Cofio 50 mlynedd ers sefydlu papur bro Llais Ogwan
- Cyhoeddwyd
Mae pobl Dyffryn Ogwen yn dathlu hanner can mlynedd ers sefydlu eu papur bro.
N么l yn 1974 daeth gwirfoddolwyr at ei gilydd i geisio hybu brogarwch ac annog pobl i ddarllen ac ysgrifennu'n Gymraeg.
Ar 么l sefydlu rhwydwaith o bobl oedd yn barod i ysgrifennu, golygu, hel hysbysebion a gwerthu drws i ddrws, cyhoeddwyd Llais Ogwan am y tro cyntaf ym mis Hydref 1974.
Hanner canrif - a 557 rhifyn - yn ddiweddarach, mae digwyddiadau i ddathlu鈥檙 garreg filltir yn cael eu cynnal ac mae arddangosfa i鈥檞 gweld yn Neuadd Ogwen, Bethesda.
Un o鈥檙 rhai tu 么l i鈥檙 papur oedd Ieuan Wyn, sy鈥檔 wreiddiol o Ddyffryn Ogwen, ond oedd yn athro yn Aberaeron ar ddechrau鈥檙 70au.
Wrth fynd i gyfarfodydd y mudiad gwleidyddol Adfer a cheisio meddwl am ffyrdd i warchod ac adfywio鈥檙 fro Gymraeg daeth y syniad o sefydlu papurau bro yn bwnc trafod.
Meddai Ieuan Wyn: 鈥淩oedd papurau fel y North Wales Weekly News a鈥檙 Chronicle a鈥檙 Cambrian News - ond sut oedd cael pobl i ddod i arfer efo darllen Cymraeg, ac ella sgwennu yn y Gymraeg a chasglu newyddion a sgwennu straeon yr ardal a chwaraeon a hanes lleol?
鈥淩o鈥檔 i mewn cyswllt efo Derfel (Roberts) ac yn dod fyny ar benwythnosau ac roedda ni鈥檔 siarad am sut i sefydlu papur.鈥
'Rhan o fywyd cymunedol'
Felly daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd i geisio rhoi system mewn lle i fedru creu papur bro - a phenodwyd Derfel Roberts fel y golygydd cyntaf.
鈥淒wi methu meddwl r诺an faint o egni oedd angen yn y dyddiau cynnar - faswn i byth yn gallu ei wneud o heddiw," meddai Derfel.
鈥淩o鈥檔 i newydd ddechrau gwaith newydd yn dysgu, newydd symud t欧 i Gerlan, roedd y plant yn ifanc ac felly ro鈥檔 i angen amser i鈥檙 plant a鈥檙 teulu, ac roedd 'na lot o waith caib a rhaw i鈥檞 wneud cyn i鈥檙 papur ddod allan - yn siarad efo pobl, sgwennu, rhoi鈥檙 papur at ei gilydd.
鈥淒o鈥檔 i ddim yn meddwl am y peth, roedd o鈥檔 rhan o fywyd cymunedol, ac wrth gwrs roedd cariad at yr iaith ac eisiau i鈥檙 iaith barhau yn rhan o鈥檙 peth.鈥
Roedd yn amser llawn bwrlwm gyda nifer o bapurau bro yn codi ar hyd a lled Cymru, gyda鈥檙 Dinesydd yng Nghaerdydd fis Ebrill 1973 yn cael ei gydnabod fel y cyntaf o鈥檙 cyfnod.
Doedd 'na ddim ffasiwn beth 芒 chyfrifiadur nac e-bost na chamera digidol bryd hynny wrth gwrs. Roedd rhaid i'r criw sgwennu popeth efo llaw a'i roi i Miss Gwyneth Barlow (Mrs Gwyneth Williams wedi hynny) oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor fel ysgrifenyddes i鈥檞 deipio.
Ar 么l derbyn y straeon yn 么l, roedd yn rhaid eu torri a鈥檜 gludo ar dempled cardfwrdd, gan adael gofod i鈥檙 lluniau - a鈥檜 cludo i鈥檙 wasg. Wedyn ar 么l derbyn popeth yn 么l o鈥檙 wasg rai dyddiau yn ddiweddarach roedd yn rhaid cael criw i鈥檞 plygu gyda llaw a鈥檜 dosbarthu.
'Pwysig i'r bobl berchnogi'r papur'
Mae Bethesda yn draddodiadol yn gryf o blaid Llafur, ac felly roedd 'na rai yn ddrwgdybus bod y papur bro Cymraeg newydd gyda chysylltiad 芒鈥檙 鈥楤laid Bach鈥. Ond o fewn dau neu dri rhifyn fe sylweddolodd pobl nad oedd gan Blaid Cymru - nac unrhyw blaid arall - unrhywbeth i鈥檞 wneud 芒'r papur, ac mai papur yr ardal oedd hi.
鈥淩oedd pobl yn fodlon ac yn barod iawn i helpu a chyfrannu,鈥 meddai Derfel.
鈥淎r y dechrau roedd ambell un yn dweud 'pam yda chi wedi s么n amdana ni yn y papur?', ond ar 么l ychydig 鈥榩am yda chi heb roi ni yn y papur鈥 oedd hi,鈥 meddai Dilwyn Pritchard, oedd yn is-olygydd ar y cychwyn cyntaf.
Meddai Ieuan Wyn, wnaeth symud yn 么l i鈥檙 ardal yn 1975 i fagu ei deulu: 鈥淲naeth Derfel a Dilwyn roi sylfaen gadarn yn y dyddiau cyntaf - roedd hynny鈥檔 bwysig, a bod pobl Dyffryn Ogwen yn perchnogi鈥檙 papur - a bod 鈥榥a gefnogaeth yn yr ardal.鈥
'Cymaint o fygythiadau i'n cymunedau'
Mae鈥檙 papur yn dal i ddod allan bob mis, a鈥檙 gwerthiant dal yn iach - sy鈥檔 wahanol iawn i nifer o鈥檙 papurau lleol masnachol oedd yn ffynnu yn yr 1970au.
Dywedodd Ieuan Wyn: 鈥淢ae鈥檔 her, mae cymaint o fygythiadau gwahanol i鈥檔 cymunedau ni ond hyd yma mi rydan ni鈥檔 dal ein tir a chyn belled 芒 bod y papur yn adlewyrchu bywydau'r bobl, yna mae o鈥檔 berthnasol iddyn nhw.
鈥淯n peth sydd wedi newid - yn y dyddiau cynnar roedd gen ti Derfel fel golygydd, ac wedyn Dilwyn yn is-olygydd鈥 y gwahaniaeth mawr r诺an ydi bod ganddon ni 11 golygydd, fel golygydd y mis, ac mi rydan ni鈥檔 ffodus o gael criw ifanc da.鈥
Ychwanegodd Derfel: 鈥淯n o鈥檙 pethau sydd wedi codi fy nghalon i ydi gweld y plant ifanc yn dod yma i weld yr arddangosfa ac yn mwynhau edrych ar yr hen bapurau a鈥檙 straeon - ac yn deud 鈥榯aid fi ydi hwnna鈥 - ac efo gwir ddiddordeb.鈥
Mae hynny鈥檔 brawf yn ei hun bod rhan o hanes y dyffryn dros y 50 mlynedd diwethaf wedi ei groniclo gan Llais Ogwan. Mae hyn yn cynnwys straeon am bobl yr ardal ond hefyd straeon sy鈥檔 adlewyrchu hanes Cymru ehangach - fel y stori dudalen flaen gyntaf un am ddymchwel capel.
A beth am lwyddiannau un o'r prif resymau dros sefydlu鈥檙 papur - o hybu鈥檙 iaith?
Wrth edrych yn 么l mae鈥檔 gwestiwn sy'n anodd iawn rhoi barn arno, meddai Derfel: 鈥淢ae鈥檔 anodd ei fesur o鈥檔 wyddonol, ond mae 鈥榥a deimlad o 鈥榳naethon ni drio鈥檔 gorau鈥.
"Mi ryda ni wedi brwydro yn erbyn grymoedd anferth, bydeang, ac i ba raddau all diwylliant bychan mewn gwlad fechan ddal ei dir yn erbyn y math yna o ddylanwad, dwi ddim yn gwybod.鈥
Ychwanega Ieuan Wyn: 鈥淒wi鈥檔 si诺r, o feddwl am yr holl ymdrech, a phob ymdrech i gefnogi鈥檙 iaith Gymraeg sydd wedi digwydd ers y 1960au, mi fyddai鈥檔 sefyllfa waeth tasa'r rheiny heb ddigwydd a鈥檙 ymdrech heb ei wneud.鈥
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023