredol strategaeth a chynllunio yn y bwrdd iechyd, yn nodi bod costau cyflawni鈥檙 strategaeth wreiddiol wedi cynyddu oherwydd chwyddiant ac er y gallai gweithredu fesul cam gynyddu cost gyffredinol y rhaglen, gallai datblygiad graddol ei wneud yn 鈥渇wy fforddiadwy i Lywodraeth Cymru".

Mae papur y bwrdd iechyd yn dweud y gallai fod yn rhaid iddyn nhw adolygu lleoliad yr ysbyty newydd er gwaethaf ymgynghoriad cyhoeddus hirfaith i greu rhestr fer o ddau safle posib.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae amserlen fanwl yn ansicr ar hyn o bryd, ond mae鈥檔 hanfodol dilyn canllawiau achos busnes y Trysorlys ar brosiectau isadeiledd mawr fel hyn."

Yn yr un cyfarfod cadarnhaodd y bwrdd iechyd ddiffyg o 拢64m yn eu cyfrifon, er gwaethaf cyflawni arbedion o 拢32.4m.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda:

"Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn adnewyddu ei strategaeth ac yn ystyried newidiadau pellach sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel, o ansawdd a chynaliadwy ar draws ysbytai, a lleoliadau sylfaenol a chymunedol, mewn cyfarfod bwrdd y cytunwyd arno heddiw.

"Clywodd y Bwrdd gyfuniad o resymau pam fod gwasanaethau iechyd o dan bwysau sylweddol ar draws y DU, a鈥檙 heriau penodol yng ngorllewin Cymru.

"Mae strategaeth y Bwrdd, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, a gyhoeddwyd yn 2018, yn manylu ar y materion sy鈥檔 ymwneud 芒 darparu gofal ar draws lleoliad mawr a gwledig yn bennaf, gyda rhai gwasanaethau鈥檔 cael eu darparu ar draws sawl safle.

"Gweledigaeth y strategaeth yw mwy o ofal ataliol, a darpariaeth mewn lleoliadau cymunedol pryd bynnag y bo modd.

"Disgwylir i ddiweddariadau ar y cynnydd tuag at ymgynghori ar gyfer gwasanaethau ysbyty (CSP), a datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol gael eu trafod eto gan y Bwrdd Iechyd ym mis Ionawr 2025."

Pynciau cysylltiedig