Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y gymuned yn cofio 120 mlynedd ers boddi Cwm Elan
- Awdur, Mari Grug
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
鈥淩oedd fy hen nain a thaid yn byw yn Henfron ac fe welson y cyfan yn digwydd am fod y fferm yn edrych i lawr dros argae Garreg Ddu.
鈥淩oedden nhw鈥檔 teimlo鈥檔 drist iawn am yr holl beth.鈥
120 o flynyddoedd ers i Gwm Elan ym Mhowys gael ei foddi i ddarparu d诺r i ddinas Birmingham, mae鈥檙 gymuned yn cofio.
Colli tir ond cadw鈥檙 t欧 oedd hanes teulu Betty Davies n么l yn 1893.
Yn cyfri' eu hunain yn un o鈥檙 rhai lwcus, fe gollodd hyd at 100 o鈥檜 cymdogion y cyfan.
Cafodd dau blasty a dros 40 o adeiladau eu dymchwel, gan gynnwys 18 o ffermydd, melin fechan, ysgol a chapel.
Fe ailadeiladwyd yr ysgol a鈥檙 capel ar gyfer y 10,000 o weithwyr oedd yn adeiladu鈥檙 pedwar argae.
Meddai Betty Davies: 鈥淧an gafodd yr argae ei adeiladu, gafodd y ffordd oedd yn arwain i fyny at y t欧 ei ddinistrio.
"Buodd y teulu yn byw yno heb fynediad am 55 o flynyddoedd nes bod Birmingham yn adeiladu ffordd dros dro at y t欧.鈥
Hanes 'anesmwyth'
D诺r Cymru sy'n berchen ar gronfa dd诺r Cwm Elan erbyn hyn, gyda d诺r yn dal i deithio 70 filltiroedd, trwy rym disgyrchiant, i ddinas Birmingham.
Mae d诺r hefyd yn teithio i ganolbarth a de Cymru.
Yn cydnabod hanes sy鈥檔 鈥渃reu anesmwythdod鈥, fe ddywedodd Gwyddno Dafydd o D诺r Cymru bod dathlu 120 o flynyddoedd yn bwysig.
鈥淢ae yna bynciau dadleuol yngl欧n 芒 chodi鈥檙 argae ac falle bod yr hanes yn creu anesmwythdod.
"Fe gafodd y penderfyniad ei wneud, ac falle bod agweddau o hynny yn anodd, ond ni byth eisiau anghofio'r hanes."
Un o鈥檙 pethau sy鈥檔 denu degau ar filoedd o dwristiaid i Gwm Elan bob blwyddyn yw dyluniad unigryw yr argaeau.
Ychwanegodd Mr Dafydd: 鈥淢ae d诺r yn teithio dros ochr waliau yr argae ac mae hynny yn wahanol iawn i argaeau eraill.
"Fe wnaethon nhw feddwl yn galed nid yn unig am sut oedd y system yn gweithio, ond sut mae'n edrych i sicrhau bod elfen smart i鈥檙 gwaith oedd yn cael ei wneud yma.鈥
'Cyfnod trawsnewidiol i鈥檙 cwm'
Fe gafodd Ddeddf Cynllun D诺r Corfforaeth Lerpwl gael ei phasio ym 1880, a arweiniodd at adeiladu Cronfa Llyn Efyrnwy.
Yn fuan wedyn, yn 1893, daeth cynllun Cwm Elan.
Ar y pryd, hon oedd y gronfa dd诺r artiffisial fwyaf yn Ewrop.
Mae Bethan Hopkins-Williams yn gweithio i鈥檙 Comisiwn Brenhinol, sydd 芒 chofnodion o bensaern茂aeth yr adeiladau a gollwyd, yn ogystal 芒 deunydd archif o鈥檙 hanes.
鈥淩oedd cymuned Cwm Elan yn amaethyddol iawn ac yn un glos iawn. Roedd cneifio yn ddiwrnod pwysig a byddai鈥檙 ffermydd i gyd yn cyd-dynnu," meddai.
Mae cofnodion o鈥檙 cyfrifiad yn dangos yr amrywiaeth o lefydd aeth cymuned Cwm Elan i fyw yn dilyn y boddi.
鈥淥herwydd mai bugeila oedd gwaith sawl un, aeth nifer i ffermydd cyfagos," meddai Ms Hopkins-Williams.
"Mae tystiolaeth trwy鈥檙 cyfrifiad yn dangos bod eraill wedi mynd yn bellach i ffwrdd ac yn cael gwaith diwydiannol yn ne Cymru, yn y glofeydd.
鈥淢ae hefyd yn bwysig cofio bod cymuned wedi ei chwalu, ond bod cymuned newydd enfawr wedi symud i mewn i鈥檙 ardal er mwyn adeiladu鈥檙 argae.
鈥淒aeth miloedd o bobl a鈥檜 teuluoedd, i fyw yma o Loegr, Yr Alban, Iwerddon ac o ardaloedd rhyngwladol hefyd - Seland Newydd, Awstralia, Yr Eidal a Denmarc.
"Roedd yn gyfnod trawsnewidiol i鈥檙 cwm.鈥
Mae鈥檙 genhedlaeth nesaf yn byw ar fferm Henfron heddiw, sef nith Betty, Tony Davies.
鈥淢ae rhywfaint o ddrwgdeimlad yn dal i fodoli yn lleol am yr argae, ond mae Cwm Elan yn lle prydferth iawn heddiw.
"Fe gafodd pentref newydd ei greu yn is lawr y dyffryn a cafodd swyddi eu creu.
"Roedd yn le prydferth cyn adeiladu鈥檙 argae ac mae鈥檔 le prydferth nawr hefyd.
鈥淥es, mae straeon trist am hanes rhai 'naeth orfod symud, ond fe arhosodd llawer iawn o鈥檙 bobl yn lleol ac mae鈥檙 cysylltiadau teuluol yna鈥檔 dal i fodoli yn Rhaeadr heddiw."
'Symud ymlaen'
Yn cytuno, ychwanegodd Betty Davies: 鈥淢ae rhai o鈥檙 teuluoedd yn dal i deimlo鈥檔 chwerw. I fi, mae'n rhaid i ni geisio symud ymlaen.
鈥淢ae cymaint o ymwelwyr yn dod i Rhaeadr heddiw.
"Byddai鈥檙 cwm wedi bod yn un cyffredin, digon tawel, heb yr argae - ond mae'n brysur yma heddiw.
"Er ein bod ni dal i deimlo yn drist am yr hanes wrth gwrs."